Cymhwyster Addysg Uwch arbennig i Carolyn
Mae adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Busnes@LlandrilloMenai'n dathlu ar ôl i Carolyn Williams ennill cymhwyster Prentisiaeth Uwch, y cyntaf i wneud hynny.
Mae Carolyn yn ddirprwy reolwr yng nghartrefi gofal Ceris Newydd a Glyn Menai ym Mangor, a hi ydy'r cyntaf i gwblhau'r cymhwyster Lefel 5 mewn Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae'r cymhwyster newydd hwn yn caniatáu i ddysgwyr ddefnyddio eu profiad yn y diwydiant iechyd a gofal cymdeithasol, a datblygu eu sgiliau ymhellach ac ennill cymwysterau ar yr un pryd.
Ar gyfer prosiect terfynol y Brentisiaeth Uwch, gwnaeth Carolyn waith ymchwil cyn lansio caffi dementia-gyfeillgar i breswylwyr Glyn Menai, ac mae hi'n gobeithio agor y caffi i'r gymuned yn ehangach.
Penderfynodd ddilyn y cwrs Lefel 5 ar ôl cwblhau cwrs Lefel 4 Paratoi i Arwain a Rheoli
drwy lwybr Addysg Bellach Grŵp Llandrillo Menai.
Meddai Carolyn: "Mi wnes i fwynhau'r cwrs Lefel 5, roedd yn ddiddorol iawn. Roedd y ffaith bod gen i rywfaint o brofiad ar ôl cwblhau cwrs Lefel 4. Mi oedd yn waith caled, a finnau'n gweithio 40 awr yr wythnos, ond roedd yn werth chweil.
Mi wnes i lansio'r caffi dementia-gyfeillgar i'r preswylwyr ar ddydd Llun, mae'n golygu eu bod yn gallu mynd i gaffi gyda staff ac aelodau o'r teulu, heb adael y safle.
Mae wedi bod yn boblogaidd, a'r bwriad ydy agor y caffi i'r gymuned er mwyn i bobl sydd wedi cael diagnosis dementia gael cyfle i fod yn rhan o'n cymuned.
Fy ngobaith ydy y bydd yn ffordd o gyflwyno'r lleoliad i bobl, fel nad ydy'n ormod iddyn nhw pan fyddan nhw'n dod yma. Mi allai fod yn ffordd hefyd i drigolion hen a newydd rannu gwybodaeth gyda'i gilydd.”
Mae Carolyn wedi bod yn gefn i'r staff yn Fairways sydd yn cwblhau cymwysterau seiliedig ar waith ac wedi datblygu perthynas agos â Grŵp Llandrillo Menai.
Mae'r tîm dysgu seiliedig ar waith ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol wrth eu boddau bod Carolyn wedi cyflawni'r cymhwyster Lefel 5.
Dywedodd Lis Wainwright, aseswr Carolyn: "Llongyfarchiadau mawr i gyflawnwr cyntaf y Brentisiaeth Uwch newydd!
Dw i mor falch o Carolyn am gyflawni hyn. Mae hi wedi gweithio’n galed iawn i gwblhau'r cymhwyster ac mae wedi rhoi hwb sylweddol i'w hyder. Dw i'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Carolyn a'r tîm yn Fairways a chefnogi eu staff i gwblhau cymwysterau ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol.”
Cynlluniwyd y cymhwyster Prentisiaeth Uwch Lefel 5: Arwain a Rheoli ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol i godi lefel sgiliau gweithwyr yn y sector gofal cymdeithasol. Mae'n cynnig dilyniant i staff profiadol i staff ennill y cymhwyster angenrheidiol i fynd ymlaen i reoli ac arwain ym maes gofal cymdeithasol. Dysgwch ragor yma neu ewch i gllm.ac.uk/cyrsiau