Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Cian yn cael ei ddewis ar gyfer Academi Amaeth Cyswllt Ffermio

Mae’r myfyriwr o Goleg Glynllifon yn un o 12 ymgeisydd llwyddiannus o bob cwr o Gymru

Mae Cian Rhys, myfyriwr o Goleg Glynllifon, wedi cael ei ddewis ar gyfer y Academi yr Ifanc Cyswllt Ffermio.

Mae’n un o 12 ymgeisydd llwyddiannus o bob cwr o Gymru a ddewiswyd ar gyfer yr Academi sy’n cefnogi pobl ifanc sy’n gweithio tuag at yrfa mewn amaethyddiaeth.

Mae'r bachgen 17 oed o Fethesda yn astudio Amaethyddiaeth (Lefel 3) yng Ngholeg Glynllifon. Mae'n cydbwyso ei addysg gyda gweithio ar fferm wartheg eidion 120 erw ei deulu yn Nantporth, Bangor, ac ar fferm yn Yr Hendy, Caernarfon.

Mae Academi yr Ifanc gan Cyswllt Ffermio yn darparu profiad gwaith, hyfforddiant, mentora a chyfleoedd rhwydweithio i bobl ifanc 16-21 oed yng Nghymru sydd eisiau creu gyrfa neu sefydlu busnes yn y diwydiannau bwyd neu ffermio.

Cyfarfu’r 12 ymgeisydd llwyddiannus eleni yn Sioe Frenhinol Cymru ym mis Gorffennaf, a byddant yn mynd ar amrywiol deithiau dros y misoedd nesaf, gan gynnwys ymweliad â Norwy i weld sut mae sector amaethyddiaeth y wlad yn defnyddio ynni gwyrdd.

Wrth gael ei ddewis ar gyfer yr Academi, dywedodd Cian: “Fe wnes i gais oherwydd roeddwn i’n ei weld yn gyfle diddorol i ddysgu sgiliau newydd, a dysgu am wahanol gyfleoedd yn y sector a gwahanol ffyrdd o wneud pethau.

“Dw i hefyd yn gobeithio gwneud ffrindiau newydd a gwneud cysylltiadau gyda phobl ledled Cymru. Gobeithio y bydd yn fy natblygu fel person.”

Dywedodd Einir Davies, pennaeth sgiliau Cyswllt Ffermio ac un o’r beirniaid yn y broses ddethol eleni: “Er ei fod yn un o’r ymgeiswyr ieuengaf y gwnaethom eu cyfweld eleni, perfformiodd Cian yn arbennig o dda, gan ddangos aeddfedrwydd ac ymateb i’r cwestiynau mewn ffordd ddigynnwrf, ystyrlon a diymhongar.”

Mae Cian yn ysgrifennydd i Glwb Ffermwyr Ifanc Dyffryn Ogwen, yn chwarae rygbi i dîm dan 18 Bethesda ac yn canu mewn Eisteddfodau a chystadlaethau lleol eraill.

Mae’n gobeithio bod yn arwerthwr da byw, ac yn y gorffennol mae wedi trefnu ei arwerthiant ei hun yn nigwyddiad cneifio cyflym Dyffryn Ogwen, yn ogystal â chael profiad trwy leoliadau gwaith.

Wrth iddo baratoi i ddechrau ail flwyddyn ei astudiaethau yng Ngholeg Glynllifon, dywedodd Cian fod y cwrs yn ei helpu i wireddu ei uchelgeisiau.

“Mae'n mynd yn dda iawn, dw i'n mwynhau,” meddai. “Mae’r cwrs yn ehangu eich gorwelion, gan ddysgu gwahanol ffyrdd o wneud pethau.

“Dw i wedi cyfarfod â phobl newydd, wedi dysgu llawer o bethau newydd, fel sut mae amaethyddiaeth yn newid, yn enwedig yr ochr fusnes. Dw i’n dysgu am strwythurau cwmnïau a sut mae cwmnïau gwahanol yn cael eu rhedeg, sy’n help mawr gyda’r hyn dw i eisiau ei wneud yn y dyfodol.”

  • Mae Cyswllt Ffermio yn darparu cymorth amrywiol i’r diwydiant amaeth yng Nghymru. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma neu ewch i businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy

Hoffech chi gael gyrfa ym maes amaethyddiaeth neu goedwigaeth? Mae Coleg Glynllifon yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau, gan gynnwys Amaethyddiaeth (Lefel 3) a Diploma Estynedig Technegol Uwch mewn Coedwigaeth a Choedyddiaeth (Lefel 3). I ddysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael, cliciwch yma.

Pagination