Begw a Dylan yng ngharfanau Cymru ar gyfer Cystadleuaeth Chwe Gwlad i dimau dan 18 oed
Mae Begw Ffransis Roberts o Goleg Menai a Dylan Alford o Goleg Llandrillo wedi cael eu galw i garfan rygbi Cymru yn dilyn perfformiadau arbennig dros eu gwlad a rhanbarth RGC
Mae Begw Ffransis Roberts a Dylan Alford o Grŵp Llandrillo Menai wedi cael ei galw i garfan rygbi Cymru ar gyfer Gŵyl Timau dan 18 y Chwe Gwlad.
Mae Begw, sy'n astudio Chwaraeon Lefel 3 ar gampws Coleg Menai yn Llangefni, yn y garfan ar gyfer twrnamaint y merched.
Mae Dylan, myfyriwr o Goleg Llandrillo, sy'n dilyn cwrs Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Lefel 3 yn Llandrillo-yn-Rhos, wedi cael ei alw i gystadleuaeth y bechgyn.
Cynhelir gŵyl y merched yn Stadiwm CSM ym Mae Colwyn o ddydd Gwener 29 Mawrth tan ddydd Sadwrn 6 Ebrill.
Bydd Cymru’n chwarae gemau 35 munud o hyd yn erbyn Ffrainc a’r Alban ddydd Gwener, ac Iwerddon a Lloegr ddydd Mawrth 2 Ebrill, cyn gêm 70 munud o hyd yn erbyn yr Eidal ar y diwrnod olaf.
Dywedodd prif hyfforddwr merched dan 18 Cymru, Siwan Lillicrap: “Mae hon yn garfan gyffrous yn llawn chwaraewyr uchelgeisiol a chryf ar gyfer twrnamaint y Chwe Gwlad dan 18 a gynhelir ym Mae Colwyn.
Mae paratoadau’r garfan wedi mynd yn arbennig o dda dros y chwe wythnos diwethaf, ac mae datblygiad, ymroddiad ac ymrwymiad y chwaraewyr yn wirioneddol ysbrydoledig.
Mae’r gwaith caled mae’r merched wedi ei wneud dros y tymor wedi talu ar ei ganfed. Mae’r darn pwysig eto i ddod, a gobeithio mai’r cam cyntaf ydy hyn ar ddechrau eu taith ar Lwybr Cymru.”
Cynhelir gŵyl y bechgyn dan 18 yn Parma, yr Eidal, a bydd yn cynnwys timau o Bortiwgal a Georgia am y tro cyntaf. Bydd pob tîm yn chwarae tair gêm 70 munud o hyd rhwng dydd Sadwrn 30 Mawrth a dydd Sul 7 Ebrill.
Bydd Cymru'n chwarae yn erbyn Lloegr dydd Sadwrn, Portiwgal ddydd Mawrth 3 Ebrill a Ffrainc ar y diwrnod olaf.
Dywedodd prif hyfforddwr tîm dan 18 Cymru, Richie Pugh: “Mae’n garfan gyffrous sydd wedi paratoi’n dda. Roedd carfan fawr yn y lle cyntaf ac mae wedi bod yn anodd ei chyfyngu dim ond i 26 chwaraewr oherwydd mae llawer o dalent yn y grŵp dan 18 diolch i'r rhaglen ddatblygu ranbarthol.
Mi fydd yn brofiad gwerthfawr iawn i'r bechgyn, yn erbyn rhai o’r timau gorau. Mae Lloegr a Ffrainc yn ddau o’r timau gorau hynny ac mae Portiwgal yn dîm newydd a fydd yn cynnig her newydd i’r grŵp.”
Mae Begw a Dylan ill dau yn chwarae i RGC, ac wedi cymryd rhan mewn gemau rhyngwladol dan 18 i baratoi ar gyfer Gwyliau'r Chwe Gwlad. Roedd Begw hefyd yn aelod o dîm merched dan 18 RGC, y tîm cyntaf o Ogledd Cymru i ennill cystadleuaeth Gradd Oedran Rhanbarthol URC.
Diddordeb mewn astudio Chwaraeon yng Ngrŵp Llandrillo Menai? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau. I gael rhagor o wybodaeth am Academi Rygbi Coleg Llandrillo, cliciwch yma.