Coleg Glynllifon yn Dathlu ei Ben-blwydd yn 70 oed
Eleni, mae campws amaethyddiaeth a diwydiannau’r tir Grŵp Llandrillo Menai yn dathlu ei ben-blwydd yn 70 oed.
Cafodd y dathliadau eu cynnal yr wythnos diwethaf (dydd Iau, 20 Mehefin) yn Seremoni Wobrwyo flynyddol Coleg Glynllifon, lle cyflwynwyd i'r dysgwyr dystysgrifau a gwobrau am yr hyn yr oeddent wedi'i gyflawni yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf.
Roedd dros 500 o ddysgwyr, eu teuluoedd, a staff yn bresennol i nodi'r achlysur arbennig.
Ers agor ar 22 Mai 1954, mae Coleg Glynllifon wedi bod ar flaen y gad ym myd addysg amaethyddol, ac mae nifer dirifedi o'i ddysgwyr wedi mynd ymlaen i gael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau ar draws gogledd Cymru a thu hwnt.
Esboniodd yr Uwch Gyfarwyddwr Datblygiadau Masnachol, Gwenllian Roberts,
“Mae’r pen-blwydd nodedig hwn yn nodi saith degawd o ragoriaeth wrth i ni addysgu ac arloesi ym maes diwydiannau’r tir. Mae dysgwyr 2024 yn rhan o etifeddiaeth arbennig ac yn cerdded yn ôl traed y cenedlaethau sydd wedi cyfrannu at dwf a chynaliadwyedd y sector pwysig hwn.
“Rydyn ni'n hynod falch ein bod yn cynnig cwricwlwm sydd nid yn unig yn cynnwys arferion da presennol, ond hefyd yn rhoi cyfleoedd i'r myfyrwyr ddysgu am dechnegau newydd ac arloesol.
“Wrth i Grŵp Llandrillo Menai edrych i’r dyfodol, mae’n parhau i fod yn ymrwymedig i drosglwyddo gwybodaeth i fyfyrwyr a’r diwydiant, i ddatblygu sgiliau, ac i hybu twf yr economi. Nid edrych yn ôl i'r gorffennol yn unig rydyn ni wrth ddathlu 70 mlynedd, ond edrych ymlaen at barhau i arloesi a rhagori wrth addysgu diwydiannau'r tir. Rydym yn falch iawn o fod mewn sefyllfa i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu'r economi wledig ac i helpu i fanteisio ar y cyfleoedd sylweddol sydd ar gael.”
Mae fferm Glynllifon yn ymestyn dros 300 hectar, ac yn cynhyrchu cig eidion, cig oen, porc a chynnyrch llaeth o'r ansawdd uchaf. Yn ogystal, mae gan y campws ganolfan astudiaethau anifeiliaid, canolfan beirianneg, a choedwig a melin lifio.
Mae Coleg Glynllifon wedi gweld twf rhyfeddol yn y blynyddoedd diwethaf, a nifer y myfyrwyr wedi cynyddu 26% dros y tair blynedd diwethaf. Eleni cofrestrodd mwy o ddysgwyr nag erioed o'r blaen yng Ngholeg Glynllifon ac roedd eu cyfraddau cwblhau yn llawer uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol.
Mae arloesi'n gwbl ganolog i genhadaeth Coleg Glynllifon. Mae'r coleg yn parhau i weithio gyda Chanolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Prifysgol Sheffield (AMRC Cymru) sy’n arbenigo mewn awtomeiddio, a roboteg.
Yn sgil y bartneriaeth mae Coleg Glynllifon yn treialu ac yn defnyddio dulliau newydd o weithio, gan gryfhau ei sgiliau a'i fedrusrwydd ym maes peirianneg, amaethyddiaeth fanwl a choedwigaeth. Enghraifft wych yw'r Agbot, tractor sy'n gyrru ei hun sy’n cael ei dreialu yn y coleg.
Meddai Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd-Amaeth Grŵp Llandrillo Menai:
“Mae eleni'n flwyddyn fawr i Goleg Glynllifon wrth i ni ddathlu saith deg mlynedd o addysg bellach yn y coleg. Mae gennym ni ddysgwyr yma heddiw sy’n dilyn yn ôl traed eu rhieni, gyda chenedlaethau di-dor o deuluoedd wedi astudio yma.
“Mae llawer o’r sgiliau amaeth traddodiadol yn dal i gael eu cyflwyno – ond ochr yn ochr â dulliau mwy modern, fel defnyddio cerbydau trydan a thractorau sy'n gyrru eu hunain – rhywbeth na allen ni fod wedi'i ddychmygu 70 mlynedd yn ôl!
“Hoffem hefyd ddiolch yn arbennig i OBR Construction – prif noddwr y gwobrau a'r dathliadau eleni.”
Dywedodd Cyfarwyddwr OBR Construction, Rhys Jones.
“Gan ein bod yn gwmni sy'n rhoi bri ar sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth leol, rydyn ni'n falch iawn o allu cefnogi'r dathliad arbennig hwn. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl ifanc yn cael eu cydnabod ac rydyn ni'n dymuno'n dda i'r dysgwyr yn eu gyrfaoedd. Da iawn bawb!”
Mae yna'n dal ambell le ar ôl ar rai cyrsiau yng Ngholeg Glynllifon sy'n dechrau ym mis Medi 2024. Cliciwch yma i gael gwybod rhagor am y campws a'r cyrsiau sy'n cael eu cynnig.