Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Gofal a lletygarwch yn disgleirio yng Ngwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru 2025

Dominyddodd y diwydiannau gofal cymdeithasol a lletygarwch ar draws Gogledd Cymru seremoni Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Grŵp Llandrillo Menai yn diweddar.

Dathlodd y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd yn Venue Cymru gyda nawdd gan Babcock International Group, enillwyr a chyflogwyr dysgu yn y gwaith o ar draws Gogledd Cymru sy’n elwa o brentisiaethau a ddarperir i Lywodraeth Cymru gan Grŵp Llandrillo Menai a’i bartneriaid consortiwm.

Cafodd William Holmes o MHC UK Ltd yn Ninbych, sy’n gofalu am bobl ag anableddau dysgu, ei enwi’n Brentis Uwch y Flwyddyn, wedi i Naganarayanan Ramamoorthy, cogydd yng ngwesty’r St George’s Hotel, Llandudno ennill Gwobr Prentis Sylfaen y Flwyddyn, i Liam Osian Thomas, prif gogydd ym mwyty Wal, Caernarfon, gael ei enwi’n Brentis y Flwyddyn, a’r ysgol gynradd Ysgol Gwynedd yn Sir y Fflint, a gynrychiolwyd gan Dewi Wyn Hughes, yn enillydd Cyflogwr y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith.

Enillodd Seren Ffestiniog, Blaenau Ffestiniog, wobr Cyflogwr y Flwyddyn, a Jenny Thomas, o Tyddyn Môn, Dulas, Ynys Môn yn cael ei henwi’n Brentis Cyfrwng Gymraeg y Flwyddyn. Noddwyd y ddwy wobr gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Dywedodd Gwenllian Roberts, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygiad Masnachol Busnes@LlandrilloMenai: “Mae’r gwobrau heno wedi amlygu sut mae prentisiaethau a dysgu seiliedig ar waith yn cyfrannu’n uniongyrchol i dwf economaidd ein rhanbarth ac i fywiogrwydd ein cymunedau.

“Cawsom i gyd ein hysbrydoli gan storïau y rhai yn ein rownd derfynol a’n henillwyr ac mae wedi bod yn arbennig o dda gweld cynrychiolaeth mor gryf o’r sectorau gofal cymdeithasol a lletygarwch yn y gwobrau eleni.

“Trwy gefnogaeth a hyfforddiant gan Grŵp Llandrillo Menai a’n partneriaid consortiwm rydym yn hynod falch i allu cynorthwyo pobl i ddatblygu gyrfaoedd boddhaus, ac mae heno wedi dangos sut mae prentisiaethau’n agor llwybrau i ddatblygiad gyrfaol.

“Mae Liam wedi mynd o olchi llestri yn y gegin i fod yn brif gogydd yn Y Wal, Caernarfon, Naga wedi cael ei dyrchafu i safle rheolaeth is yng ngwesty’r St George’s Hotel, Llandudno a Billy wedi datblygu o brentisiaeth sylfaen yr holl ffordd i fyny i fod yn reolwr cofrestredig.

“Mae’r gwobrau hefyd wedi ein galluogi i ddathlu a chydnabod y rôl hanfodol mae cyflogwyr yn ei chwarae i gefnogi prentisiaid. Rwyf yn falch iawn o’r modd y mae’r gwobrau cyflogwyr a gyflwynwyd eleni wedi dangos sut y mae prentisiaethau’n cefnogi busnesau i ddatblygu eu gweithlu trwy feithrin talent o’r tu mewn.

“Roedd yn wych dathlu gwaith dwy fenter gymdeithasol rhagorol, Tyddyn Môn a Seren Ffestiniog, ddaeth â phwysigrwydd dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer darparu gwasanaethau sydd mawr eu hangen mewn cymunedau yn fyw i ni.

“Ysbrydolodd ysgol gynradd Ysgol Gwynedd yn Sir y Fflint, enillydd Gwobr Cyflogwr y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith, ni i gyd gyda’u hangerdd i ddatblygu a thyfu eu pobl a’u hymroddiad anhygoel i ddysgu.”

Mwy am y Gwobrau Dysgu Seiliedig ar Waith Gogledd Cymru a’r enillwyr

Derbyniwyd gyfanswm o dros 60 enwebiad ar gyfer y gwobrau, gydag ymgeiswyr yn cyrraedd rhestr fer yn seiliedig ar eu cyfraniad i’r gweithle, eu cynnydd a’u hymrwymiad i ddysgu. Dewiswyd ‘Prentisiaid y Flwyddyn’ drwy bleidlais ar-lein, gyda phanel o arbenigwyr yn ystyried y categorïau arbenigol.

Mae pob un o’r enillwyr wedi gwneud cyfraniad go iawn i’w gweithle ac wedi defnyddio’r rhaglen brentisiaeth i ddatblygu eu gyrfaoedd, tra profodd Ysgol Gwynedd a Seren Ffestiniog y gall dysgu seiliedig ar waith ddod â gwerth am arian gwirioneddol i gyflogwyr.

Cafodd William ei gydnabod am ei arweinyddiaeth, arloesedd ac ymroddiad eithriadol i wella gwasanaethau iechyd a ofal cymdeithasol. Darparodd brosiect nid yn unig i gyflwyno diffibrilwyr sy’n achub bywydau yn MHC UK Ltd, hyfforddodd staff mewn sut i’w defnyddio mewn argyfwng hefyd, fel rhan o’u gofal i’r henoed neu rai yn agored i niwed.

Roedd y prosiect yn rhan o Brentisiaeth Uwch (Lefel 5) William mewn Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer. Cododd ei ffocws ar addysg a hyfforddiant nid yn unig hyder y staff wrth ddelio â sefyllfaoedd argyfwng, cododd hefyd yr ymwybyddiaeth cyffredinol o iechyd y galon.

Wedi ei ddisgrifio fel model rôl ar gyfer prentisiaid cogyddion y dyfodol, symudodd Naganarayanan o India i Gymru, yn dilyn cyfnod yn y Gwlff, gyda’r nod o gaffael gwybodaeth a phrofiad ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau coginio.

Mae ei ymroddiad i ddysgu, i wneud cynnydd ac i gefnogi eraill wedi ennill dyrchafiad iddo i safle rheolaeth is yng ngwesty’r St George’s Hotel. Cwblhaodd City & Guilds Diploma Lefel 2 mewn Cynhyrchu Bwyd a Choginio dri mis yn fuan ac mae wedi arddangos lefel uchel o broffesiynoldeb.

Disgrifir Liam gan ei asesydd fel “pencampwr go iawn i ddysgu yn y gwaith”, gan arwain yn ôl esiampl i annog cydweithwyr i ddod yn brentisiaid. Symudodd ymlaen o Brentisiaeth Sylfaen mewn Coginio Proffesiynol i gwblhau Prentisiaeth mewn Goruchwyliaeth ac Arweinyddiaeth Lletygarwch, gan hybu ei sgiliau coginio ac arweinyddiaeth ar y ffordd.

Mae wedi helpu ei gyflogwyr drwy agor bwyty pitsa tân coed, wedi iddo fynychu dosbarthiadau meistr gydag arbenigwr pitsa Eidalaidd, ymchwilio’r offer angenrheidiol a chyfrannu i gynllun busnes.

Mynychodd Liam hefyd ystod o ddosbarthiadau meistr eraill i ddysgu am fwydydd y byd ac mae’n hapus i rannu ei wybodaeth a’i sgiliau gyda’i gydweithwyr. Dywed ei gyflogwyr ei fod wedi dod â dawn a chyffro i’w ddau fwyty.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date