‘Magu hyder yn y coleg i dorri record byd’
Yn ddiweddar, gosododd Ash Dykes, cyn-fyfyriwr Coleg Llandrillo, sawl record byd arall yn ystod alldaith beryglus i Suriname ac erbyn hyn mae’n lansio ap ffitrwydd newydd ac yn paratoi rhaglenni teledu eraill
Mae Ash Dykes, cyn-fyfyriwr o Goleg Llandrillo, yn ystyried ei antur nesaf ar ôl ei alldaith ddiweddar i Suriname, lle torrodd sawl record byd.
Cyflawnodd Ash ei bedwaredd a'i bumed record byd ym mis Hydref yn ystod taith beryglus iawn i jyngl anhreiddiadwy Amazon.
Ash a’i dîm oedd y bobl gyntaf erioed i deithio o darddiad yr afon Coppename i Gefnfor yr Iwerydd, gan wynebu caimaniaid, morgathod duon, pryfed cop gwenwynig a hyd yn oed jaguar wrth iddynt gaiacio’r afon 380 milltir o hyd.
Yn ystod eu taith 37 diwrnod, mi wnaethon nhw hefyd osod record ar gyfer yr esgyniad cyflymaf o fynydd uchaf Suriname Julianatop, gan gyrraedd y copa 4,199 troedfedd mewn pum diwrnod, wyth awr a 35 munud.
Mae'r ddau gyflawniad wedi'u gwirio gan Guinness World Records.
Lluniau: Jacob Hudson
Mae enw Ash yn y llyfrau record yn barod wedi iddo ddod y person cyntaf i heicio Afon Yangtze 4,000 milltir yn Tsieina, y cyntaf i gerdded ar ei ben ei hun a heb gefnogaeth ar draws Mongolia, a'r cyntaf i gerdded ar hyd Madagascar.
Bydd hanes ei daith ddiweddaraf i'w weld mewn rhaglen deledu newydd, yn ddilyniant i 'The Great Wall with Ash Dykes' a'i gyfres National Geographic, 'Walking the Yangtze'.
Dywedodd Ash bod alldaith Suriname, er yn fyr, yn “ddwys” oherwydd ei fod, gyda'i gyd-deithwyr wedi teithio i diriogaeth ddiarth, wedi ymdopi â gwres a newyn dwys, ac wedi wynebu ysglyfaethwyr nad oedd wedi gweld bod dynol erioed o’r blaen.
“Suriname ydy’r wlad fwyaf coediog yn y byd - mae 93% ohono wedi’i orchuddio gan jyngl,” meddai’r dyn 34 oed o Lysfaen. "Roedden ni eisiau cael ein gadael yng nghanol 'unlle, er mwyn canfod tarddiad afon Coppename.
"Doedd dim tystiolaeth i awgrymu bod unrhyw un erioed wedi bod i’r ffynhonnell, na’i fod hyd yn oed wedi’i fapio. Roedd cofnodion yn dangos bod ymgais aflwyddiannus wedi bod i wneud hynny yn 1800, felly roedd yn teimlo bod cyfle yma i ni gyflawni'r gamp."
Cludwyd Ash, ynghyd â’r ffotograffydd Jacob Hudson a’r arbenigwyr bywyd gwyllt Matthew Wallace a Dick Lock, mewn hofrennydd i fynyddoedd anghysbell Wilhelmina.
“Roedd hynny’n eitha' brawychus, clywed sŵn yr hofrennydd yn tawelu wrth adael, a sŵn coedwig law'r Amazon yn cryfhau,” meddai Ash.
Wedi'u harfogi â machetes i hacio eu ffordd trwy'r isdyfiant, teithiodd y tîm am ddyddiau i ddod o hyd i darddiad yr afon, ac yn ystod y daith honno collodd Ash dair ewin traed.
Ond megis dechrau oedd yr her, mi aethant ati wedyn i ddringo Julianatop, cyn caiacio’r afon anghysbell llawn bywyd gwyllt peryglus yr holl ffordd i arfordir yr Iwerydd.
Amlygwyd natur beryglus eu cenhadaeth pan gawsant eu hunain yn belen llygad i belen y llygad gyda jaguar, un o ysglyfaethwyr apig cyfrwys yn yr Amazon.
Dywedodd Ash: “Mi welson ni jaguar ar lan yr afon, ac yn lle troi a mynd yn ôl i mewn i’r goedwig, roedd o jyst yn sefyll yno yn syllu arnom ni. Mi ddywedodd Dick a Matt, ein harbenigwyr bywyd gwyllt, mai dyma ymddygiad naturiol jaguar nad yw erioed wedi gweld bodau dynol o’r blaen - mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf ac o bosibl y tro olaf iddo weld bod dynol.”
Noddwyd yr alldaith gan elusen Cher - Free the Wild, ac roedd Ash a'i dîm yn casglu data ar sut mae bodau dynol yn effeithio ar fywyd gwyllt.
“Roedden nhw eisiau i ni olrhain y bywyd gwyllt i weld sut y bydden nhw'n ymateb i'n gweld ni, a hefyd i weld sut mae gweithgaredd dynol wedi effeithio ar y bywyd gwyllt,” esboniodd.
“Mi wnaethon ni gofnodi pob digwyddiad – mi welson ni lyffant dartiau gwenwynig, gyda lliwiau nad oedd wedi’u gweld o’r blaen, ac mae'r dystiolaeth yn cael ei astudio i weld ydy hyn yn rhywogaeth heb ei darganfod o’r blaen neu’n amrywiad lliw.”
Daeth y tîm o hyd i dystiolaeth hefyd i gefnogi astudiaethau presennol sy'n dangos bod capybaras a tapiriaid yn weithgar yn ystod y nos o ganlyniad i weithgarwch dynol.
“Mae’r rhai sydd agosaf at boblogaethau dynol wedi newid i fod yn fwy gweithgar yn ystod y nod” meddai Ash. “Ond mewn ardaloedd lle nad oes pobl yn byw, dydyn nhw ddim yn byw fel hyn yn naturiol - roedd y capybaras a’r tapiriaid o gwmpas yn ystod y dydd - felly mae 'na hollt yn y boblogaeth lle mae tua hanner yn weithgar yn ystod y nos a'r gweddill ddim.”
Wrth i ni ddechrau blwyddyn newydd, mae Ash yn lansio ap ffitrwydd newydd, ac mae'n paratoi i gynllunio rhaglen deledu antur arall, ac mae hefyd yn meddwl am alldeithiau'r dyfodol.
“Rydw i bob amser yn chwilio, mae 'na bethau gwahanol yn fy nenu bob amser,” meddai. "Mae gen i ddiddordeb yn yr Ynys Las a'r Congo. Mi fydd yr un cyntaf i gerdded hyd afon Congo yn torri tir newydd, dyma fyddai un o alldeithiau mwyaf y ganrif."
Mae'n anodd i Ash gredu'r hyn mae wedi'i gyflawni yn ystod ei yrfa hyd yma. Gadawodd y coleg yn 19 oed ar ôl cwblhau cwrs chwaraeon yng Ngholeg Llandrillo a theithio i Asia ag ychydig iawn o bres yn ei boced.
"Mi ddechreuais i deithio yn 19 oed, gyda chyllideb o £10,000 roeddwn i wedi'i hel dros gyfnod o ddwy flynedd. Ceisiodd pawb ar wahân i deulu agos fy annog i beidio â chymryd y naid honno, gan ddweud y byddwn yn dychwelyd heb unrhyw arian, dim cymwysterau ac ar ei hôl hi mewn bywyd.
"Mi wnes i ddysgu yn y coleg fy mod i'n ddysgwr cinesthetig, ac mai drwy wneud pethau ymarferol roeddwn i'n dysgu. Roedd yn help mawr i feithrin yr hyder hwnnw - rhoi cynnig ar bethau, gwneud camgymeriadau ond dysgu peidio â gwneud yr un camgymeriad ddwywaith, a gwneud y mwyaf o bob profiad. Ychwanegodd hynny at y teimlad o 'rŵan ydy'r amser'.
"Dw i'n cofio bod yng Nghyffordd Llandudno ar fin cychwyn am Mongolia, yn 22 oed. Roeddwn i yn ystafell arddangos Jaguar Land Rover yn edrych o gwmpas ac mi wnes i feddwl, 'sa hi'n braf gallu cydweithio efo'r cwmni yma rhywbryd.' Pum mlynedd yn ddiweddarach roeddwn i'n llysgennad i'r cwmni.
"Dw i'n cofio gwylio Joe Rogan ac yna cael gwahoddiad i siarad ar y podlediad. Mae cael pobl fel Gordon Ramsey a Channing Tatum yn fy nilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, neu eistedd ar awyren a gwylio fy rhaglen Great Wall of China arni, yn brofiadau anhygoel.
"Roeddwn i'n meddwl basai'n cŵl iawn i weithio gyda brandiau fel hyn, ond mae'n digwydd ac yn datblygu, mae'n rhyfedd iawn. Dw i'n dal methu credu fy mod erbyn hyn yn ennill bywoliaeth drwy wneud rhywbeth sydd mor bwysig i mi.”
Pan ofynnwyd iddo am ei gyngor i unrhyw un sydd am ddilyn ei freuddwyd, dywedodd Ash: "Bydda'n benderfynol a phengaled, rhaid dal ati yn egnïol.
"Gwarchoda'r hyn rwyt ti'n teimlo'n angerddol drosto, beth bynnag ydy hynny. Does dim ots os nad oes neb arall yn credu dy weledigaeth, creda di yn yr hyn sydd orau i ti.
"Rwyt ti'n llawer mwy galluog nag wyt ti'n ei feddwl. Doeddwn i ddim yn gwybod hynny pan oeddwn i'n 19 a 20 oed, ond mi wnes i ddeall hynny yn y pen draw."