Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Glynllifon yn Gyd-enillwyr Diwrnod Chwaraeon Ffermwyr Ifanc

Curodd tîm rygbi'r bechgyn Goleg Ceredigion, Llysfasi a Chastell-nedd Port Talbot yn y digwyddiad cyntaf o'i fath i golegau amaethyddol Cymru

Gorffennodd tîm rygbi bechgyn Coleg Glynllifon yn gyd-enillwyr cyntaf Diwrnod Chwaraeon y Ffermwyr Ifanc.

Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yng Nghlwb Rygbi Aberystwyth ac a drefnwyd gan dimau Llesiant Actif Coleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr, yn cynnwys twrnamaint rygbi 10-bob-ochr a chystadleuaeth tynnu rhaff, ac yn gyfle i holl golegau amaethyddol Cymru ddod ynghyd.

Cafodd Glynllifon ddechrau gwych, gan ennill 21-14 mewn gêm agoriadol agos yn erbyn tîm yn cynrychioli Coleg Ceredigion, campws Aberteifi. Roedd yr ail gêm yn erbyn Coleg Sir Gâr campws y Gelli Aur, ac yn anffodus cawsant ein curo gan dîm cryf a threfnus.

Yn eu gêm nesaf, bu'n rhaid i fechgyn Glynllifon roi o'u gorau yn erbyn tîm Campws Coleg Cambria yn Llysfasi, gan ennill o 19-10 i gadw hawliau brolio Gogledd Cymru.

Yna cofnodwyd buddugoliaeth nodedig o 33-5 yn erbyn campws Coleg NPTC y Drenewydd, gan orffen y diwrnod fel enillwyr ar y cyd, gyda thimau o Gelli Aur, Aberteifi a Glynllifon i gyd wedi ennill yr un nifer o bwyntiau.

Mae'r bechgyn bellach yn edrych ymlaen at gystadlu yng Nghwpan Ysgolion a Cholegau Rygbi Gogledd Cymru D18. Bydd y daith dechrau gyda grŵp rhanbarthol yn erbyn Ysgol Brynrefail, Ysgol Syr Hugh Owen ac Ysgol Tryfan.

Dywedodd Ollie Coles, Swyddog Ymgysylltu Rygbi Grŵp Llandrillo Menai ac Undeb Rygbi Cymru: “Roedd Diwrnod Chwaraeon y Ffermwyr Ifanc yn gyfle gwych i’n dysgwyr gynrychioli Coleg Glynllifon a Gogledd Cymru yn ehangach ar lefel genedlaethol.

"Mae'r bechgyn wedi cynrychioli Coleg Glynllifon a'r Gogledd yn wych. Roedd yn arbennig cael eu gweld yn rhyngweithio ac yn cystadlu yn erbyn eu cyd-ffermwyr ifanc o bob rhan o Gymru yn ein camp genedlaethol. Mae'r staff a'r dysgwyr yn edrych ymlaen yn fawr at ddigwyddiad y flwyddyn nesaf.”

Roedd y digwyddiad yn cyd-daro â Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, ac roedd elusennau iechyd meddwl gan gynnwys Tir Dewi, FCN, Sefydliad DPJ, a thîm iechyd ieuenctid Iechyd Da y Gwasanaeth Iechyd, yn ogystal ag elusennau ffermio, i gyd yno.

Pagination