Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Celt a Sion yn rhoi hwb i gwmni Major Owen

Mae'r cyn-fyfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor wedi dechrau prentisiaethau gyda'r cyflenwr peiriannau amaethyddol, adeiladwaith a gofalu am y tir

Ar ôl iddynt wneud argraff ar y busnes teuluol lleol, Major Owen, aeth Celt Thomas a Sion ap Pedr ymlaen i gael eu cyflogi gan y cwmni wedi iddynt gwblhau eu hastudiaethau yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.

⁠Mae Celt a Sion wedi dechrau ar eu prentisiaethau gyda'r cwmni o Benrhyndeudraeth sy'n cyflenwi offer a pheiriannau ar gyfer sectorau proffesiynol a domestig ym maes amaeth, adeiladwaith, gofal daear a garddwriaeth.

Dywedodd Luke Owen-Jones, cyfarwyddwr ôl-werthu yn Major Owen, fod eu haddysg beirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau wedi rhoi "sylfaen gadarn" iddynt ar gyfer llwyddiant.

Dywedodd: "Ar ddechrau 2024, fel rhan o'r broses gynllunio ar gyfer dyfodol y busnes, mi wnaethon ni ddynodi'r angen i fuddsoddi yn y genhedlaeth nesaf o beirianwyr.

⁠⁠"Mi wnaethon ni gyfweld nifer o ymgeiswyr cyffrous ar gyfer y ddwy brentisiaeth newydd sydd wedi cael eu creu yn y busnes a Sion a Celt oedd y rhai a wnaeth argraff. Yn wir, maen nhw wedi chwistrellu egni newydd i'r busnes. ⁠

"Bydd cael dau brentis ifanc, egnïol a thalentog sy'n awyddus i ddysgu yn hanfodol er mwyn i ni allu llwyddo ar y cyd.

"Mae llawer o ddiwydiannau yng Nghymru mewn angen dybryd am y genhedlaeth nesaf o beirianwyr ac rydym wrth ein bodd bod Sion a Celt wedi ymuno â ni.

"Mae eu haddysg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor wedi rhoi sylfaen gadarn o wybodaeth a phrofiad iddynt ac mae hyn wedi eu helpu i gael swyddi gyda'r busnes.

"Rydym wedi eu cofrestru ar raglen brentisiaeth swyddogol Kubota lle byddant yn ennill sgiliau a chymwysterau ychwanegol. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gael perthynas waith hir gyda Grŵp Llandrillo Menai ac at ddatblygu ymhellach y genhedlaeth nesaf o beirianwyr yng Nghymru a'u cyflwyno i'r byd gwaith."

Cwblhaodd Celt Dystysgrif BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch ar gampws peirianneg Coleg Meirion-Dwyfor yn yr Hafan Pwllheli, ei dref enedigol.

Astudiodd beirianneg mathemateg a gwyddoniaeth, dylunio a gweithgynhyrchu cynnyrch, gweithgynhyrchu ychwanegion, dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, systemau rheoli ansawdd a chynnal a chadw systemau mecanyddol.


Dywedodd Celt: "Hyd yma mae gweithio yn Major Owen wedi bod yn llawer o hwyl ac yn brofiad dysgu da. Rydw i'n edrych ymlaen at gael parhau i ddatblygu fy sgiliau yn y gweithdy. Rhoddodd GLlM set dda iawn o sgiliau i mi fel sut i ddarllen a chreu darluniadau peirianneg, sydd wedi helpu pan ydw i'n rhoi peiriannau at ei gilydd.

"Rydw i'n edrych ymlaen at ddechrau'r brentisiaeth Kubota ac at gyfarfod mwy o bobl brofiadol y galla i ddysgu ganddynt. Fy nghyngor i fyddai peidio â dilyn y dorf, ond dewis rhywbeth rydych chi'n gwybod y gallwch chi ei wneud yn dda."

Cwblhaodd Sion, o Flaenau Ffestiniog, Ddipoma BTEC Lefel 3 mewn Peirianneg Uwch ar gampws peirianneg CaMDA yn Nolgellau.

Astudiodd fathemateg bellach, cerbydau awtonomaidd, systemau microreolwyr, a systemau trosglwyddo a dosbarthu pŵer, gan hefyd gwblhau prosiect terfynol.

Dywedodd Sion: "Yn ystod y cwrs, mi wnaethon ni ddysgu am hanfodion peirianneg, fel ffitio, peiriannu, trydan, iechyd a diogelwch mewn peirianneg. Mae'r cyfan yn berthnasol ar gyfer fy mhrentisiaeth bresennol, ac wedi rhoi sylfaen dda i mi ar gyfer gweithio yn y diwydiant.

"Hyd yn hyn rydw i wedi mwynhau gweithio yn Major Owen, yn enwedig oherwydd amrywiaeth y peiriannau rydyn ni'n gweithio arnyn nhw a'r bobl sy'n gweithio yn y cwmni. Yn y dyfodol, rydw i'n edrych ymlaen at gael fy mainc waith fy hun ac o bosib fan waith."

⁠Pan ofynnwyd iddo am ei gyngor i unrhyw un sy'n dilyn llwybr tebyg, dywedodd Sion: "Gweithiwch yn galed, peidiwch â chael eich siomi os cewch eich gwrthod oherwydd mae'n faes cystadleuol, a manteisiwch ar bob cyfle sy'n codi."

Meddai Emlyn Evans, darlithydd peirianneg ar gampysau Pwllheli a Dolgellau: "Eleni eto rydyn ni'n hynod falch bod ein myfyrwyr yn gallu datblygu a mynd ymlaen i waith peirianneg lleol ar ôl iddynt gwblhau eu haddysg beirianegol gyda ni yng Ngholeg Meirion-Dwyfor. "

⁠Dywedodd Noah Hutchins, arweinydd cyrsiau Lefel 3 Peirianneg Uwch ym Mhwllheli a Dolgellau: "Rydyn ni'n yn ymdrechu i ddatblygu set sgiliau peirianneg ein myfyrwyr er mwyn eu gwneud yn barod ar gyfer byd gwaith.

"Gyda'r cyrsiau Peirianneg Uwch, mae'r myfyrwyr yn cael cyfle i gael profiadau ymarferol.

"Pob blwyddyn mae'r rhaglen hon yn cael ei chefnogi gan nifer o gwmnïau lleol sy'n cynnig hyd at 150 awr o brofiadau gwerthfawr i bob dysgwr. Heb eu cefnogaeth ni fyddai'r cyrsiau Peirianneg Uwch mor llwyddiannus wrth feithrin peirianwyr ifanc a'u paratoi ar gyfer byd gwaith."

  • Dylai unrhyw gyflogwyr a hoffai gynnig lleoliadau peirianneg i fyfyrwyr Coleg Meirion-Dwyfor gysylltu ag Emlyn Evans ar evans12e@gllm.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Peirianneg Uwch Lefel 3 Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma

Pagination

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date