Bryn Williams a Choleg Llandrillo yn lansio Rhaglen Llysgenhadon i fentora pobl ifanc dalentog ym maes lletygarwch
Bydd Rhaglen Llysgenhadon Bryn Williams@Coleg Llandrillo yn cynnig profiadau gwerthfawr i fyfyrwyr ac yn hwb i'r diwydiant lletygarwch lleol
Bydd y cogydd adnabyddus Bryn Williams yn mentora myfyrwyr Coleg Llandrillo mewn cynllun newydd cyffrous i bobl ifanc sy'n gobeithio cael gyrfaoedd proffesiynol yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch.
Bydd Rhaglen Llysgenhadon Bryn Williams@Coleg Llandrillo yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr gael profiad gwaith gwerthfawr dan arweiniad y cyn-fyfyriwr adnabyddus o Goleg Llandrillo.
Un o Ddinbych yw Bryn ac ers astudio lletygarwch yn y coleg mae wedi adeiladu gyrfa ryngwladol iddo'i hun. Ef yw Cogydd Berchennog bwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias, Nawdd Gogydd bwyty'r Cambrian yn Alpau'r Swistir, ac arferai redeg bwyty Odette's yn Llundain.
Mae Bryn yn falch o'r cyfle i roi rhywbeth yn ôl i'r coleg lle dechreuodd ei daith ym myd coginio. Ar y Rhaglen Llysgenhadon bydd yn gweithio'n agos gyda myfyrwyr, gan eu mentora a chynnig arweiniad ymarferol a chyfleoedd profiad gwaith iddynt yn ei dai bwyta.
Ar ben hyn, bydd y bartneriaeth hefyd yn dathlu treftadaeth unigryw gogledd Cymru trwy ganolbwyntio ar ddwyieithrwydd, a chyrchu a defnyddio cynnyrch lleol. Bydd hyrwyddo cynaliadwyedd a'r egwyddor o fod yn ddiwastraff yn hollbwysig hefyd.
Meddai Bryn: “Rydw i'n falch iawn o gael dod yn ôl i Goleg Llandrillo i lansio'r Rhaglen Llysgenhadon Bryn Williams@ColegLlandrillo. Roedd y sgiliau a ddysgais i yma'n allweddol wrth i mi ddechrau fy ngyrfa, a rŵan 'mod i'n ôl adre mae'n amser i mi ganolbwyntio ar feithrin y genhedlaeth nesaf o weithwyr talentog ar gyfer y diwydiant.”
Bydd y bartneriaeth rhwng Bryn a'r coleg yn helpu i gryfhau'r diwydiant lletygarwch a thwristiaeth yng ngogledd Cymru trwy roi sgiliau o safon fyd-eang i bobl ifanc.
Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar feithrin amrywiaeth eang o sgiliau, a chaiff y dysgwyr gyfleoedd profiad gwaith a'u mentora wrth weithio yn y gegin ac wrth weini a derbyn.
Bydd Bryn hefyd yn rhannu ei wybodaeth am ddatblygu bwydlenni a defnyddio cyfarpar coginio, gan wella ymhellach y ddarpariaeth sydd ar gael i ddysgwyr lleol sydd â'u bryd ar fod yn gogyddion neu weithio yn y diwydiant arlwyo.
Dywedodd Samantha McIlvogue, Pennaeth Cynorthwyol Coleg Llandrillo: “Mae cael Bryn Williams yn llysgennad yn gyfle anhygoel i'r myfyrwyr. Nid yn unig mae'n gyfle i'n myfyrwyr ddysgu gan un o'r cogyddion gorau yn y diwydiant, ond mae hefyd yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i feithrin talentau ifanc a rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i lwyddo yn eu gyrfaoedd.”
A dyma oedd gan Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo i'w ddweud: “Rydym yn falch iawn o lansio'r Rhaglen Llysgenhadon Bryn Williams@Coleg Llandrillo. Mae Bryn yn esiampl wych o'n hyn y gellir ei gyflawni trwy ymroddiad a gwaith caled. Mae'r ffaith bod taith Bryn wedi cychwyn yma yng Ngholeg Llandrillo yn dysteb i'r addysg o'r radd flaenaf mae adran Lletygarwch ac Arlwyo wedi bod yn ei darparu ar hyd y blynyddoedd.
“Bydd y bartneriaeth yn helpu ein dysgwyr i feithrin y sgiliau gorau posibl, ac yn sylfaen berffaith i lwyddiant. Bydd yn rhoi hwb i un o'r sectorau pwysicaf yn yr economi leol trwy greu gweithlu medrus sydd wedi derbyn hyfforddiant o'r radd flaenaf ac sy'n gweld gwerth mewn cynaliadwyedd a defnyddio cynnyrch lleol.”
Ydych chi eisiau gweithio yn y diwydiant lletygarwch? Mae maes rhaglen Lletygarwch ac Arlwyo Grŵp Llandrillo Menai yn cynnig cyrsiau llawn amser a rhan-amser, o Lefel 1 hyd at Raddau Anrhydedd, yn ogystal â phrentisiaethau, cymwysterau NVQ a hyfforddiant wedi'i deilwra i rai sy’n gweithio yn y diwydiant.