Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Blossom & Bloom a Lluosi yn helpu rhieni i wneud y mwyaf o'u harian

Mae prosiect Lluosi Grŵp Llandrillo Menai a'r elusen mam a'i baban Blossom & Bloom yn cynnal cyrsiau am ddim i ddatblygu sgiliau rhif a chyllidebu rhieni

Mae rhieni wedi bod yn dysgu am reoli eu harian diolch i brosiect Lluosi, Grŵp Llandrillo Menai, a'r elusen mam a'i baban, Blossom & Bloom.

Mae prosiect Lluosi - Rhifedd Byw yn helpu oedolion i wella eu hyder gyda rhifau mewn bywyd bob dydd, gan gynnig mynediad hawdd i ystod eang o gyrsiau mathemateg AM DDIM ar draws Gogledd Cymru.

Rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, bu Blossom & Bloom yn cynnal y cwrs Lluosi, 'Arian, Rhifau a Mathemateg', yn ei hwb llesiant yn y Rhyl.

Roedd y cwrs 10 wythnos, y bydd yr elusen yn ei gynnal eto o fis Medi, yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i gyllidebu
  • Gwneud y mwyaf o'ch incwm
  • Lleihau eich gwariant
  • Creu eich cynllun cyllidebu eich hun
  • Gwella'ch sgiliau mathemateg sylfaenol
  • Symud ymlaen i gymhwyster mathemateg

Mae Blossom & Bloom hefyd yn cynnal y cyrsiau canlynol: Helpu eich Plentyn gyda Mathemateg (Ysgol Gynradd) ar 15 Awst, Rhoi hwb i'ch hyder mewn Mathemateg: Gloywi Sgiliau Sylfaenol (5 Medi) a Creu sy’n Cyfrif (19 Medi).

Dywedodd Vicky Welsman-Millard, sylfaenydd Blossom & Bloom: “Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda Lluosi, ac mae’r bartneriaeth i gefnogi mamau yn mynd yn dda iawn.

“I ddechrau, fe wnaethon ni greu cwrs llesiant ac roedd un o elfennau’r cwrs hwnnw yn ymwneud â rheoli arian.

“Felly fe wnaethon ni gyflwyno’r cwrs hwnnw ar y cyd â Lluosi. Mae’n edrych ar wneud y mwyaf o'ch incwm, lleihau gwariant a chreu cynllun cyllidebu.

“Ers i ni agor ein hwb datblygu newydd rydyn ni wedi ehangu’r cwrs hwnnw gyda Lluosi.

“Mae'r tair wythnos gyntaf yn allweddol o ran yr hyn mae ar famau a babanod ei angen, wel mewn gwirionedd yr hyn mae unrhyw un ei angen, ac yn ymwneud â rheoli arian, ond wedyn rydyn ni wedi ehangu hynny i arian, rhifau a mathemateg.

“Mae’n rhoi’r potensial i bobl edrych ar eu sgiliau mathemateg, gan edrych ar reoli arian sylfaenol, ond hefyd edrych ar eu sgiliau adio, tynnu, lluosi a rhannu ac yna ystyried, o bosibl, parhau i gymhwyster mathemateg, efallai ar lefel TGAU.

“Mae’n agored i fwy na mamau a babanod – rydyn ni wedi gweld pobl o bob cefndir yn dod i mewn i gael mynediad. Rydyn ni wedi cael dwy fam ifanc newydd, mae gennym ni ddwy fam arall sydd mewn cyfnod gwahanol mewn bywyd, efallai wedi gadael addysg tua 10 mlynedd yn ôl.

“Rydyn ni wedi cael tadau i mewn, ac mae gennym ni ddynes arall sydd ddim yn fam, ond sydd wedi galw heibio am ei bod eisiau gwella ei sgiliau rheoli arian.

“Mae’r cwrs sy’n cael ei gynnig yma yn y gymuned yn wych, ac rydyn ni’n ddiolchgar am Lluosi.”

Dywedodd Sarah Jones-Wallace, dysgwr ar y cwrs Arian, Rhifau a Mathemateg: “Dydw i ddim yn meddwl y gall unrhyw un byth eich paratoi ar gyfer y newid enfawr y bydd baban bach yn ei ddod i'ch bywyd, ac un o'r newidiadau mawr yn amlwg yw arian. Mae plant yn ddrud iawn, a does dim dianc rhag y gost honno yn anffodus.

“Mae bod i ffwrdd o’r gwaith ar dâl mamolaeth, a dod ar gwrs fel hyn wir yn fy helpu i ddeall sut y galla i wneud y mwyaf o’r arian, beth yw’r pethau pwysig y mae angen i mi fod yn gwario fy arian arnynt, ond hefyd sut y gallaf gynilo ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Jemma Francis, a wnaeth y cwrs hefyd: “Rydyn ni i gyd yn dod at ein gilydd fel rhieni er mwyn i ni allu rhannu syniadau. Mae llawer ohonom ni yn yr un math o sefyllfa, ac yma dw i’n teimlo fy mod yn gallu trafod fy nyledion yn agored, a’r hyn y mae angen help go iawn arnaf i ag ef.”

Dywedodd Samantha Hunt, tiwtor Llusoi: “Yn y sesiynau Blossom and Bloom, rydyn ni wedi bod yn edrych ar gyllidebu a materion ariannol ac mae’r sesiynau’n ymarferol iawn.

“Mae'r gynulleidfa yn cymryd rhan, llawer o gyfleoedd i drafod, a dw i bob amser yn ceisio gwneud yn siŵr bod yna ddigonedd o gemau a gweithgareddau ymarferol.

“Mae'n braf iawn pan fydd dysgwr yn dweud 'Ro'n i'n nerfus iawn am ddod i'r sesiwn, ond dw i wedi mwynhau a dw i'n mynd i ddod yn ôl yr wythnos nesaf. Dw i'n teimlo bod fy hyder wedi gwella trwy ddod i'r sesiwn'.

“Ac wedyn wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaenau rydych chi’n gweld dysgwyr a oedd yn cael trafferth gyda rhywbeth bellach yn ei ddeall ac yn mynd i’r afael ag ef, a dyna’r teimlad gorau yn y byd. Mae'n rhoi boddhad mawr, ac mae'n debyg mai dyna pam dw i'n gwneud y swydd dw i'n ei gwneud.”

Sefydlwyd Blossom & Bloom yn 2020 i fynd i’r afael ag effeithiau unigrwydd wrth ofalu am blant ifanc, trwy ddarparu cymorth emosiynol ac ymarferol trwy ddigwyddiadau ac addysg strwythuredig.

Dywedodd Alex Carter, Cydlynydd Ymgysylltu Lluosi yn Sir Ddinbych: “Dw i’n meddwl bod ein perthynas â Blossom & Bloom yn crynhoi popeth y mae prosiect Lluosi yn ceisio ei gyflawni.

“Gweithio gyda’r elusennau a’r sefydliadau gwych hynny sy’n gweithredu yng nghalonnau cymunedau, a gweld sut y gall ein cyrsiau rhifedd pwrpasol ddatblygu sgiliau’r bobl y maen nhw’n gweithio gyda nhw.”

Mae prosiect Lluosi wedi ei ariannu gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Grŵp Llandrillo Menai'n arwain prosiect Lluosi yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy a Dinbych.

I fod yn gymwys ar gyfer cyrsiau Lluosi am ddim gan Grŵp Llandrillo Menai, rhaid i chi fod yn 19 oed neu'n hŷn, a byw yn siroedd Gwynedd, Môn, Conwy neu Ddinbych. I gael rhagor o wybodaeth cliciwch yma. I wneud cais, gyrrwch neges e-bost at lluosi@gllm.ac.uk, ffoniwch 01492 542 338 neu llenwch y ffurflen ar-lein hon.

Mae prosiect Lluosi wedi gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ar draws Gogledd Cymru, gan helpu i wella hyder y bobl maent yn gweithio gyda nhw mewn rhifedd. I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallai Lluosi fod o fudd i’ch busnes neu sefydliad, cliciwch yma.

Pagination