Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bethan yn ennill Gwobr Arlwyo flynyddol Clwb Rotari'r Rhyl

Ar y cyd â Choleg Llandrillo, mae’r clwb wedi noddi gwobr i’r myfyriwr lletygarwch gorau o ardal y Rhyl ers dros 25 mlynedd

Mae Bethan Edwards, myfyrwraig o Goleg Llandrillo, wedi ennill Gwobr Arlwyo flynyddol Clwb Rotari’r Rhyl.

Yng Ngwesty’r Talardy yn Llanelwy, cyflwynwyd tlws i Bethan, 17, ynghyd â gwobr o £150 a roddwyd gan Glwb y Rotari.

Mae’r clwb wedi noddi gwobr i’r myfyriwr lletygarwch gorau o ardal y Rhyl ers dros 25 mlynedd, gyda’r enillydd bob blwyddyn yn cael ei enwebu gan ddarlithwyr yn y coleg.

⁠Mae Bethan, sy’n astudio Coginio Proffesiynol a Gweini Bwyd a Diod Lefel 2 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, ymhlith enillwyr ieuengaf erioed y wobr, ar ôl cael ei dewis y llynedd tra’n dal ar y cwrs Lefel 1.

Dywedodd y darlithydd Lletygarwch ac Arlwyo, Mike Garner, fod Bethan wedi’i henwebu oherwydd ei haddewid mawr fel cogydd, a’i pharodrwydd i wirfoddoli a helpu ei chyd-fyfyrwyr.

Dywedodd Mike: “Mae Bethan yn fyfyriwr rhagorol, ymroddedig a medrus sydd â'r rhinweddau i ddod yn gogydd rhagorol. Fe benderfynon ni ei henwebu ar gyfer y wobr oherwydd hyn, ac oherwydd ei hagwedd gadarnhaol a’i pharodrwydd i fynd amdani.

“Mae hi’n gydwybodol iawn yn ei holl astudiaethau, ac roedd ei phresenoldeb y llynedd bron yn 100%. Mae hi wedi gwirfoddoli i helpu ar achlysuron mawr, ac mae'n awyddus iawn i wella ei sgiliau a chael mwy o brofiad.

“Nododd tiwtoriaid Bethan y llynedd, ei bod nid yn unig yn gwneud ei gwaith ei hun, ond ei bod hi hefyd yn helpu ei chyfoedion. Pan ei bod yn gweld pobl yn cael trafferth gyda rhywbeth, byddai'n treulio amser yn dangos iddyn nhw sut i'w wneud o, gan gynnig cymorth ac anogaeth iddyn nhw.

"Mae Bethan yn berson ifanc hynod ddymunol a chwrtais sy’n dangos llawer iawn o barch at ei chyfoedion a’i thiwtoriaid fel ei gilydd. Mae ganddi agwedd ‘gallu gwneud’, fydd yn mynd â hi'n bell.”

Mae Bethan yn gweithio yn Sandbank Bakery yn y Rhyl a Thowyn, ac mae'n mwynhau coginio gartref. Dechreuodd bobi pan oedd yn ddim ond tair oed! Mae’n gobeithio cael profiad o weithio mewn gwestai a bwytai yn lleol, a’i huchelgais yn y pen draw yw bod yn gogydd ar gychod hwylio moethus a llongau mordaith.

Ar ôl derbyn ei gwobr gan Lywydd Clwb Rotari’r Rhyl, John Dicks, dywedodd Bethan: “Diolch i Glwb Rotari’r Rhyl. Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael fy newis.”

Wrth feddwl am ei chwrs yng Ngholeg Llandrillo, ychwanegodd: “Dw i wrth fy modd yn mireinio fy sgiliau yn y coleg. Mae'n brofiad braf - rydych chi'n cael dysgu pethau cŵl a gwneud bwyd neis.

“Mae’r tiwtoriaid wedi bod yn gymwynasgar ac yn gefnogol iawn. Pan fyddwn ni yn y gegin, maen nhw'n barod i ystyried awgrymiadau gan unrhyw un ohonom ni, yn ogystal â rhoi cyngor i ni. Mae’n dda cael y rhyddid i roi cynnig ar eich syniadau eich hun.”

Aeth Bethan i'r cyflwyniad gyda'i mam, Jodie. Ar ôl derbyn ei gwobr, cyflwynodd gacen sbwng Victoria enfawr i'w mam fel diolch am ei holl gefnogaeth.

Dywedodd Jodie: “Dw i wrth fy modd bod Bethan wedi ennill y wobr hon. Mae hi wedi bod yn coginio gartref ac yn gwneud cacennau cyhyd ag y galla' i gofio. Rwy’n fam falch iawn.”

Ychwanegodd Geraint Griffith, uwch aelod o'r Clwb Rotari: “Dw i wedi bod yn rhan o’r wobr arlwyo ers blynyddoedd lawer a does 'na ddim amheuaeth bod Bethan, hyd yn oed mor gynnar â hyn yn ei gyrfa, yn enillydd teilwng iawn. Llongyfarchiadau mawr a phob llwyddiant iddi yn y dyfodol.”

Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Mae maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, yn ogystal â phrentisiaethau, cymwysterau NVQ a hyfforddiant wedi'i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau.