Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Enwebu Tîm Interniaeth a Gefnogir Coleg Llandrillo ac Asda am wobr 'Dewis y Bobl'

Cynhelir cystadleuaeth Dewis y Bobl DFN Project SEARCH bob blwyddyn i nodi Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir (27 Mawrth)

Mae rhaglen Interniaeth a Gefnogir Coleg Llandrillo gydag Asda wedi'i enwebu am wobr flynyddol 'Dewis y Bobl' DFN Project SEARCH.

Mae'r interniaeth yn bartneriaeth rhwng y coleg, Asda Llandudno a DFN Project SEARCH - elusen sy'n gweithio gyda chyflogwyr a darparwyr addysg i drawsnewid cyfleoedd gwaith i bobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu gyflwr sbectrwm awtistiaeth.

Ar hyn o bryd, mae chwe dysgwr ar yr interniaeth yn Asda Llandudno, ac yn cael hyfforddiant theori a hyfforddiant yn y gwaith yn yr archfarchnad wrth weithio mewn gwahanol adrannau gan gynnwys bwyd, glanhau, porthora, y tiliau hunanwasanaeth, dillad a mwy.

Cynhelir cystadleuaeth Dewis y Bobl bob blwyddyn i nodi Diwrnod Cenedlaethol Interniaeth a Gefnogir (27 Mawrth). Mae'n rhoi cyfle i safleoedd interniaeth a gefnogir i arddangos eu creadigrwydd, eu gwaith tîm a'u hymgysylltiad mewn ymgais i ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau gan y cyhoedd a chael eu coroni'n enillydd.

Drwy gydol yr wythnos, mae tîm Interniaeth a Gefnogir Coleg Llandrillo wedi bod yn cynnal stondin yn Asda Llandudno i annog siopwyr i bleidleisio, yn ogystal â chreu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i arddangos y rhaglen. Dilynwch y ddolen hon i bleidleisio.

Mae’r rhaglen yn Asda, sydd yn ei blwyddyn gyntaf, eisoes yn datblygu sgiliau a hyder yr interniaid.

Daeth Claire King, Pennaeth Sicrhau Ansawdd DFN Project SEARCH, i ymweld â'r siop yn ddiweddar a gwnaeth yr hyn a welodd argraff arni.

Meddai: “O feddwl bod y rhaglen yn ei blwyddyn gyntaf, mae'r cynnydd yn anhygoel. Mi ddes i yma haf diwethaf i gwrdd â'r bobl ifanc am y tro cyntaf fel rhan o’r broses ymgeisio a chyfweld. Mae gwahaniaeth amlwg i'w weld yn y bobl ifanc hyn mewn ychydig fisoedd.

“Maen nhw i gyd yn sefyll gyda mwy o hyder, maen nhw’n wirioneddol glir yn yr hyn maen nhw’n ei wneud a’r derminoleg maen nhw’n ei defnyddio – mae’n anhygoel. Gallwch chi weld yr holl sgiliau maen nhw wedi'u dysgu, a dim ond ym mis Medi y dechreuon nhw, felly maen nhw ond hanner ffordd drwy'r cwrs.

“Mae'n dangos felly bod rhaglenni fel hyn, sy'n cynnig y cyfleoedd hynny ar gyfer yr ymarfer bywyd go iawn gyda chefnogaeth wedi'i dargedu, yn fuddiol iawn.”

Dywedodd Tracey Hockin, darlithydd Sgiliau Bywyd a Gwaith yng Ngholeg Llandrillo: “Mae Interniaethau a Gefnogir Pathway 4 yn darparu hyfforddiant trochi yn y gwaith i bobl ag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth.

“Nid oes unrhyw rwystrau i'r profiad y gall dysgwyr ei gael ar y rhaglenni hyn. Cânt eu croesawu ac maent wedi'u lleoli yng nghanol y busnes, yn cwblhau eu hyfforddiant, yn gwisgo'r wisg ac yn cael eu trin fel aelodau o staff.

“Wrth gael addysg a chefnogaeth gan staff y coleg a’r busnes, maent yn datblygu’r sgiliau a’r hyder sydd eu hangen arnynt i allu cael mynediad at gyflogaeth, boed hynny gyda’r busnes dan sylw neu'n rhywle arall. Mae’r rhaglenni hyn yn cael effaith gadarnhaol ar y bobl ifanc ac yn gwella eu cyfleoedd bywyd.”

Dywedodd Samantha McIlvogue, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo: “Mae gan ein rhaglen Interniaeth a Gefnogir gydag Ysbyty Glan Clwyd hanes sefydledig o gynnig llwybr i gyflogaeth i interniaid, ac mae rhaglen Asda Llandudno ar y trywydd iawn ar gyfer llwyddiant tebyg yn ei blwyddyn gyntaf.

“Rydyn ni'n falch iawn o’n holl interniaid am y cynnydd maent wedi’i wneud yn ystod eu hamser ar y rhaglen, ac o’n staff am eu helpu i ddatblygu sgiliau, hyder a phrofiad gwerthfawr. Rydyn ni hefyd yn ddiolchgar iawn i’n partneriaid yn Asda Llandudno a DFN project SEARCH am helpu i roi cychwyn llwyddiannus i’r rhaglen.”

Dywedodd rheolwr gweithrediadau Asda Llandudno, Aaron Sulivan: “Fel cyflogwr cyfle cyfartal, rydyn ni'n falch iawn o roi cyfle i’r bobl ifanc hyn ddatblygu sgiliau a thorri’r rhwystrau i gyflogaeth, gyda chefnogaeth gan DFN Project SEARCH a Choleg Llandrillo.

“Mae wedi bod yn hyfryd gweld hyder y bobl ifanc yn cynyddu a’u personoliaethau’n disgleirio yn ystod eu hamser yn y siop, a dymunaf bob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.”

Mae Grŵp Llandrillo Menai hefyd yn cynnal rhaglen Interniaeth a Gefnogir Pathway 4 gyda Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, Ysbyty Gwynedd ym Mangor a gyda Agoriad Cyf a Betsi Cadwaladr yn Nolgellau.

Mae pob un yn interniaethau blwyddyn o hyd sy’n cefnogi pobl ifanc ag anabledd dysgu a/neu awtistiaeth i ennill y sgiliau, y profiad a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i gyflogaeth. I ddysgu rhagor, neu i wneud cais ar gyfer mis Medi, cliciwch yma neu ewch i www.gllm.ac.uk/courses/pathway-4-supported-internship

I fwrw eich pleidlais dros Asda Llandudno a thîm Interniaeth a Gefnogir Coleg Llandrillo yng nghystadleuaeth 'Dewis y Bobl' DFN Project SEARCH, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date