Campws Newydd Coleg Menai yn cael ei agor yn swyddogol gan y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch
Cafodd campws newydd Coleg Menai ym Mangor ei agor yn swyddogol yr wythnos diwethaf gan Vikki Howells AS, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch.
Mae'r campws bellach wedi'i symud o Ffordd Ffriddoedd a safle Friars i Barc Menai a diolch i fuddsoddiad o £22 miliwn, sy'n cynnwys £14 miliwn gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru, mae’n cynnig yr holl gyfleusterau diweddaraf.
Mae'r campws modern yn gartref i ddeg maes galwedigaethol:
Gwallt a Harddwch, Lletygarwch ac Arlwyo, Busnes, Teithio a Thwristiaeth, y Celfyddydau Perfformio, Cyfryngau (Teledu a Datblygu Gemau), Mynediad i Addysg Uwch, Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac ESOL.
Cynlluniwyd y campws yn unswydd ar gyfer y myfyrwyr, ac yno cânt brofiadau ymarferol o'r radd flaenaf gan ddefnyddio offer a thechnoleg o'r un safon ag a geir mewn diwydiant. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae cegin hyfforddi broffesiynol, ystafelloedd Apple Mac at ddefnydd y disgyblaethau creadigol, a gwasanaethau Llyfrgell+ modern.
Mae'r campws newydd hefyd yn creu cyfleoedd i fyfyrwyr ymgysylltu â'r gymuned leol. Yn y salonau Gwallt a Harddwch cynigir triniaethau i'r cyhoedd, ac mae stiwdio berfformio 110 sedd ar gael i'r adran Celfyddydau Perfformio gynnal perfformiadau a sioeau byw. Mae'r bwyty hyfforddi ar y safle yn gyfle i'r cyhoedd fynd am bryd bwyd gwerth chweil, ac yn darparu amgylchedd dysgu unigryw i'r myfyrwyr.
Gall y staff a'r dysgwyr fanteisio ar ffreutur a bar coffi mawr agored sy'n rhoi cyfle iddynt gymdeithasu a gweld pawb, ac mae tîm y Gwasanaethau i Ddysgwyr wrth law i gynnig cyngor gyrfaol, cymorth cyfrinachol, ac amrywiol weithgareddau'n gysylltiedig â llesiant er mwyn gwneud yn siŵr bod y myfyrwyr yn ffynnu'n academaidd ac yn bersonol.
Meddai Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai:
“Rydyn ni'n falch iawn o gael agor campws newydd Bangor yn swyddogol. Dyma gampws modern sy'n rhoi cyfle i bobl ifanc Gwynedd a Môn ddefnyddio offer a thechnoleg o'r radd flaenaf wrth astudio.
“Mae'r dysgwyr yn cael eu dysgu gan staff sydd â phrofiad o ddiwydiant ac sy'n edrych ymlaen yn eiddgar at gael manteisio ar yr adnoddau gwych sydd ar gael iddynt i sicrhau bod gan eu dysgwyr y sgiliau angenrheidiol i fynd ymlaen i un ai cyflogaeth neu astudiaethau uwch yn y sectorau amrywiol y mae'r campws yn darparu ar eu cyfer.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn gysylltiedig â'r prosiect, o'r staff sydd wedi cyfrannu at natur a chynnwys yr adeilad, i raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru am wneud yn siŵr bod y cynlluniau ar gyfer y campws anhygoel hwn yn dwyn ffrwyth.”
Meddai Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch,
“Mae'r campws newydd yn enghraifft o'r cyfleusterau rhagorol sydd ar gael i ddysgwyr yng Nghymru. Bydd yn darparu'r sgiliau a'r profiadau sydd eu hangen ar ein pobl ifanc i lwyddo ac yn eu helpu i wneud yn fawr o bob cyfle.
“Nid yn unig mae'r datblygiad yn diwallu anghenion y sectorau creadigol digidol a thechnolegol, ond mae hefyd yn gyfle i weithio'n agos gyda'r sector lletygarwch a thwristiaeth. Yn ogystal, bydd y gymuned leol yn gallu manteisio ar y buddsoddiad yn y campws.”
Mae'r broses ymgeisio i ddod i astudio ar y campws newydd o fis Medi 2025 ymlaen wedi agor. I weld y dewis helaeth o gyrsiau sydd ar gael, ewch i gllm.ac.uk heddiw.