Cogyddion y fyddin yn rhoi gallu pen-cogyddion dan hyfforddiant ar brawf
Ym mwyty Orme View Coleg Llandrillo, cafodd y dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo 90 munud i greu pryd tri chwrs o becynnau dogn y Fyddin
Heriodd cogyddion y fyddin fyfyrwyr arlwyo Coleg Llandrillo i gynhyrchu pryd tri chwrs o becynnau dogni milwrol.
Ymwelodd cogyddion o Gatrawd Cymorth Arlwyo 167'r Corfflu Logisteg Frenhinol (Byddin wrth gefn) â bwyty Orme View yn Llandrillo-yn-Rhos, i brofi dysgwyr sy'n dilyn cwrs Lefel 1 mewn Lletygarwch ac Arlwyo drwy dasg o steil Masterchef ond â thro yn ei chynffon.
Rhoddodd yr Is-gorporal Barry Sharp a’r Sarsiant Jay Bartlett 90 munud i’r myfyrwyr greu cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin o becynnau dogn 10 dyn y Fyddin. Roedd y rhain yn cynnwys cynhwysion fel cigoedd wedi’u coginio, sawsiau, tatws, pasta, reis, llysiau a bisgedi.
Rhannwyd y dysgwyr yn dimau o chwech, gydag un o bob grŵp wedi’i benodi’n brif gogydd. Ar wahanol adegau yn y broses, roedd timau'n cael eu cymysgu a'r prif gogyddion yn cael eu cyfnewid - gan ail-greu amodau bywyd real, pan fydd yn rhaid i gogyddion y Fyddin addasu ar fyr rybudd.
Yna roedd cogyddion y Fyddin a darlithwyr arlwyo'r coleg yn barnu'r seigiau roedden nhw'n eu gweini ar flas, gwead, ymddangosiad a gwreiddioldeb.
Creodd y myfyrwyr seigiau blasus gan gynnwys cyri pwmpen cnau menyn, stwnsh cig eidion tun, ffriter nionyn, sawl math o gawl, crwst choux, bisgedi bara byr a tharten siocled ac oren.
Gwnaeth un tîm gacen gaws hyd yn oed, gan ddefnyddio caws tun yn lle caws hufen. Enillodd hon ysgydwad llaw gan yr Is-gorporal Sharp, a phleidleisiwyd hi'n bwdin gorau, ar y cyd â phwdin bara menyn.
Dywedodd Sarsiant Bartlett: “Rhoddwyd pecynnau dogn 10 dyn y Fyddin i’r myfyrwyr, sy’n bwydo 10 o bobl am gyfnod o 24 awr. Cawsant y dasg o wneud dau ddogn o gwrs cyntaf, dau ddogn o brif gwrs a dau ddogn o bwdin yn y cyfnod amser.
“Fe wnaethon ni rannu pawb yn grwpiau, ac nid o reidrwydd gyda’u ffrindiau, i’w cael nhw allan o’u cynefin.
“Yn ddelfrydol mae pob person yn cael swydd yn gwneud un o’r seigiau, ond maen nhw hefyd angen dealltwriaeth o beth yw’r seigiau eraill, oherwydd roedd yr Is-gorporal Sharp yn taflu newidiadau bach i mewn i’r senario trwy dynnu pobl oddi wrth y tîm, fel sy'n gallu digwydd yn y Fyddin.
“Mae’n rhoi profiad i’r myfyrwyr, gan gynnwys gweithio mewn tîm, a gobeithio ar y diwedd eu bod nhw wedi dysgu rhywbeth a chael ychydig o hwyl.”
Roedd y diwrnod yn llwyddiant, gyda myfyrwyr yn mwynhau’r her ac o leiaf un yn gwneud cais i ymuno â’r Fyddin.
Dywedodd Jamie Heaney: “Roedd yn brofiad anhygoel. Roedd fel bod ar gêm - rydych chi'n cael eich tynnu allan o geginau, cyfnewid timau, yn gorfod defnyddio pecynnau dogn yn unig.
“Fe wnes i fwynhau cael fy rhoi mewn grwpiau gyda phobl nad oeddwn wedi gweithio gyda nhw o’r blaen – roedd yn braf gallu dysgu sgiliau newydd oddi wrth ein gilydd.”
Dywedodd Kim Protheroe: “Roedd yn ymestyn eich creadigrwydd, ac roeddwn i’n hoffi’r elfen lle’r oedd y prif gogyddion yn cael eu dwyn bob hyn a hyn er mwyn ein taflu ni i mewn i her newydd. Roedd mor ddoniol gweld a fyddech chi'n cael eich taflu i ffwrdd wrth wneud un o'r heriau."
Dywedodd Jamie Budgen: “Fe wnes i fwynhau cael fy symud i mewn ac allan o’r ceginau, a gorfod darganfod beth sydd angen i chi ei wneud pan nad ydych chi’n gwybod beth sydd wedi digwydd yn y gegin honno’n barod.”
Dywedodd Andrew Ash: “Roedd fel yr heriau ar Masterchef lle rydych chi'n cael blwch dirgel a dydych chi ddim yn gwybod beth sy'n mynd i fod ynddo. Roedd gwneud hyn yn gyfle unwaith mewn oes.”
Awydd astudio Lletygarwch ac Arlwyo gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.