Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Babcock a Grŵp Llandrillo Menai yn ehangu Hyfforddiant Arbenigol yn RAF y Fali

Mae cytundeb newydd i gynyddu'r ddarpariaeth o hyfforddiant awyrennol yn RAF y Fali ar fin sicrhau manteision gwirioneddol i staff Babcock sy'n gweithio yn y ganolfan.

Mae Grŵp Llandrillo Menai a chwmni amddiffyn Grŵp Rhyngwladol Babcock (Babcock) wedi arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth newydd i ehangu cwmpas y ddarpariaeth hyfforddiant awyrennol arbenigol yn RAF y Fali gan adeiladu ar ddeng mlynedd o weithio mewn partneriaeth.

Gan weithio gyda chorff dyfarnu EAL, mae Babcock a Grŵp Llandrillo Menai wedi sefydlu saith rhaglen hyfforddiant arbenigol newydd o'r enw Llwybrau Galwedigaethol Diwydiannol (IVPs) ar gyfer staff Babcock a gyflogir ar Gontract Hawk y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae'r IVPs yn cynnwys Cynnal a Chadw Afioneg, Awyrennol - Cynnal a Chadw Mecanyddol, Cynnal a Chadw Offer Goroesi a Chynnal Arfau. Staff Babcock a Grŵp Llandrillo Menai fydd yn cynnal ac yn asesu'r hyfforddiant.

Mae Grŵp Llandrillo Menai eisoes yn darparu Rhaglen Prentisiaeth Peirianneg Awyrennau ar gyfer Babcock. Sefydlwyd y rhaglen brentisiaeth yn 2016 i feithrin cronfa leol o dalent awyrennol i gynnal a chadw awyren jet yr Hawk yn RAF y Fali. Ers hynny, mae dros 70 o brentisiaid wedi cymryd rhan yn y rhaglen, gyda’r mwyafrif helaeth yn parhau i weithio yn RAF y Fali neu o fewn y diwydiant. Mae tua dwy ran o dair o'r rhai a hyfforddwyd yn gweithio i Babcock o hyd ac mae nifer ohonynt wedi cael eu dyrchafu i rolau goruchwylio.

Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn galluogi Grŵp Llandrillo Menai i gynnig ystod ehangach o hyfforddiant awyrennol, ac felly bydd holl staff Babcock yn RAF y Fali yn gallu cael mynediad at hyfforddiant peirianneg a thechnegol arbenigol ychwanegol yn y dyfodol.

Yn bresennol i arwyddo'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth, roedd Aled Jones-Griffiths, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai a Gwenllian Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu Masnachol y Grŵp, Chloe Barker, Rheolwr Gyfarwyddwr busnes Babcock's UK Aviation a Gez Currie o'r Awyrlu Brenhinol ynghyd â chynrychiolwyr o'r diwydiant.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Gwenllian Roberts:

“Rydym yn falch iawn o'r gydberthynas hir hon gyda Babcock sydd wedi galluogi cymaint o bobl ifanc i ddatblygu gyrfaoedd a ddechreuodd yma yn RAF y Fali. Rwy'n falch iawn o weld ein partneriaeth yn mynd o nerth i nerth heddiw. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn nodi pennod newydd bwysig iawn lle byddwn yn darparu hyfforddiant awyrennol arbenigol am y tro cyntaf. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i bawb sydd wedi cyfrannu at arwyddo'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth heddiw, ac edrychaf ymlaen at y daith sydd o'n blaenau. Mae heddiw'n ddiwrnod pwysig iawn i economi Ynys Môn a Gogledd Cymru.”

Ychwanegodd Chloe Barker: “Mae partneriaeth hirdymor Babcock gyda Grŵp Llandrillo Menai yn dangos pwysigrwydd cydweithio rhwng diwydiant ac addysg. Mae cyflwyno’r Llwybrau Galwedigaethol Diwydiannol yn gam nesaf arwyddocaol i ehangu'r hyfforddiant arbenigol rydym yn cynnig i’n gweithwyr yn RAF y Fali ac mae’n dangos ein hymrwymiad i fuddsoddi’n lleol yn ein gweithlu.”