Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Menai yn rhoi citiau pêl-droed i blant Burundi trwy elusen Annie's Orphans

Trefnodd Jamie Jones, goruchwyliwr y neuadd chwaraeon, i'r citiau gael eu rhoi i'r elusen o Fangor sy'n darparu cartref ac addysg i fechgyn amddifad sy'n byw ar y stryd yn Burundi yng nghanolbarth Affrica

Diolch i'r aelod staff Jamie Jones a'r elusen Annie's Orphans mae yna blant yn Burundi yn chwarae pêl-droed yng nghitiau Coleg Menai.

Trefnodd Jamie, goruchwyliwr y neuadd chwaraeon ar gampws Llangefni, i gitiau'r coleg gael eu rhoi ar ôl gwneud yr un peth gyda chitiau clwb pêl-droed lleol.

Aeth Annie's Orphans â'r citiau i Burundi, lle mae'r elusen yn darparu cartref, bwyd, addysg a gofal meddygol i ‘fechgyn amddifad y stryd’.

Felly tra bod llawer o blant ar draws y byd yn gwisgo crysau Barcelona, ​​Real Madrid a Manchester United, mae cefnogwyr ifanc Burundi yn gwisgo citiau timau Coleg Menai, Colegau Cymru, Llangefni, a Llannerch-y-medd.

Cafodd Jamie’r syniad pan oedd tîm Llangefni'n newid eu cit ychydig flynyddoedd yn ôl, ar ôl siarad â chyfarwyddwr cynorthwyol Annie’s Orphans, George Benjamin.

Dywedodd: “Ar ddiwedd 2021 roeddwn i’n gwirfoddoli gyda chlwb Llangefni fel swyddog datblygu cymunedol, ac roedd gennym ni 500 o gitiau sbâr. Felly cysylltais â gwahanol lefydd i weld a hoffen nhw eu cael.

“Yna des i ar draws Annie’s Orphans. Ar ôl siarad â George mi es i draw efo pentwr o gitiau Llangefni. Roedd yr elusen wrth eu bodd, ac roedd yn dda gwybod bod y citiau'n mynd i gael eu hailddefnyddio.”

Felly, pan ddaeth hi'n amser i dîm pêl-droed Coleg Menai newid eu cit ddiwedd y tymor diwethaf, roedd Jamie yn gwybod y byddai Annie’s Orphans yn croesawu’r rhodd. Aeth â'r citiau i'r elusen, a bellach maen nhw wedi cyrraedd Canol Affrica.

“Mae'n syniad ardderchog,” meddai Jamie. “Mae’n cŵl meddwl eich bod chi’n anfon citiau i rywle lle maen nhw'n fwy cyfarwydd â gweld crysau timau fel Barcelona, ​​United, Bayern Munich a Juventus. ⁠ ⁠Yn lle hynny enwau tafarndai a busnesau lleol yn Llangefni sydd ar y citiau – mae teimlad gwahanol am yr holl beth.”

Sefydlwyd Annie's Orphans yn 1997 gan y Parch Pauline Edwards i godi arian i blant amddifad yn India.

Ers hynny, mae'r elusen wedi adeiladu ac ariannu cartrefi plant amddifad, ysgolion a cholegau yn India, Pacistan, Myanmar, Nigeria, Burundi a thu hwnt, gan newid bywydau miloedd o blant.

Ar ôl dechrau gydag un siop ar Stryd Fawr Bangor, mae gan Annie’s Orphans bellach 16 o siopau ar draws y DU, sy’n codi arian i adeiladu ysgolion newydd a thalu am addysg, trydan a hanfodion eraill mewn gwledydd sy’n datblygu.

Dechreuodd yr elusen brosiect Burundi Street Children yn 2013, gan ddarparu cartref i fechgyn a fyddai fel arall yn gorfod bwyta sborion i gadw'n fyw.

Ers hynny mae deg o'r bechgyn wedi graddio o'r brifysgol gyda graddau mewn pynciau fel cyfrifiadureg a pheirianneg drydanol, tra bod un arall wedi hyfforddi i fod yn esgob, diolch i ysgoloriaeth a ariannwyd gan Annie's Orphans.

Mae’r elusen hefyd wedi adeiladu dwy ysgol gynradd yn Burundi, ac yn parhau â’r gwaith gyda’r genhedlaeth nesaf o fechgyn y stryd.

Dywedodd y Parch Pauline Edwards: “Mae gennym ni 22 o fechgyn mewn tŷ felly rydyn ni wedi anfon y cit pêl-droed atyn nhw. Maen nhw i gyd wrth eu bodd efo pêl-droed, felly maen nhw ar ben eu digon.

“Ond addysg ydi'r ffordd o'u gwthio nhw ymlaen, ac maen nhw o ddifri ynglŷn â’u haddysg. Rydyn ni'n talu am athrawon, dyna lle mae'r rhan fwyaf o'r arian yn mynd – mae'n rhaid i ni gadw'r arian yna i ddod.”

Mae gan Annie's Orphans brosiect mawr arall ym Mhacistan, lle mae'r elusen wedi adeiladu 22 o ysgolion i helpu plant caethweision mewn odynau brics rhag dioddef yr un dynged â'u rhieni.

I gael rhagor o wybodaeth am waith Annie’s Orphans, neu i gyfrannu, ewch i anniesonline.org.uk

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date