Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cyfrifwyr Busnes@LlandrilloMenai yn parhau i greu argraff

Mae dysgwyr proffesiynol sy’n astudio rhaglen AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) yn Busnes@LlandrilloMenai wedi sicrhau lle yng nghystadleuaeth Rowndiau Terfynol WorldSkills UK unwaith eto.

Clare Sharples, Carwyn Littlewood a Lauren Harrap-Tyson yw’r diweddaraf mewn cyfres hir o gyfrifwyr AAT dan hyfforddiant i gymhwyso a chynrychioli Tîm Cymru yn WorldSkills UK.

Nid ar chwarae bach y mae cymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth, i ennill eu lle mae cystadleuwyr yn cymryd rhan mewn tasg ar-lein heriol sy’n para 4 awr ac sy’n cynnwys cyflwyniad ar-lein a sesiwn fyfyrio. Hyd yn oed wedyn mae cystadleuwyr yn wynebu 3 wythnos gythryblus o aros i weld a ydynt wedi bod yn llwyddiannus.

Diolch byth, fe wnaeth yr holl waith caled dalu ar ei ganfed ac mae’r triawd wedi ennill lle yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills y DU, a gynhelir ym Manceinion rhwng 19 a 22 Tachwedd.

Dywedodd Amanda Williams, darlithydd mewn Cyfrifeg:

“Rydyn ni'n falch iawn o Clare, Lauren a Carwyn am ennill medalau yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru ac am symud ymlaen i rowndiau terfynol WorldSkills UK, wrth weithio tuag at eu cymwysterau AAT yr un pryd. Mae eu hymrwymiad i ddatblygiad personol a chynrychioli Busness@LlandrilloMenai i’w ganmol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at eu cefnogi a’u helpu i baratoi ar gyfer y rowndiau terfynol ym mis Tachwedd.”

Mae Lauren yn Brentis Cyfrifeg gyda Bennett Brooks Accountants tra bod Carwyn a Clare yn astudio gan ddefnyddio cyllid PLA y cyfrif dysgu personol.

Mae Busnes@LlandrilloMenai yn adnabyddus am ei ddarpariaeth gyfrifeg ragorol. Rydym yn darparu prentisiaethau cyfrifeg ar gyfer cyflogwyr yn y sector cyhoeddus a phreifat ac yn darparu hyfforddiant i unigolion sydd am uwchsgilio neu ailhyfforddi mewn cyfrifeg. Mae Hyfforddiant Cyfrifeg ar gael o Lefel 2 hyd at gymwysterau Siartredig ACCA.

Mae ffynonellau cyllid ar gyfer unigolion yn amodol ar feini prawf cymhwyster.

Cysylltwch â busnes@gllm.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Pagination