Codio, dadlau a dysgu am y gofod wrth i'r coleg gynnal Wythnos Llyfrgelloedd
Cynhaliodd Canolfan Llyfrgell+ Coleg Llandrillo ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, amrywiaeth o ddigwyddiadau i arddangos y gweithgareddau a'r gwasanaethau sydd ganddi i'w cynnig.
Fel rhan o Wythnos Llyfrgelloedd, cynhaliodd dysgwyr Coleg Llandrillo ddadl ar fepio, a rhoi cynnig ar godio.
Bu myfyrwyr hefyd yn dysgu am y gofod, yn cystadlu mewn twrnamaint gwyddbwyll, ac yn mwynhau sesiwn faldod fel rhan o amrywiaeth o weithgareddau a oedd ar gael drwy gydol yr wythnos.
Cynhaliwyd Wythnos Llyfrgelloedd rhwng 5 a 7 Rhagfyr i arddangos rhai o'r gwasanaethau a gynigir gan ganolfannau Llyfrgell+ Grŵp Llandrillo Menai.
Dechreuodd digwyddiadau'r wythnos fore Mawrth yn adeilad Bodnant ar gampws Llandrillo-yn-Rhos gyda dadl ar fepio. Cafodd y dysgwyr gyfle i gyfleu eu safbwynt, gwrando ar eraill, a chael profiad o ddemocratiaeth ar waith.
Brynhawn Mawrth, cafodd y myfyrwyr gyfle i roi cynnig ar godio gan ddefnyddio robotiaid Lego Mindstorms, gan arbrofi gyda pheth o’r dechnoleg ddiweddaraf sydd gan y llyfrgell i’w chynnig.
Fore Mercher cynhaliodd y llyfrgell grŵp darllen gyda dysgwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL). Roedd y sesiwn yn cynnwys cyflwyniad i adnoddau ESOL newydd.
Meddai Meleri Hughes, tiwtor ESOL: “Fe wnaeth y myfyrwyr ESOL fwynhau’r grŵp darllen yn fawr. Roeddent wrth eu bodd gyda'r dewis o lyfrau, ac aeth pawb â llyfr adref i'w ddarllen.
“Maen nhw’n edrych ymlaen at y sesiwn nesaf, a gwnaethant sylwadau ar ba mor garedig a chymwynasgar oedd y staff tuag atynt. Roedd y myfyrwyr ESOL wedi’u plesio gan yr amrywiaeth o ddeunyddiau a oedd ar gael ac yn meddwl bod y geiriaduron yn adnodd defnyddiol iawn.”
Brynhawn Iau, cafodd y myfyrwyr gyfle i ymlacio a chael eu maldodi, wrth i ddysgwyr Therapi Harddwch gynnig sesiynau celf ewinedd am ddim.
Dywedodd Sharon Grieve, tiwtor Therapi Harddwch: “Rwyf mor falch o’r holl ddysgwyr lefel 1 a ddaeth i gefnogi wythnos llyfrgelloedd trwy arddangos eu sgiliau celf ewinedd newydd.
“Mae’n wych gweld y dysgwyr yn magu hyder gyda chleientiaid ac yn gwylio eu taith i’r diwydiant harddwch.”
Ddydd Iau, roedd y ffocws ar y ffin olaf mewn darlith amser cinio ar seryddiaeth.
Ysbrydolodd Brian Woosnam, cynorthwyydd yn siop argraffu'r llyfrgell, y staff a'r myfyrwyr i syllu ar y sêr wrth iddo gyflwyno gwers agored ar y bydysawd y tu hwnt i atmosffer y Ddaear.
Digwyddiad olaf Wythnos Llyfrgelloedd oedd twrnamaint gwyddbwyll brynhawn dydd Iau. Cameron Jones enillodd y wobr gyntaf o £20, gyda Rhys Frost yn cipio’r ail wobr o £10.
Mae Library+ yn bartneriaeth rhwng y Gwasanaethau Llyfrgell, Gwasanaethau i Ddysgwyr a'r Tîm Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae wedi'i gynllunio i greu un pwynt cyswllt i fyfyrwyr gael mynediad at adnoddau a chymorth.
Mae naw campws y Grŵp yn cynnwys 10 llyfrgell, gyda phob canolfan Llyfrgell+ yn cynnwys ystod eang o ddeunyddiau i gefnogi myfyrwyr gyda'u hastudiaethau, yn ogystal â chynnig gweithgareddau lles a chyfoethogi.
Mae canolfannau Library+ yn cynnig mynediad am ddim i Wi-fi, cael defnyddio offer dysgu digidol fel pensetiau rhithwir, benthyca offer digidol, a chymorth gydag astudio digidol. Bydd myfyrwyr cymwys yn gallu benthyg dyfais Google Chromebook am ddim i'w cefnogi yn eu hastudiaethau, ac mae mannau astudio penodol sy'n galluogi dysgwyr i ddefnyddio eu dyfeisiau eu hunain.
Mae gan fyfyrwyr fynediad at fwy na 70,000 o lyfrau a chyfnodolion a chronfeydd data ar-lein arbenigol, gan gynnwys ystod eang o lwyfannau e-lyfrau ac e-gyfnodolion.
Mae yna leoedd ar gyfer astudio unigol neu mewn grŵp, gan gynnwys mannau tawel y mae'r tîm Mentora Awtistiaeth yn eu defnyddio i gefnogi dysgwyr.
Bydd staff profiadol hefyd wrth law i gefnogi myfyrwyr gyda sgiliau astudio, ac i gynnig cymorth gydag aseiniadau a pharatoadau ar gyfer arholiadau. Mae ystod o adnoddau ar gael hefyd i gefnogi datblygiad proffesiynol parhaus gan gynnwys sgiliau cyflogadwyedd a gwybodaeth gyrfa.
I gael rhagor o wybodaeth am lyfrgelloedd Grŵp Llandrillo Menai, yn cynnwys amseroedd agor, cliciwch yma.