Brooke a Kayleigh yn ennill rownd derfynol y Deyrnas Unedig mewn cystadleuaeth trin gwallt bwysig
Enillodd Brooke Williams, myfyrwraig o Goleg Menai, a Kayleigh Blears, dysgwr o Goleg Llandrillo, anrhydeddau cenedlaethol gyda'u steiliau gwallt ar thema stori dylwyth teg yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol
Roedd dwy o fyfyrwyr Grŵp Llandrillo Menai yn fuddugol yn rownd derfynol y Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol
Yn y gystadleuaeth a gynhaliwyd yn Telford, a oedd yn agored i ddysgwyr ledled y Deyrnas Unedig, enillodd Kayleigh Blears, dysgwr o Goleg Llandrillo, y categori steilio Lefel 2, tra bod Brooke Williams, myfyriwr o Goleg Menai yn fuddugol yng nghategori steilio Lefel 1.
Ar ôl cyrraedd y rownd derfynol o blith cannoedd o geisiadau ledled y wlad, bu’n rhaid i Kayleigh a Brooke ddyfeisio steiliau ar thema stori dylwyth teg, cyn cael hanner awr i'w creu o flaen y beirniaid.
Aeth Kayleigh, sy'n astudio Trin Gwallt Lefel 2 ar gampws Coleg Llandrillo yn y Rhyl, gam ymhellach, a chreu gwisg ei model â llaw gyda chymorth ei thiwtor Tracey Rogers.
Meddai: “Dw i'n hoff iawn o wneud gwallt ar gyfer cystadlu – mae’n lot o hwyl gallu mynegi’r ochr yna o drin gwallt. Y rhan orau i mi oedd gweld pa mor greadigol oedd pawb, a sut roedden nhw'n dehongli'r gwahanol feini prawf.
“Roedd yn rhaid i mi feddwl am steil a oedd yn seiliedig ar stori dylwyth teg. Roedd hyn yn cynnwys gwallt, colur a gwisg. Roedd y ffrog wedi'i gwneud â llaw gen i a fy nhiwtor, ac mi ddefnyddion ni flodau artiffisial a blodau sych i'w haddurno hi.
“Ro'n i'n ddiolchgar iawn o gael ennill. Mi dreuliais i lawer o amser yn ymarfer yr edrychiad. Y tro cynta' mi gymerodd ychydig oriau i mi, ond dim ond 30 munud oedd gen i ar y diwrnod.
“Mae ennill wedi rhoi hwb mawr i fy hyder yn fy sgiliau trin gwallt. Mi fyddwn i'n annog unrhyw un i gymryd rhan mewn cystadlaethau oherwydd rydych chi'n cael profiad gwych, ac rydych chi'n cael cwrdd â phobl sydd â'r un diddordeb â chi.”
Ychwanegodd Kayleigh: “Mae’r tiwtoriaid i gyd wedi bod yn gefnogol iawn, yn enwedig Tracey – allwn i ddim bod wedi gwneud hyn hebddi. Roedd hi'n anhygoel. Mi ddaeth hefo fi i'r gystadleuaeth ac roedd hi'n fy annog drwy'r amser.
“Mi hoffwn ddiolch i fy model Gracie Calland hefyd. Mae hi wedi fy nghefnogi fi drwy'r sesiynau ymarfer a'r ymarferion gwisg.”
Dywedodd Brooke, sy’n astudio cwrs Trin Gwallt Lefel 1 ar gampws Coleg Menai ym Mangor, ei bod yn “anhygoel” ennill ar ei hymgais gyntaf yn y gystadleuaeth.
Meddai: “Mi ges i andros o sioc. Ro'n i wedi cystadlu mewn cystadleuaeth fach yn y Rhyl sbel yn ôl, ond roedd hyn yn llawer mwy a ro'n i'n eitha' nerfus i ddechrau.
“Mae ennill y gystadleuaeth wedi gwneud i mi fod eisiau trin gwallt hyd yn oed yn fwy, ac mae wedi rhoi mwy o hyder i mi.”
Cofrestrodd Brooke gyda Choleg Menai'r haf diwethaf, ar ôl treulio diwrnod yr wythnos yn dysgu trin gwallt yn y coleg tra oedd yn yr ysgol.
“Mi helpodd fi i benderfynu mai trin gwallt o'n i eisiau ei wneud,” meddai. “Dw i'n dysgu cymaint o bethau gwahanol ar hyn o bryd. Dw i wrth fy modd yn gwneud steiliau newydd, yn dysgu plethiadau gwahanol, a dod â chleientiaid i mewn i gael golchi a chwyth-sychu eu gwallt. Dw i 'di gwirioni hefo pob dim!"
Roedd y gwobrau a enillodd Kayleigh a Brooke yn cynnwys brwshys newydd, cynhyrchion gwallt, sychwyr gwallt a diwrnodau o addysg.
Mi enillodd y ddwy, ynghyd a Ceri Thomas - myfyriwr Coleg Llandrillo, oedd hefyd yn y rownd derfynol, aelodaeth 12 mis o The Fellowship for British Hairdressing, sy’n cynnig addysg, mentora a digwyddiadau i'w helpu i ddatblygu yn y diwydiant.
Dywedodd y darlithydd trin gwallt, Fiona Keddie, a deithiodd gyda Brooke i’r rownd derfynol: “Roedd Brook yn rhagorol ar y diwrnod ac roedd y canlyniad yn adlewyrchu ei sgiliau.
“Roedd cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y categori allan o holl ddysgwyr y Deyrnas Unedig yn gamp ynddo’i hun. Rydyn ni fel adran yn eithriadol o falch ohoni, a hoffem hefyd ddiolch i’w model Harmony Wilson am y gefnogaeth a roddodd i Brooke trwy gydol y broses.”
Dywedodd Tracey Rogers, darlithydd trin gwallt ar gampws y Rhyl: “Rydym mor falch o allu cefnogi Kayleigh yng nghystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn - Gwallt Cysyniadol.
“Mae cefnogi dysgwyr mewn cystadlaethau trin gwallt yn golygu eu harwain trwy bob cam o’r broses greadigol, o chwilio am syniadau i berffeithio eu techneg. Fel tiwtor/mentor, rydym yn helpu i feithrin eu hyder, mireinio eu sgiliau, a darparu adborth adeiladol i sicrhau bod eu gwaith yn cyd-fynd â briff a safonau uchel y gystadleuaeth.
“Rydyn ni'n cynnig cymorth emosiynol a thechnegol trwy gydol y broses, a thrwy annog arloesedd a manwl gywirdeb, rydym yn grymuso dysgwyr i arddangos eu doniau unigryw - rhywbeth a wnaeth Kayleigh i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol yn erbyn cystadleuaeth o safon uchel iawn.”
Ydych chi eisiau gweithio ym maes trin gwallt, barbwr neu therapi harddwch? Mae Grŵp Llandrillo Menai yn darparu hyfforddiant mewn salonau o'r radd flaenaf gan ddefnyddio'r technegau a'r cynhyrchion diweddaraf. Dysgwch ragor yma