Myfyrwyr arlwyo yn codi arian hanfodol i Tŷ Gobaith
Cynhaliodd Coleg Llandrillo bryd o fwyd a raffl gyda'r nos ym Mwyty Orme View gyda'r elw'n mynd i’r hosbis i blant
Cododd myfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo Coleg Llandrillo £457 at hosbis plant Tŷ Gobaith.
Cynhaliodd y coleg bryd o fwyd a raffl gyda'r nos ym Mwyty Orme View ar gampws Llandrillo-yn-Rhos gyda'r elw'n mynd i’r hosbis.
Dywedodd Vanessa Marubbi, sy'n codi arian i Tŷ Gobaith: "Rydym mor ddiolchgar i'r tîm yng Ngholeg Llandrillo am feddwl amdanom a chynnal y digwyddiad hwn.
“Roedd hi'n noson fendigedig a chodwyd swm gwych a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i blant lleol sy'n ddifrifol sâl a'u teuluoedd.”
Dywedodd Mike Garner, darlithydd lletygarwch yng Ngholeg Llandrillo: "Mae Tŷ Gobaith yn darparu gwasanaeth gofal hollbwysig i blant sy'n derfynol wael a'u teuluoedd yn ein cymuned, ac roedd yn dda i'n dysgwyr allu rhoi rhywbeth yn ôl.
"Fe wnaeth ein myfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch Lefel 1, 2 a 3 baratoi, coginio a gweini'r holl fwyd, felly fe gawson nhw brofiad gwerthfawr wrth hefyd godi arian at achos mor deilwng.
"Rydan ni'n falch iawn o'n staff a'n myfyrwyr am gynnal digwyddiad mor hyfryd a llwyddiannus, ac yn falch iawn o allu helpu Tŷ Gobaith."
Mae Tŷ Gobaith, ar gyrion Conwy, a Hope House yng Nghroesoswallt, yn gofalu am fabanod, plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau iechyd sy'n bygwth bywyd ac nad oes disgwyl iddynt fyw y tu hwnt i 18 mlwydd oed.
Maent hefyd yn cynnig cwnsela a chwnsela profedigaeth i deuluoedd yr hosbis, a chwnsela profedigaeth i deuluoedd sydd wedi dioddef colli plentyn dan ddeunaw oed dan unrhyw amgylchiadau.
I gael rhagor o wybodaeth am hosbis plant Tŷ Gobaith / Hope House ewch i hopehouse.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo yng Ngrŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.