Brighter Futures yn anelu at ddyfodol gwyrdd, diolch i Busnes@LlandrilloMenai
Mae'r elusen o'r Rhyl yn gweithio gyda'r Academi Ddigidol Werdd i archwilio ffyrdd o leihau eu hôl troed carbon
Mae elusen Brighter Futures yn y Rhyl yn cymryd camau breision tuag at gynaliadwyedd diolch i gefnogaeth gan Academi Ddigidol Werdd Busnes@LlandrilloMenai.
Sefydlwyd Brighter Futures yn 2018 i fynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol, unigrwydd a thlodi. Mae eu canolfan mewn hen dafarn yn ganolbwynt i'r gymuned, yn cynnal grwpiau a gweithgareddau amrywiol.
Mae’r elusen yn cydweithio â’r Academi Ddigidol Werdd, rhaglen a gynigir drwy Busnes@LlandrilloMenai, i archwilio ffyrdd o leihau eu defnydd o ynni, lleihau eu heffaith amgylcheddol a chyrraedd allyriadau carbon sero net.
Dywedodd Shane Owen, un o ymddiriedolwyr Brighter Futures: “Trwy ein partneriaeth â'r Academi Ddigidol Werdd, rydyn ni wedi gallu gwneud newidiadau sylweddol o ran y ffordd rydyn ni'n gweithio, a rhoi cynllun ar waith ar sut i gyrraedd allyriadau sero net.
“Diolch i'r gefnogaeth rydyn ni wedi newid o wresogi gyda'r prif gyflenwad nwy i bwmp gwres ffynhonnell aer adnewyddadwy ac wedi gosod tapiau dŵr a thoiledau llif isel. Mae'r gwelliannau hyn yn hanfodol i'n hymrwymiad i leihau allyriadau carbon a chyrraedd ein targed sero net.
“Rydyn ni hefyd ar y trywydd cywir i gynhyrchu mwy o drydan ar y safle gyda’n paneli solar ac rydyn ni wedi cynyddu’r gallu i’w storio gyda system batri newydd.”
Mae'r camau nesaf i Brighter Futures yn cynnwys insiwleiddio'r waliau mewnol, ymchwilio i dechnolegau arbed carbon, a diweddaru offer TG sydd wedi dyddio. Erbyn 2026, y nod yw cynaeafu dŵr glaw a lleihau dibyniaeth y faniau ar danwydd ffosil, gyda’r nod o fod yn gwbl rydd o danwydd ffosil erbyn 2050.
Mae Busnes@LlandrilloMenai yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai ac yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth i fusnesau yn y rhanbarth. Mae'r Academi Ddigidol Werdd yn helpu busnesau bach a chanolig i gymryd camau i leihau eu hôl troed carbon ac i ateb y galw cynyddol gan ddefnyddwyr am gynhyrchion a gwasanaethau ecogyfeillgar.
Donna Hodgson, Rheolwr Prosiect Rhanbarthol gyda Busnes@LlandrilloMenai, sy’n gyfrifol am yr Academi Ddigidol Werdd. Dywedodd: “Yn aml, dydi busnesau a sefydliadau llai ddim yn gwybod ble i ddechrau o ran lleihau allyriadau carbon. Dyluniwyd y rhaglen hon i'w cynorthwyo i flaenoriaethu a deall yr hyn sydd orau iddyn nhw.
“Byddwn yn annog busnesau bach a chanolig a sefydliadau fel Brighter Futures o unrhyw sector i gysylltu â ni os oes ganddynt ddiddordeb mewn gweithio gyda ni. Mae’r rhaglen wedi’i hariannu’n llawn, a gyda’n cymorth ni, gallent gael cyngor arbenigol a chyllid i’w rhoi ar y trywydd iawn i leihau carbon mewn ffordd sydd o fudd i’w busnes a’r amgylchedd.”
Yn ogystal â Busnes@LlandrilloMenai, mae partneriaid yr Academi Ddigidol Werdd yn cynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ddinbych a Chyngor Sir y Fflint.
I ddysgu mwy am sut y gallai’r Academi Ddigidol Werdd fod o fudd i’ch busnes neu sefydliad, cliciwch yma.