Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

‘Dosbarth 24’ yn dychwelyd i’r coleg i rannu eu profiad o Camp America

Ar ôl cwblhau eu cyrsiau chwaraeon yng Ngholeg Llandrillo, cafodd cyn-ddysgwr haf wrth eu bodd yn gweithio yn yr Unol Daleithiau

Daeth pedwar aelod o Ddosbarth 24 yn ôl i Goleg Llandrillo'n ddiweddar i rannu eu profiadau o Camp America.

Treuliodd Henry Wilyman, Lewis May, Luke Bartlett a Dylan Michaelson yr haf yn gweithio fel cynghorwyr gwersyll, gan hyfforddi plant i fynd ar weiren wib, cymryd rhan mewn chwaraeon tîm, chwaraeon dŵr a llawer mwy.

Sgwrs am Camp America ar gampws y coleg yn Llandrillo-yn-Rhos wnaeth eu hysbrydoli ac ar ôl gorffen eu cwrs lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) dyma groesi'r Iwerydd.

Cafodd Lewis May o'r Rhyl ei leoli yng ngwersyll Ojibwa yn Wisconsin.⁠ ⁠Disgrifiodd y profiad fel un sy’n “newid bywyd”.

“Rydw i wedi cael haf gorau fy mywyd yng nghanol pobl wych ac mae’n un na fydda i byth yn ei anghofio,” meddai Lewis.

“Roedden ni'n treulio'r dydd yn goruchwylio gemau ac yn hyfforddi ein timau ein hunain mewn campau amrywiol fel pêl-droed, pêl-fasged, hoci, pêl-droed Americanaidd a mwy. Roedd yn gymaint o hwyl ac yn union fel rydych chi'n ei weld mewn ffilmiau.

⁠“Roedd yr uchafbwyntiau’n cynnwys ennill sawl gêm bêl-droed ar y funud olaf ac mi helpodd hynny ni i symud ymlaen trwy’r rowndiau cyntaf yn y pencampwriaethau. Mae arwain eich timau i fuddugoliaeth yn gwneud i chi deimlo fel hyfforddwr proffesiynol – does 'na ddim teimlad gwell i'w gael!

“Dyma'r haf gorau i mi ei gael erioed, ac rydw i wedi cael profiad a fydd yn fy helpu i wireddu'r freuddwyd o fod yn hyfforddwr proffesiynol. Alla i ddim credu fy mod wedi cael fy nhalu i fynd i weithio yn America a gwneud yr hyn dw i'n ei garu!”

Gyrrwr cwch, achubwr bywyd a hyfforddwr chwaraeon dŵr ym Massachusetts oedd Henry Wilyman o Abergele.⁠

Dywedodd: ⁠“Fy ngwaith o ddydd i ddydd oedd gyrru'r cwch a dysgu'r plant sut i donfyrddio. Roedd yna ddau ohonon ni ar y cwch ac roedden ni'n gyrru a hyfforddi bob yn ail. Rai dyddiau mi fyddwn i'n helpu gyda'r pysgota, yn hyfforddi padlfyrddio a caiacio, neu'n gweithio fel achubwr bywydau.

“Un o fy mhrif ddyletswyddau oedd gofalu am y plant – yn y bôn rydych chi'n byw gyda'r plant am ddau fis, ac rydych chi'n datblygu cysylltiad efo nhw. Mae’n wych gallu eu gweld nhw'n datblygu yn ystod y ddau fis rydych chi efo nhw.

“Yr uchafbwynt i mi oedd eu dysgu nhw sut i donfyrddio, oherwydd ro'n i’n gallu fy ngweld fy hun ynddyn nhw, yn gwneud yr un camgymeriadau. Roedd yn wych gweld pobl roedd tonfyrddio'n arfer codi ofn arnyn nhw'n datblygu i fod yn edrych ymlaen at gael gwneud hynny – roedd yn beth braf iawn.”

Roedd Luke Bartlett o Gyffordd Llandudno yn gweithio fel hyfforddwr ar y weiren wib yn Portland, Maine.⁠

Dywedodd: “Ro'n yn meddwl bod yr holl brofiad yn anhygoel. Ro'n i wrth fy modd efo pob dim. Gweithio efo'r plant, gweithio efo pobl o wahanol wledydd, dim ond cael bod yno, roedd yn un o amseroedd gorau fy mywyd.

“Un o’r uchafbwyntiau i mi oedd mynd ar deithiau estynedig i wersylla efo’r plant. Mi gawson ni feicio, heicio, gweld sioe gan dorwyr coed a gwneud 'smores'. Ar ein dyddiau rhydd roedden ni'n mynd i Boston, yn mynd i'r sw ac yn gwneud pethau fel chwarae mini golff a mynd i faes saethu.”

Aeth Dylan Michaelson o Lan Conwy i weithio fel achubwr bywyd yn Efrog Newydd.⁠

Dywedodd: “Mi ges i amser gwerth chweil. Pump a chwech oed oedd y plant ro'n i'n gyfrifol amdanyn nhw, felly roedd rhaid dysgu sut i ymateb i bob plentyn a chanolbwyntio'ch sylw ar y rhai oedd ei angen fwyaf. Mi wnes i ddysgu sut i gyfathrebu efo plant a rhoi adborth iddyn nhw.

“Dw i wedi gwneud ffrindiau newydd – rhai o Sbaen, Ecuador, Mecsico. Ar benwythnosau rhydd ro'n i'n mynd i lawr i'r ddinas i weld yr holl atyniadau enwog yno.”

Mae'r pedwar cyn-fyfyriwr bellach yn gobeithio cael gyrfaoedd ym maes hyfforddi, ac maen nhw o'r farn fod y coleg wedi helpu i'w paratoi ar gyfer y gwersyll a'u bywyd gwaith yn y dyfodol.

⁠Dywedodd Henry, sydd am ddilyn prentisiaeth hyfforddi chwaraeon: “Trwy'r coleg mi gawson ni wneud llawer o gymwysterau hyfforddi, fel pan aethon ni i Glwb Rygbi Nant Conwy i ddyfarnu gemau saith bob ochr.

“Yma yn y coleg mi wnaethon ni ddyfarnu ychydig o gemau pêl-droed i ysgolion, gan weithio gyda phlant iau, yn hyfforddi a dyfarnu.

“Roedd gwneud fy nghymhwyster achub bywyd cyntaf hefyd yn gyfle da iawn, ac yn bendant wedi fy helpu i gael y swydd yn America.

“Roedd llawer o bobl yn y gwersyll heb gael unrhyw brofiad hyfforddi o gwbl, ond oherwydd y coleg roedden ni wedi cael mwy o brofiad o gryn dipyn. Felly roedd yn dda iawn gallu mynd yno yn gwybod beth oeddwn i'n ei wneud a chael ychydig o fantais o hynny.”

Dywedodd Lewis: “Ar y cwrs buom yn gweithio gydag ysgolion, yn hyfforddi sesiynau mewn gwahanol chwaraeon ac yn gweithio gyda phlant ifanc. Roedd yn ffordd berffaith o baratoi gan mai dyna yw eich prif gyfrifoldeb yn y gwersyll.

“Ges i lawer o help gan fy nhiwtoriaid i wneud y cais ac i wneud yn siŵr bod gen i'r profiad iawn i fod yn gwnselydd gwych. Mi gawson ni lawer o help gan ein tiwtor, Rhodri Davies ac allwn i ddim bod yn fwy diolchgar iddo fo – roedd yn wych am ein helpu ni i baratoi ar gyfer profiad bythgofiadwy.”

Dyma oedd gan Dylan i'w ddweud: “Mi wnes i fwynhau'r cwrs yn fawr iawn. Rydych chi'n dysgu llawer o sgiliau ar gyfer eich chwaraeon, a llawer o wahanol agweddau – gan gynnwys sut mae chwaraeon yn effeithio ar eich corff a sut i drin eich corff fel eich bod yn dod atoch eich hun yn well, ochr fusnes chwaraeon – ac wrth gwrs rydych chi'n dysgu llawer am yr ochr hyfforddi, a oedd yn bendant yn help i gael mynd i America.”

Yn dilyn ei gyfnod yn yr Unol Daleithiau, mae Luke bellach yn ystyried dychwelyd i'r coleg i ddilyn cwrs gradd mewn gwyddor chwaraeon.

Dywedodd: “Rydw i wastad wedi bod eisiau hyfforddi pêl-droed, ond yn ystod eu cyfnodau rhydd yn y gwersyll roedd y cwnselwyr yn dod at ei gilydd i wneud llawer o chwaraeon eraill – pêl-foli, golff, saethyddiaeth.

“Felly dw i’n fodlon ceisio gwneud rhywbeth gyda champ arall, ac mae mynd i'r gwersyll wedi rhoi hwb i mi i’r cyfeiriad cywir.”

Pagination