Cian yn manteisio’n llawn ar gyfle gwych rhaglen brentisiaeth
Siaradodd Cian Taylor am ddatblygiad ei yrfa gyda Joloda Hydraroll a Busnes@LlandrilloMenai i nodi Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau (Chwefror 10 i 16).
Mae Cian Taylor ar y llwybr cywir i gwblhau cwrs gradd diolch i’w brentisiaeth gyda Joloda Hydraroll trwy Busnes@LlandrilloMenai.
Dechreuodd Cian gyda’r cwmni cludo nwyddau fel prentis gosodwr yn 2020, wrth ddilyn cwrs Lefel 3 Crefft Peirianneg yng Ngholeg Menai yn Llangefni.
Ers hynny, mae wedi mynd ymlaen i ddilyn cwrs Tystysgrif Genedlaethol Uwch ac ennill gradd rhagoriaeth, ac erbyn hyn mae'n dilyn cwrs Prentisiaeth Gradd mewn Systemau Peirianneg Fecanyddol ers chwe mis.
Mae'r Brentisiaeth Gradd yn golygu y gall Cian astudio tuag at radd Baglor mewn Peirianneg wrth barhau i weithio. Dyfernir Y Radd gan Brifysgol Bangor ac mae'r dysgwyr yn dilyn cwrs yng Ngholeg Menai am ddwy flynedd cyn trosglwyddo i brifysgol Bangor ar gyfer y flwyddyn olaf.
Bydd cymwysterau Cian yn ychwanegu at ei sgiliau ymarferol a’i wybodaeth ddamcaniaethol, ac yn rhoi cyfle iddo symud ymlaen i swydd reoli o fewn Joloda Hydraroll.
Wrth sôn am ei addysg a'i lwybr at bwnc peirianneg, dywedodd Cian: “Roedd rhestr o bynciau y gallwn i ddewis o’u plith yn 14 neu 15 oed, a pheirianneg oedd yr unig un oedd yn wirioneddol sefyll allan i mi.
Roeddwn i hefyd yn hoff iawn o'n syniad y gallwn i ennill cyflog ac astudio ar yr un pryd a mynd i'r coleg am un prynhawn bob wythnos. Dim ond ar ôl dechrau'r cwrs prentisiaeth y gwnes i sylweddoli faint roeddwn i'n mwynhau elfen ymarferol y cwrs.
Rydw i wedi aeddfedu llawer ers dechrau'r cwrs. Doeddwn i ddim yn teimlo cymhelliant bob amser yn yr ysgol ond ar ôl cael y brentisiaeth roeddwn i'n benderfynol o wneud y mwyaf o'r cyfle.
Rydw i'n ddysgwr cinesthetig, felly roedd dysgu sgiliau ymarferol yn y gweithle yn berffaith i mi, lle roeddwn i’n teimlo y gallwn gyrraedd fy mhotensial llawn. Dydy cydbwyso gwaith ac astudio ddim yn hawdd ond dw i wedi profi fy mod i'n gallu gwneud hynny. Roedd graddio ar y cwrs HNC y llynedd yn deimlad braf."
Cyngor Cian i unrhyw un sy'n ystyried dilyn prentisiaeth ydy, ewch amdani!
Dywedodd: “Mae prentisiaethau’n cynnig y gorau o ddau fyd i chi: rydych chi’n gallu dysgu gwybodaeth trwy addysg strwythuredig wrth weithio a datblygu’ch sgiliau ym mha bynnag ddiwydiant y dymunwch.
Dangoswch eich bod yn ymroddedig a gwnewch eich gorau i ddatblygu, credwch yn eich hun. Mae llawer o gwmnïau gweithgynhyrchu yn eisiau recriwtio pobl ifanc ar hyn o bryd."
Mae Joloda Hydraroll yn dylunio ac yn cynhyrchu systemau llwytho a dadlwytho awtomataidd a systemau cyflawni gwaith â llaw, i symud nwyddau ar ac oddi ar gerbydau yn fwy effeithlon.
Mae llawer o'r gwaith yn digwydd ar ei safle yn Ynys Môn, sy'n ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer weldio, saernïo a phaentio, a chanolfan y cwmni yn y DU ar gyfer addasu trelars HGV ar gyfer y farchnad gartref.
Mewn cydweithrediad â Busnes@LlandrilloMenai, adran fusnes a masnach Grŵp Llandrillo Menai, mae Joloda Hydraroll wedi rhedeg rhaglen brentisiaeth ar ei gyfleuster gweithgynhyrchu ers dros 10 mlynedd.
Mae’r rhaglen wedi cefnogi nifer cynyddol o brentisiaid ar Ynys Môn, gyda llawer ohonynt yn parhau i weithio gyda Joloda Hydraroll heddiw. Eleni mae tair prentisiaeth ar gael i bobl ifanc yr ynys gyda'r cwmni, y nifer fwyaf hyd yma.
Meddai Eurfon Davies, Rheolwr y Rhaglen Beirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai: “Mae’r farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc Gogledd Cymru yn esblygu drwy'r amser, ac mae prentisiaethau’n chwarae rhan hanfodol drwy ddarparu llwybrau gyrfa a mynd i’r afael â phrinder sgiliau yn yr ardal.
Mae’n wych gweld Joloda Hydraroll yn cydweithio â Grŵp Llandrillo Menai i greu rhaglenni prentisiaeth effeithiol ar gyfer ein pobl ifanc ac yn ymateb i heriau economaidd a’r angen cynyddol am hyfforddiant arbenigol mewn gweithgynhyrchu,
“Gyda chefnogaeth y diwydiant, mae’r rhaglenni prentisiaeth hyn yn cynnig cyfuniad o sgiliau ymarferol a dysgu academaidd. Mae'r bartneriaeth hon yn sicrhau bod gan brentisiaid yr arbenigedd perthnasol, gan wella eu cyflogadwyedd a chyfrannu at dwf economaidd yn yr ardal.
Mae buddsoddi mewn hyfforddiant prentisiaeth yn adlewyrchu ymrwymiad i’r gymuned leol a datblygu gweithlu medrus. Mae dyfodol pobl ifanc y rhanbarth yn fwy cadarn drwy waith partneriaethau strategol fel hyn ac mae'n sicrhau cyflenwad cryf o dalent am flynyddoedd i ddod."
I gwmnïau fel Joloda Hydraroll, mae'n bwysig buddsoddi mewn darparu cyfleoedd lleol i bobl ifanc fel Cian, sy'n cynrychioli dyfodol y cwmni. Yn 2024, ar draws ei safleoedd cynhyrchu yn Ynys Môn a Lerpwl, cyflogodd Joloda Hydraroll wyth prentis.
Rheolwr llinell Cian ydy’r arweinydd tîm Dieter Griffiths, a ddywedodd: “Mae Cian yn gaffaeliad i’r tîm. Mae'n dyst i werth rhaglen brentisiaeth Joloda Hydraroll a'r bobl ifanc dawnus sy'n dilyn y rhaglen honno.
“Ers ymuno â ni bedair blynedd yn ôl, mae ei gyflawniadau wedi bod yn rhagorol, yn ei waith academaidd a'i waith ymarferol. Mae ei angerdd, brwdfrydedd a phersbectif ffres yn gweddu'n berffaith i'r hyn rydym yn edrych amdano, a heb y rhaglen brentisiaeth, fydden ni ddim wedi cael y pleser o weithio gyda fo. Mae ymrwymiad ac egni Cian yn adlewyrchu’r math o dalent ifanc a fydd yn arwain ein cwmni ymlaen wrth i ni barhau i dyfu.”
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i raglen brentisiaeth Joloda Hydraroll 2025 yw 1 Awst. Gall ymgeiswyr sydd â diddordeb gael rhagor o wybodaeth trwy e-bostio: helo@joloda.com