Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Glynllifon yn ennill twrnamaint boccia o flaen seren Tîm GB a sbrintiwr Gemau'r Gymanwlad

Dysgwyr Sgiliau Bywyd a Gwaith o Goleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Glynllifon a Choleg Ceredigion yn dod ynghyd i gymryd rhan yn y 'Boccia Bonanza'

Yn ddiweddar, daeth myfyrwyr Glynllifon yn fuddugol mewn twrnamaint boccia a fynychwyd gan chwaraewr Tîm GB, Tomas Martin, a sbrintiwr Gemau'r Gymanwlad, Morgan Jones.

Roedd y 'Boccia Bonanza', a gynhaliwyd yn Nolgellau, yn ddigwyddiad ar gyfer dysgwyr Sgiliau Bywyd a Gwaith o Goleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor, Glynllifon a Choleg Cheredigion.

Trefnwyd y digwyddiad gan Grŵp Llandrillo Menai gyda chefnogaeth gan Chwaraeon Anabledd Cymru a Cholegau Cymru.

Daeth Glynllifon i’r brig yn dilyn cystadlu brwd rhwng y timau drwy’r dydd.

Mae Boccia yn gamp baralympaidd lle mae athletwyr yn taflu, cicio neu ddefnyddio ramp i yrru pêl i'r cwrt, gyda'r nod o ddod yn agosach at y bêl 'jac'.

Cafodd y myfyrwyr yr esiampl perffaith wrth iddynt ddysgu'r gamp yng Nghanolfan Hamdden Glan Wnion, gyda phencampwr boccia Cymru, Tomas Martin, yn mynychu'r twrnamaint.

Cynrychiolodd Tomas Brydain yng nghystadleuaeth 'World Boccia Challenger' y llynedd yn yr Eidal, ac ef yw Cydlynydd Boccia Chwaraeon Anabledd Cymru.

Hefyd yn cymryd rhan roedd Morgan Jones, a gystadlodd yn y ras 100 metr yng Ngemau’r Gymanwlad 2018 ac sy’n uwch swyddog llwybr perfformiad Chwaraeon Anabledd Cymru, a Stefano Antoniazzi, uwch swyddog partneriaeth rhanbarthol Chwaraeon Anabledd Cymru ar gyfer Canolbarth Cymru, a chyn bêl-droediwr a hyfforddwr.

Dywedodd Tomas: “Rydyn ni wedi cael amser gwych yma yn Nolgellau heddiw. Mae boccia yn gamp i bawb - gall pob anabledd gymryd rhan.”

Mae Tomas, sy'n gobeithio cynrychioli Tîm Prydain Fawr yn y Gemau Paralympaidd, yn obeithiol y bydd y dysgwyr wedi cael eu hysbrydoli gan y twrnamaint.

Meddai: “Rydw i wedi bod yn chwarae ers 20 mlynedd, ar ôl dechrau reit hamddenol mewn gwersyll chwaraeon. Mi es i ymlaen i gystadlu dros Gymru, a'r llynedd cefais y cyfle i gynrychioli Prydain Fawr yn Sardinia.

“Pwy a ŵyr, un diwrnod efallai y gwelwn ni un o’r myfyrwyr hyn yn cynrychioli Cymru.”

Ychwanegol Lois Peris Owen, Swyddog Gweithgareddau Llesiant Coleg Meirion-Dwyfor: “Wrth drefnu digwyddiad fel hwn, rydych chi'n sylweddoli faint o waith paratoi sydd ei angen. Fodd bynnag, mae'r canlyniad bob amser yn werth chweil ac nid oedd y 'Boccia Bonanza' yn wahanol.

“Roedd yn hyfryd gweld pob dysgwr yn cymryd rhan ac yn cystadlu mewn Boccia adloniadol fel ffordd o hyrwyddo llesiant gweithredol. Roedd yr holl adborth gan ddysgwyr a staff a fynychodd yn gadarnhaol, ac roedd yn amlwg bod y dysgwyr wedi ennill llawer o brofiad a sgiliau o'r digwyddiad.

“Ni fyddai’r digwyddiad hwn wedi bod yn bosibl heb gymorth Colegau Cymru, a wahoddodd golegau allanol i gymryd rhan, yn ogystal â Chwaraeon Anabledd Cymru, a ddarparodd eu harbenigedd a’u gwybodaeth am Boccia ar y diwrnod.”

Meddai Rob Baynham, Rheolwr Prosiect Llesiant Egnïol a Chwaraeon Colegau Cymru: “Mae’n wych gweld colegau a Chwaraeon Anabledd Cymru yn cydweithio i greu cyfleoedd chwaraeon cynhwysol i ddysgwyr AB.

“Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y dysgwyr Sgiliau Byw’n Annibynnol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ledled Cymru drwy’r prosiect Llesiant Egnïol, gyda chystadlaethau fel y 'Boccia Bonanza' yn rhoi profiadau newydd a chyffrous i ddysgwyr. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran.”

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date