Murlun Myfyrwyr yn ysbrydoli tîm Bangor 1876
Y murlun yw'r cyntaf o nifer o brosiectau cyffrous sydd ar y gweill rhwng myfyrwyr Cwrs Sylfaen mewn Celf yng Ngholeg Menai a'r clwb pêl-droed o gynghrair Cymru North
Mae myfyrwyr o adran gelf Coleg Menai wedi peintio murlun newydd yn ystafell newid y tîm cartref yn Stadiwm Nantporth, cartref Bangor 1876.
Y dysgwyr o'r adran gelf ddyluniodd y murlun gan ddefnyddio adborth gan y cefnogwyr, y chwaraewyr a'r rheolwr Michael Johnston i'w cynorthwyo.
Treuliodd y myfyrwyr ddiwrnod a hanner yn peintio’r murlun, ac roedd wedi'i orffen mewn da bryd i ysbrydoli’r tîm ar gyfer gêm gartref cynghrair Cymru North yn erbyn Caersws dydd Sadwrn.
Gosodwyd y murlun fel prosiect grŵp i fyfyrwyr sy'n dilyn modiwl dylunio graffeg y cwrs sylfaen mewn Celf ar gampws Parc Menai. Ond bu cyfle hefyd i fyfyrwyr o bob maes arbenigol ymwneud â phaentio'r dyluniad terfynol.
Dywedodd arweinydd y cwrs, Owein Prendergast: “Mae’r adran Gelf wedi bod yn trafod hyn gyda CPD Bangor 1876 ers rhai misoedd a'r bwriad ydy cynllunio sawl prosiect celf cyffrous yn ardal Bangor yn ymwneud â hanes pêl-droed cyfoethog yr ardal.
“Dyma’r prosiect cyntaf i ddwyn ffrwyth, ac mi gafodd y myfyrwyr brofiad gwerthfawr o weithio gyda chleient.
Yn ystod y broses ddylunio, fe gawson nhw adborth gan rai cefnogwyr, y tîm pêl-droed a’r rheolwr Michael Johnston. Cymerodd y dyluniad terfynol ddiwrnod a hanner i'w beintio, ac fe'i cwblhawyd mewn pryd ar gyfer gêm gartref Bangor 1876 yn erbyn Caersws ddydd Sadwrn.
Mi weithiodd y myfyrwyr yn hynod o galed i’w gwblhau. Roedd yn brofiad pleserus a’r gobaith ydy y bydd yn rhoi hwb i’r tîm.”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn astudio Celf a Dylunio gyda Grŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.