Anna a Ffion yn derbyn cydnabyddiaeth yng ngwobrau 'It's My Shout'
Myfyrwyr Celfyddydau Perfformio Coleg Menai yn ennill gwobrau'r Actores Orau a'r Actores Gefnogol Orau am eu rhan mewn ffilmiau a ddarlledwyd ar y BBC ac S4C
Mae myfyrwyr Coleg Menai, Anna Walker a Ffion Jones, wedi ennill gwobrau am eu rhannau mewn ffilmiau a ddangoswyd ar deledu cenedlaethol.
Cafodd Anna a Ffion eu cydnabod yng Ngwobrau 'It’s My Shout 2025', a gynhelir bob blwyddyn fel rhan o gynllun i roi profiad amhrisiadwy o’r diwydiant ffilm i bobl ifanc Cymru.
Enillodd Anna wobr am yr Actores Orau am ei rôl fel Laura yn ‘I’m Not Awake and Neither are You’, ac enillodd Ffion wobr am yr Actores Gefnogol Orau ar ôl chwarae rhan Alaw yn ‘Dysgu Hedfan’.
Cafodd y ddwy ffilm eu cynhyrchu'n llwyr gan ddysgwyr Coleg Menai, ac maent ar gael i’w ffrydio ar BBC iPlayer (‘I’m Not Awake and Neither are You’) ac S4C Clic (‘Dysgu Hedfan’).
Yn ‘I’m Not Awake and Neither are You’, mae cariad cymeriad Anna, sef Laura, yn marw'n sydyn, a chaiff hi gynnig cyffur sy’n ei galluogi i'w weld eto.
Dywedodd Anna: “Mae'n ymwneud â galar. Mae hi'n osgoi derbyn ac mae'n dangos y frwydr amrwd o golli rhywun rydych chi'n ei garu. Mae’n dangos ei thaith gyda galar a sut mae hi’n disgyn i mewn i fyd cyffuriau.”
Pan ofynnwyd iddi am y budd a gafodd o gymryd rhan yn 'It's My Shout', dywedodd Anna: “Mi wnes i fagu llawer o hyder ynof fi fy hun, a dysgais lawer hefyd am y gwahaniaeth rhwng actio ar lwyfan ac ar y sgrin. Ro’n i wrth fy modd â’r profiad o fod ar y set a’r holl wahanol bobl y cefais gyfle i’w cwrdd.”
Yn ‘Dysgu Hedfan’, mae Ffion yn chwarae rhan disgybl ysgol uwchradd, Alaw, y mae ei ffrind gorau Erin yn dechrau magu teimladau amdani hi.
Meddai: “Mi wnes i wir fwynhau gweithio gyda fy ffrindiau ar y prosiect. Roedd yn brofiad newydd ac roedd yn gyffrous iawn.
“Dwi wedi magu llawer o hyder, a dwi’n gwybod rŵan sut beth yw bod ar set ffilm.”
Derbyniodd Anna a Ffion, sydd ill dwy yn astudio Celfyddydau Perfformio Lefel 3, eu gwobrau ar y llwyfan yn ICC Casnewydd, yn ystod seremoni arbennig i ddathlu 25 mlynedd o 'It's My Shout'.
Mae 'It's My Shout' yn gynllun blynyddol ar gyfer pobl sydd eisiau gweithio ym myd ffilm a theledu, boed o flaen y camera neu mewn meysydd fel sain, gwallt a cholur, gwaith camera a dylunio set.
Caiff dysgwyr eu mentora gan weithwyr proffesiynol blaenllaw yn y diwydiant. Y cynllun yn aml yw’r cam cyntaf i weithio ym myd ffilm a theledu, gyda’r seremoni wobrwyo flynyddol yn cynnig cyfleoedd rhwydweithio yn ogystal â chyfle i ddathlu llwyddiant y myfyrwyr.
Mae Coleg Menai wedi gweithio gydag 'It's My Shout' ers dros 15 mlynedd, gan greu dwy ffilm y flwyddyn (un yn Saesneg ac un yn Gymraeg) sy'n cael eu darlledu ar BBC ac S4C ac sydd ar gael i'w ffrydio am 12 mis wedi hynny.
Dywedodd Lisa Jones, Arweinydd Rhaglen Celfyddydau Perfformio Lefel 3: “Mae hwn yn gyfle gwych i ddysgwyr rwydweithio, gweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant, datblygu eu portffolio ac ychwanegu’r enwau hollbwysig y BBC ac S4C at eu CVs.
“Mae’r prosiectau hyn yn rhoi cyfle i bob myfyriwr i dyfu ac i ddysgu, waeth beth fo'u rôl, boed hynny o flaen y camera neu y tu ôl iddo. Mae’n rhoi cipolwg go iawn iddynt ar y diwydiant a’r hyn a fydd yn ofynnol ohonynt.”
Meddai Paul Edwards, Rheolwr y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai: “Mae ein cydberthynas hir sefydlog ag 'It’s My Shout' yn rhoi llwyfan ardderchog i’n dysgwyr gael cipolwg ar y diwydiant teledu a ffilm.
“Rydyn ni mor falch o’n dysgwyr a gymerodd ran yn y ddwy ffilm, ac roedd yn wych gweld Anna a Ffion yn derbyn eu gwobrau.”
Dywedodd Anna a Ffion fod 'It's My Shout’ yn enghraifft o'r cyfleoedd anhygoel a gynigir fel rhan o'u cwrs coleg.
Ychwanegodd Anna: “Dwi wrth fy modd bod pawb yn gefnogol, a dwi wir yn mwynhau'r agwedd gorfforol, boed hynny’n ddawnsio, canu neu actio.
“Heb os, mae’r coleg wedi fy helpu i fagu mwy o hyder, ond hefyd mae’n rhoi cymaint o gyfleoedd a phrofiadau anhygoel i mi.”
Dywedodd Ffion: “Rydyn ni’n cael gwneud pethau gwahanol bob dydd – dydy hi byth yn ddiflas. Mae rhoi cynnig ar bethau newydd bob dydd yn hwb mawr i’ch hyder, ac mae’n eich gwneud chi’n barod ar gyfer bywyd ar ôl y coleg.”
Ydych chi eisiau gweithio yn y celfyddydau perfformio? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau o Lefel 1 hyd at Addysg Uwch, gan gynnwys cyfleoedd ymarferol i ddatblygu eich sgiliau perfformio a pherfformio mewn theatrau proffesiynol. Dysgwch ragor yma.