Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cadi a Mared yn hyfforddi gyda charfan lawn Cymru

Mae'r myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor wedi rhannu eu profiad o gymysgu gyda sêr Cymru fel Jess Fishlock a Sophie Ingle

Bu Cadi Rodgers a Mared Griffiths o Goleg Meirion-Dwyfor yn hyfforddi gyda charfan Cymru ar gyfer y rowndiau rhagbrofol yn erbyn Croatia a Kosovo yn ddiweddar.

Enillodd tîm Rhian Wilkinson 3-0 yn Croatia a churo Kosovo 2-0 i gyrraedd brig eu grŵp a sicrhau eu lle yn ddetholion yn y gemau ail gyfle ar gyfer Pencampwriaeth Ewrop y flwyddyn nesaf.

Mae Cadi a Mared yn chwaraewyr cyson i dîm dan 17 Cymru, a chawsant eu galw i'r garfan lawn ar gyfer y ddwy gêm enfawr.

Doedd y myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor ddim yn rhan o'r gemau, ond cawsant y profiad amhrisiadwy o hyfforddi gyda sêr hŷn fel Sophie Ingle a Jess Fishlock sy'n dal y record am sgorio'r nifer mwyaf o goliau erioed.

Mewn fideo a rannwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, dywedodd Mared sy'n asgellwr: “Mae wedi bod yn brofiad a hanner yn chwarae gyda chwaraewyr o’r safon yna ac mae’n hynod bwysig ein bod ni’n dysgu oddi wrthyn nhw ac yn datblygu gyda’n gilydd.”

Dywedodd Cadi, sy'n chwarae fel amddiffynnwr, fod cymysgu gyda'r chwaraewyr hŷn wedi cadarnhau ei huchelgeisiau o fewn y gêm.

“Dw i wedi mwynhau popeth yma,” meddai Cadi. “Dwi’n dysgu gan chwaraewyr mawr felly mae’n brofiad gwych.”

“Mae chwarae’n broffesiynol yn freuddwyd gen i. Mae'r chwaraewyr yma i gyd yn dweud gymaint y maen nhw'n mwynhau hynny, felly byddai'n wych gwneud yr un peth."

Mae Cadi newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf yn astudio Lefelau AS mewn Mathemateg, Ffiseg, Cemeg a Bioleg ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau. Mae Mared hanner ffordd trwy ei BTEC Lefel 3 mewn Busnes, hefyd yn Nolgellau.

Mae’r ddwy yn chwarae i Academi Merched Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn y Gogledd, ac maen nhw ymhlith grŵp o chwaraewyr ifanc Cymru sydd wedi symud ymlaen gyda’i gilydd drwy’r grwpiau oedran.

Dywedodd Mared: “Rydan ni wedi bod gyda’n gilydd trwy’r grwpiau oedran o’r Dan 15 hyd at rŵan, felly dwi’n teimlo ein bod ni wedi adeiladu cyfeillgarwch da. Wrth i ni symud ymlaen i’r tîm hŷn, bydd y cyfeillgarwch hwnnw’n ein helpu i fod yn well ar y cae.”

Ar ôl cyrraedd brig Grŵp Rhagbrofol B4, mae tîm merched Cymru wedi ennill y cyfle i gymhwyso ar gyfer eu twrnamaint mawr cyntaf erioed.

Fe fyddan nhw'n ddetholion ar gyfer gêm ail gyfle dau gymal ym mis Hydref, ac os ydyn nhw’n ennill honno, fe fyddan nhw’n mynd drwodd i rownd derfynol y gemau ail gyfle ym mis Tachwedd. Bydd y pariadau ar gyfer y gemau ail gyfle yn cael ei gwneud yn Nyon, Y Swistir ddydd Gwener.

Mae Cymru hefyd wedi ennill dyrchafiad i Gynghrair A ar gyfer ymgyrch Cynghrair y Cenhedloedd 2025.

Pagination