Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Ben a Callum yn cyrraedd rownd derfynol Cogydd Bwyd Môr Gorau Prydain

Bydd y myfyrwyr o Goleg Llandrillo yn cystadlu am goron y Deyrnas Unedig yn Grimsby ar ôl ennill eu rownd ranbarthol ym mwyty'r Orme View

Myfyrwyr o Goleg Llandrillo, Ben Nield a Callum Hagan, yn cyrraedd rownd derfynol y Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth Cogydd Bwyd Môr y Flwyddyn.

Roedd Ben a Callum ymhlith y timau buddugol yn rownd ranbarthol y gorllewin, a gynhaliwyd ym mwyty'r Orme View ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos.

Roeddent yn cystadlu yn erbyn colegau o Firmingham, Bury, Swydd Gaer, Warrington a Grimsby.

Bydd y ddau ddysgwr sy'n astudio Coginio Proffesiynol (Cegin a Phantri) Lefel 3 yn Llandrillo-yn-Rhos, yn cystadlu yn rownd derfynol Prydain yn Grimsby Institute ar 7 Mehefin.

Yn y rowndiau rhagbrofol, cafodd y timau'r dasg o greu bwydlen tri chwrs gan ddefnyddio rhywogaethau bwyd môr a ddewiswyd yn arbennig. Roedd yn rhaid iddynt greu eu seigiau ar gyfer chwech o bobl, gyda chyllideb o hyd at £17.50 y pen. Roedd y rhain wedyn yn cael eu beirniadu.

Cwrs cyntaf Ben a Callum oedd tartare brithyll gydag wy sofliar, dresin lemwn a bara surdoes. Eu cwrs canolradd oedd cregyn bylchog gyda saws madarch a gwin gwyn, tuile cyri madarch a gwead o arlleg gwyllt, tra ar gyfer y prif gwrs gwnaethant ddraenogyn môr gyda saws gwin gwyn â blas pesto.

Roedd y beirniaid yn arbennig o hoff o'u cwrs cyntaf a'u prif gwrs, gan ddyfarnu lle iddynt yn y rownd derfynol.

Meddai Callum: “Rydan ni'n falch o fod wedi ennill. Mae'n brofiad da ac mae'n edrych yn dda ar eich CV, mae'n cael eich enw allan yna. Gawn ni weld beth fydd yn digwydd yn y rownd derfynol!”

Dywedodd Mike Evans, darlithydd lletygarwch yng Ngholeg Llandrillo: “Mae Callum a Ben wedi gwneud yn dda iawn, mae'r ddau ohonyn nhw wedi gallu cadw'u pennau. Rydan ni wedi ymarfer y seigiau hyn dros yr wyth wythnos ddiwethaf mae'n debyg, ac wedi newid 'chydig arnyn nhw tan ein bod ni'n cyrraedd lle rydan ni heddiw.

“Mae cyrraedd y rownd derfynol ochr yn ochr â Birmingham, sydd yn ôl pob tebyg yn un o’r colegau arlwyo gorau yn y Deyrnas Unedig, yn gyflawniad gwych.”

I baratoi ar gyfer y rownd derfynol, bydd Ben a Callum yn treulio dau ddiwrnod yn hyfforddi gyda’r cogydd enwog Bryn Williams ym Mhorth Eirias, Bae Colwyn.

Yn y rownd derfynol, byddant yn cael y cyfle i wneud cysylltiadau â chogyddion gwych - mae Rick Stein wedi beirniadu yn y gorffennol.

Dywedodd Mike: “Mae’n gyfle i gwrdd â chogyddion blaenllaw, gwneud cysylltiadau â nhw – mae rhai pobl wedi cael swyddi o ganlyniad i siarad â nhw. Hyd yn oed os nad ydyn nhw’n ennill, gallan nhw ei roi ar eu CV iddyn nhw gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol, felly mae’n sefyllfa lle mae pawb ar eu hennill.”

Hoffech chi gael gyrfa yn y diwydiant lletygarwch ac arlwyo? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai