Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cais newydd i ddadorchuddio cerflun gan y cyn-ddarlithydd Paul Davies

Ar ddiwedd yr 1980au creodd Paul, oedd yn artist adnabyddus, a’i fyfyrwyr, fap enfawr o Gymru ar Ynys Môn, a nawr mae angen gwirfoddolwyr i helpu i’w ailddarganfod

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i ailddarganfod cerflun pridd anferth gan gyn-ddarlithydd Coleg Menai Paul Davies.

Mae pobl ar Ynys Môn a’r cyffiniau yn cael eu gwahodd i gronfa ddŵr Llyn Alaw dros ddau ddiwrnod y mis nesaf i ddadorchuddio’r map 60 metr sgwâr o Gymru a grëwyd gan Paul a’i fyfyrwyr ar ddiwedd yr 1980au.

Mae’r digwyddiadau, ar Tachwedd 23 and 24, yn rhan o gydweithrediad parhaus rhwng Dŵr Cymru, Uned Cefn Gwlad ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Cyngor Sir Ynys Môn, a Dr Sarah Pogoda, ymchwilydd o Ysgol y Celfyddydau, Diwylliant ac Iaith Prifysgol Bangor.

Mae Dr Pogoda yn ymchwilio i waith Paul Davies, fu'n arwain y mudiad celf Beca, ac sy'n fwyaf adnabyddus am ei berfformiad 'Welsh Not' yn Eisteddfod Genedlaethol 1977.

Bu Paul yn dysgu cerflunwaith yng Ngholeg Technegol Gwynedd, a ailenwyd yn ddiweddarach yn Goleg Menai, hyd ei farwolaeth ym 1993. Roedd yn un o'r staff dysgu gwreiddiol ar y cwrs Sylfaen Celf pan ddechreuodd y cwrs ym Mangor yn 1981.

Treuliodd ei fyfyrwyr ac yntau fisoedd yn adeiladu map o Gymru yn Llyn Alaw, ger Llannerchymedd.

Lluniau: Peter Telfer

Dywedodd Dr Pogoda: “Dechreuodd Paul y comisiwn gan Dŵr Cymru ym 1987 i gyd-fynd â 'Blwyddyn yr Amgylchedd' y Comisiwn Ewropeaidd ar y pryd.

“Daeth Paul, myfyrwyr Celf a Dylunio o Goleg Technegol Gwynedd, a gwirfoddolwyr lleol at ei gilydd dros gyfnod o fisoedd i adeiladu’r cerflun, gan ddefnyddio deunyddiau lleol yn unig. Mae’n un o’r gweithiau mawr cyntaf o’r hyn a elwir yn ‘gelfyddyd tir’ yng Nghymru a’r DU.”

Ers dros ddegawd, mae mieri, eithin, ac isdyfiant wedi tyfu dros y cerflun. Ond yn sgil dau ddigwyddiad gwirfoddoli yn 2023, mae'r cerflun wedi'i glirio a bellach yn y golwg unwaith eto.

Dywedodd Alwyn Roberts o Dŵr Cymru: “Rydym wrth ein bodd yn chwarae ein rhan i ddod â’r darn hwn o dreftadaeth ddiwylliannol yn ôl yn fyw.

“Mi syrthiodd yr ardal – a chyda hynny’r cerflun – o sylw'r cyhoedd ers i Bysgodfa Alaw gau nifer o flynyddoedd yn ôl, ond gobeithiwn trwy ymdrech ar y cyd y byddwn yn dod â’r cerflun yn ôl i’w fwynhau gan ymwelwyr â’r safle, gan ei fod yn ddarn pwysig o dreftadaeth leol.”

Owen Davies, Warden Cymunedol AHNE Cyngor Sir Ynys Môn, sydd wedi cymryd yr awenau ar gyfer clirio’r gordyfiant ar y cerflun, a threfnu’r digwyddiad gwirfoddoli.

Dywedodd Owen: “Rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag ysgolion a chymunedau lleol i helpu i adfywio’r gwaith celf hanesyddol hwn yn Llyn Alaw, gan ddefnyddio offer llaw fel tocwyr gardd a llif bwa.

“Mae'r gwaith wedi bod yn heriol ond yn werth ei wneud. Mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr rŵan bod y gwaith yn cael ei gynnal, felly os ydych chi ar gael, mae angen llawer o help arnon ni!"

Cynhelir y digwyddiadau gwirfoddoli ar 23 a 24 Tachwedd, o 10am tan 2pm. Gall gwirfoddolwyr gael ad-daliad am eu tanwydd, ond bydd trefnwyr hefyd yn trefnu lifftiau i'r safle ac oddi yno.

Bydd toiled symudol a chyfleusterau golchi dwylo ar gael. Gofynnir i wirfoddolwyr ddod â'u cinio eu hunain.

I gael rhagor o wybodaeth am y digwyddiadau gwirfoddoli, cysylltwch ag aonb@ynysmon.gov.uk

I gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil yn ymwneud â’r cerflun, cysylltwch â s.pogoda@bangor.ac.uk neu ffoniwch 01248 382521.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date