Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Y coleg yn rhoi troedle i Cain yn y diwydiant adeiladu

Mae'r prentisiaid Cain ac Archie ar eu ffordd i gyflawni eu cymwysterau Lefel 3 trwy Busnes@LlandrilloMenai

Diolch i'r sylfaen gref a dderbyniodd yng Ngholeg Menai mae Cain Jones yn datblygu gyrfa ym maes adeiladu.

Mae Cain ar fin dechrau ail flwyddyn ei brentisiaeth gyda chwmni adeiladu Dylan Evans, gan ddilyn cwrs Lefel 3 mewn Gwaith Saer ac Asiedydd trwy Busnes@LlandrilloMenai yr un pryd.

Dysgodd y bachgen 19 oed o Lanrwst hanfodion ei grefft yn ystod ei ddwy flynedd yng Ngholeg Llandrillo, gan dreulio tri diwrnod yr wythnos ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ac yn gweithio i Dylan Evans ar ei ddyddiau rhydd.

Ar ôl cwblhau Lefel 1 a 2, gofynnodd i'w gyflogwr a fyddai modd iddo gael prentisiaeth. Erbyn hyn mae'n ennill cyflog wrth ddysgu, gan fynychu dosbarthiadau bob dydd Llun a gweithio weddill yr wythnos.

"Rydw i'n mwynhau dod i'r coleg ar ddydd Llun ac yna mynd yn ôl i'r gwaith," meddai. "Mae'r tiwtoriaid yn dda iawn, ac rydw wedi mwynhau fy holl amser yn y coleg."

Un o fanteision dod i'r coleg ydi'r hyfforddiant iechyd a diogelwch, sy'n bwysig iawn i gyflogwyr. Mae'r dysgwyr hefyd yn dysgu o leiaf ddwy grefft – ac yn ystod ei flwyddyn Sylfaen mi gafodd Cain ddysgu am hanfodion plastro a theilsio hefyd.

Ychwanegodd Cain: "Mae treulio dwy flynedd yn y coleg cyn dechrau fy mhrentisiaeth yn bendant wedi fy helpu i ddod i arfer â dysgu, ac i wybod beth i'w ddisgwyl.

"Yn raddol rydach chi'n magu hyder ac yn dod i arfer â'r gwaith. Byddwn yn bendant yn ei argymell."

Unwaith y bydd Cain yn cwblhau ei gymhwyster Lefel 3 bydd yn gweithio'n llawn amser i gwmni adeiladu Dylan Evans. Yn y pen draw mae'n gobeithio rhedeg ei fusnes ei hun, ac mae'n dweud bod ei brentisiaeth a'i amser yn y coleg wedi helpu i'w roi ar ben y ffordd.

"Rydw i wedi dysgu sut i ddechrau tasgau, gwneud rhestrau o beth sydd ei angen, gweithio allan fanylion y pris, cyfathrebu â chwsmeriaid – mae wedi bod yn ddefnyddiol dros ben."

Un arall sy'n astudio Gwaith Saer ac Asiedydd trwy Busnes@LlandrilloMenai yw Archie Howatson ac mae yntau hefyd wedi mynd ymlaen o addysg lawn amser i brentisiaeth.

Daw Archie o Ruthun a chwblhaodd ei gymhwyster Lefel 1 mewn gwaith saer, asiedydd a phlastro tra oedd yn fyfyriwr llawn amser yng Ngholeg Llandrillo.

Flwyddyn yn ôl cafodd brentisiaeth gyda RIG Joinery Ltd ar ôl gwneud argraff dda ar y cwmni tra oedd ar brofiad gwaith.

"Ro'n i'n gallu dewis at bwy i fynd i wneud y profiad gwaith," meddai. "Ond mi ddwedon nhw y cawn ni brentisiaeth os oedden nhw'n fy hoffi, felly mi es i atyn nhw."

Talodd hynny ar ei ganfed iddo gan ei fod wedi gallu gweithio tra hefyd yn cwblhau ei gymhwyster Lefel 2, a bydd yn cwblhau ei gymhwyster Lefel 3 dros y flwyddyn academaidd nesaf.

Rhoddodd dod i'r coleg cyn ymuno â'r diwydiant sylfaen dda i Archie, ac meddai: "Rydych chi'n dysgu sgiliau ymarferol yn y gweithdy. Mae'r tiwtoriaid yn amyneddgar iawn, ac ro'n i'n fwy parod i ymuno â'r byd gwaith.

"Rŵan 'mod i'n gwneud prentisiaeth rydw i'n cael llawer mwy o brofiad, a hefyd yn cael cyflog."

Hoffech chi gael prentisiaeth? Cewch ennill cyflog wrth ddysgu, gan gael cymwysterau gwerthfawr a sgiliau a gwybodaeth sy'n berthnasol i'r gwaith. Bydd hyn i gyd yn eich helpu i wneud argraff yn y farchnad swyddi. I gael rhagor o wybodaeth am y prentisiaethau sydd ar gael trwy Busnes@LlandrilloMenai, cliciwch yma neu ewch i

www.gllm.ac.uk/prentisiaethau

Pagination