Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y Farwnes Carmen Smith yn annog y myfyrwyr i ‘ddilyn eu breuddwydion’

Daeth aelod ieuengaf erioed Tŷ’r Arglwyddi i gampws newydd Tŷ Menai i roi gair o anogaeth i'r myfyrwyr

Ymwelodd y Farwnes Carmen Smith, cyn-fyfyriwr o Goleg Menai, â champws Tŷ Menai i ddweud wrth y dysgwyr: “Ddilyn eu breuddwydion.”

Cafodd Carmen ei henwebu gan Blaid Cymru i ymuno â Thŷ'r Arglwyddi ym mis Mawrth a hi yw'r aelod ieuengaf erioed i eistedd yn yr ail siambr.

Dewisodd y ferch 28 oed, a ddilynodd gwrs Lefel 3 mewn Astudiaethau Busnes rhwng 2013 a 2015, y teitl Barwnes Llanfaes ar ôl y pentref ym Môn lle cafodd ei magu.

Ymwelodd Carmen â champws newydd Tŷ Menai ym Mangor i rannu ei stori â'r myfyrwyr Busnes presennol.

“Mi faswn i'n cynghori pawb i fynd amdani, gan fod unrhyw beth yn bosib os ydych chi ei eisiau ddigon,” meddai. “Gallwch ddilyn eich breuddwydio, felly peidiwch â gwrando ar neb sy'n dweud yn wahanol.”

⁠Dechreuodd Carmen ymddiddori mewn gwleidyddiaeth pan oedd hi tua phymtheg oed, ac yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Menai cafodd ei hethol yn Llywydd Undeb Myfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai.

Dyma heuodd yr hadau ar gyfer ei gyrfa, lle daeth yn llywydd dros dro Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr cyn gweithio yn Senedd Ewrop ym Mrwsel a’r Senedd yng Nghaerdydd.

Dywedodd Carmen ei bod wedi meithrin sgiliau pwysig yn y coleg fel y gallu i siarad yn gyhoeddus, a chafodd y rhyddid i ganfod ei llwybr ei hun mewn bywyd.

Llun: Senedd y Deyrnas Unedig

“Fy hoff atgof o'r cyfnod fel myfyriwr yng Ngholeg Menai oedd y rhyddid,” meddai. “Gadael yr ysgol a dod i le newydd, cwrdd â phobl newydd – dyna be oedd yn gyffrous, ac mi wnes i fwynhau hynny.

“Dw i'n dod o Lanfaes ac ro'n i yn yr un dosbarth â phobl o Nefyn na faswn i erioed wedi eu cyfarfod oni bai am y coleg.

“Ges i amser wrth fy modd. Roedd yn ffordd wahanol o ddysgu o gymharu â'r ysgol lle’r oedd rhywun arall yn eich gwthio chi i orffen eich gwaith. Yn y coleg, chi oedd yn gyfrifol am hynny. Dw i'n meddwl bod yr annibyniaeth yna’n beth da gan ei fod yn eich paratoi ar gyfer bywyd a byd gwaith.

“Roedd y sgiliau ddysgais i ar y cwrs busnes yn y coleg yn cynnwys siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf a dysgu cyflwyno o flaen pobl. Dyna, dw i'n meddwl, oedd y prif bethau, a dyna pryd dechreuais i fagu digon o hyder i siarad o flaen pobl.”

Ar ôl gadael y coleg, astudiodd Carmen y gyfraith ym Mhrifysgol Bangor, ond gadawodd ar ôl blwyddyn i ddod yn is-lywydd UCM Cymru. Aeth yn ei blaen i fod yn llywydd dros dro, gan ymgyrchu'n llwyddiannus i newid y ffordd roedd gofalwyr ifanc yn gwneud ceisiadau am gymorth ar ôl iddi wynebu rhwystrau ei hun wrth ofalu am ei thad.

Aeth Carmen ymlaen i weithio i Blaid Cymru, ac i gwmni ynni adnewyddadwy ar yr ochr materion cyhoeddus.

Er ei bod yn cydnabod mai prifysgol yw’r llwybr cywir i rai myfyrwyr, mae Carmen yn “falch” nad oes ganddi radd, gan fod ei phrofiad yn dangos nad yw hynny bob amser yn hanfodol i lwyddiant mewn gyrfa.

“Yn fy marn i, yr hyn sy'n bwysig ydi fod digon o gyfleoedd ar gael i bobl – i fynd i'r coleg, i wneud prentisiaeth, neu i fynd i'r brifysgol – mae mwy nag un llwybr yn bosib.

“Does gen i ddim gradd fy hun, ond dydi hynny ddim wedi fy rhwystro rhag gweithio mewn sawl maes nac wedi fy rhwystro rhag gwneud yr hyn rydw i'n ei wneud rŵan yn Nhŷ’r Arglwyddi. Dw i'n meddwl ei bod yn bwysig pwysleisio bod y coleg yn ffordd wych ymlaen i bobl.”

Fe wnaeth campws newydd Tŷ Menai ym Mharc Menai argraff dda ar Carmen⁠, a dywedodd: “Mae'n gampws ffres a modern, a dw i'n siŵr ei fod yn lle arbennig i fod yn fyfyriwr ynddo.”

Roedd Carmen yn 27 oed pan benodwyd hi i Dŷ'r Arglwyddi ym mis Mawrth. Hi yw aelod ieuengaf erioed ail siambr y Deyrnas Unedig, a'r unig aelod presennol sydd o dan 30 oed.

Wrth ateb cwestiynau gan y myfyrwyr yn Nhŷ Menai, dywedodd ei bod wedi cael ei beirniadu oherwydd ei hoed pan benodwyd hi. Serch hynny, roedd hi'n benderfynol o ddal ati â'i gwaith fel na fyddai'n rhaid i'r ferch ifanc nesaf i ymuno â Thŷ'r Arglwyddi wynebu'r un rhwystrau.

Dywedodd ei bod wedi dewis cynnwys Llanfaes yn ei theitl oherwydd ei bod eisiau cynrychioli pobl a chymunedau nad yw eu lleisiau o bosib yn cael eu clywed bob amser.

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i'r coleg! Mae llefydd ar gael o hyd ar gyrsiau llawn amser. Ewch i gllm.ac.uk/cy/courses ⁠i gael rhagor o wybodaeth

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date