Alexa a Loki yn awchu am fwy ar ôl llwyddiant yng nghystadleuaeth Crufts
Myfyrwraig o Glynllifon a'i chi defaid yn creu argraff fawr ar y beirniaid ar eu hymddangosiad cyntaf yn sioe gŵn enwocaf y byd
Mae myfyriwr o Goleg Glynllifon, Alexa Healey, yn edrych ymlaen at gymryd rhan mewn mwy o gystadlaethau gyda’i chi defaid (boarder collie), Loki, ar ôl gorffen yn y drydydd safle yn Crufts eleni.
Daeth Alexa, sy’n astudio Rheolaeth Anifeiliaid Lefel 3, yn drydydd yng nghategori 'Young Kennel Club Novice Obedience', ar gyfer hyfforddwyr 18 i 24 oed.
Dyma’r tro cyntaf iddi gystadlu yn sioe gŵn enwocaf y byd, gan wneud ei llwyddiant yn un fwy trawiadol fyth.
“Roedd Crufts yn anhygoel,” meddai Alexa. “Roedd yn brofiad da – ychydig yn frawychus gan mai dyma’r tro cyntaf i mi gystadlu, ond roedd dod yn drydydd gyda Loki yn cŵl iawn.
“Dw i ond wedi bod yn cystadlu yn y categori ufudd-dod ers ychydig o amser, felly roedd cystadlu yn Crufts ac ennill y trydydd safle yn anhygoel.”
Mae Alexa hefyd yn cystadlu gyda Loki yn y categori pêl hedfan (gamp ystwythder i gŵn gan ddefnyddio pêl), ac mae'n bwriadu cystadlu mewn gemau rhagbrofol ar gyfer Crufts 2026.
“Mae yna dipyn o gystadlaethau trwy gydol y flwyddyn, felly dwi’n teithio ar draws y wlad yn cystadlu mewn rhai gwahanol,” meddai. “Dw i'n mynd i sawl un bob mis fel arfer. Dw i'n gobeithio cystadlu yn rhai o gemau rhagbrofol Crufts a phrofi'r un peth eto.”
Mae Alexa yn credu bod ei chwrs yng Nglynllifon yn darparu sylfaen ddelfrydol wrth iddi dargedu gyrfa yn gweithio gydag anifeiliaid.
Meddai: “Dw i wrth fy modd ag ochr ymarferol y cwrs. Dw i wrth fy modd ennill profiad ymarferol gyda'r anifeiliaid, wrth hefyd ddysgu'r ochr theori i gefnogi hynny. Dw i'n meddwl ei fod yn help mawr i'ch dealltwriaeth o ofal anifeiliaid.
“Hoffwn i wneud ychydig o bethau gwahanol yn y dyfodol. Naill ai hyfforddi cŵn, neu weithio gydag anifeiliaid, efallai fel ceidwad sw neu mewn gofal milfeddygol, neu hyd yn oed rhywbeth fel gweithio mewn llety cŵn. Dw i'n caru cŵn, felly byddai'n wych gallu bod o gwmpas cŵn.”
Dywedodd Rebecca King, darlithydd mewn Gofal Anifeiliaid yng Nglynllifon: “Mae Alexa a Loki ill dau wedi gweithio’n galed iawn ar gyfer y gamp wych hon a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn eu cystadlaethau yn y dyfodol.”
Ydych chi eisiau gweithio yn y sector anifeiliaid a milfeddygol? Mae Glynllifon yn cynnig ystod o gyrsiau o Lefel 1 i fyny, gan gynnwys prentisiaethau mewn Nyrsio Milfeddygol. Dysgwch ragor yma