Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cwrs Coleg Llandrillo'n arwain at yrfa newydd i Ceri

Mae’r fyfyrwraig trin gwallt newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ac eisoes wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol

Mae Ceri Thomas yn falch ei bod wedi dilyn ei breuddwyd ac wedi cofrestru ar gwrs Trin Gwallt yng Ngholeg Llandrillo.

Mae’r ferch 39 oed o Fae Penrhyn newydd orffen blwyddyn gyntaf ei hyfforddiant, ond eisoes wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth genedlaethol.

Ar hyn o bryd mae Ceri yn gweithio fel dosbarthwr fferyllol, a chyn hynny roedd yn gweithio fel gweithiwr cymorth adsefydlu ar gyfer unigolion ag anghenion cymhleth oedd wedi cael anaf i’r ymennydd.

Penderfynodd y llynedd fod yr amser yn iawn i newid cyfeiriad - ac o fewn chwe mis i ddechrau ar y cwrs Trin Gwallt, Lefel 1 yn salon Llandrillo-yn-Rhos Coleg Llandrillo, cyrhaeddodd Ceri rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr Cysyniad y Flwyddyn.

Er na ddaeth yn fuddugol, dywedodd Ceri fod y profiad yn “anhygoel” ac mi gadarnhaodd ei bod wedi gwneud y penderfyniad cywir i ddilyn cwrs trin gwallt.

Mae’n dychwelyd i’r coleg ym mis Medi i symud ymlaen i Lefel 2, ac yn gweithio i wireddu ei breuddwyd o fod â gofal am ei gyrfa ei hun.

“Dw i'n mwynhau'n arw,” meddai Ceri. “Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn trin gwallt ac roeddwn i'n mynd i ddod i'r coleg ar ôl gorffen yn yr ysgol.

Ond mi benderfynais fynd i ddilyn y llwybr Lefel A a dechrau gweithio yn syth. Ugain mlynedd yn ddiweddarach, gydag ychydig o newidiadau gyrfa, diswyddiadau a phlentyn pedair blwydd oed yn tynnu sylw, mi benderfynais mai rŵan oedd yr amser i wneud hynny.

Byddwn yn annog unrhyw un i wneud yr un peth. Dim ond unwaith byddwn ni yma, ac mi ddylen ni wneud rhywbeth rydym yn angerddol drosto. Dw i'n edrych ymlaen yn arw at gymhwyso a dechrau ar yrfa ble bydd gen i reolaeth lwyr drosto."

Mae Ceri yn cadw ei hopsiynau'n agored o ran yr hyn y bydd yn ei wneud unwaith y bydd wedi gorffen ei hyfforddiant. Fodd bynnag, mae hi'n ystyried mynd i gyfeiriad steilio theatrig a steilio ar gyfer priodasau.

Dywedodd: “Dw i heb benderfynu eto pa lwybr y bydda i'n ei ddilyn Ar hyn o bryd mae gen i ddiddordeb mewn dysgu rhagor am steilio theatrig a steilio gwallt gosod. Pe bawn i'n gallu gwneud bywoliaeth o greu gwallt gosod anferth a gwych ar gyfer perfformwyr drag, byddai hynny'n anhygoel!

“Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn gwallt priodas a gwallt ar gyfer achlysuron arbennig, a lliwiau llachar. Llawer i feddwl amdano felly, a llawer i'w ddysgu dros y blynyddoedd nesaf. Rwy’n gyffrous iawn am y dyfodol, a ble bydd fy nhaith trin gwallt yn mynd a fi.”

Ydych chi eisiau gweithio ym maes trin gwallt, barbwr neu therapi harddwch? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai

Pagination