Coleg Glynllifon yn treialu tractor robotig
Mae AMRC Cymru yn treialu tractor cwbl awtonomaidd gwerth £380k ar fferm Coleg Glynllifon, gan roi profiad amhrisiadwy i ddysgwyr o ddulliau ffermio’r dyfodol.
Mae Coleg Glynllifon yn torri tir newydd yn y diwydiant amaeth wrth iddo dreialu'r tractor cwbl awtonomaidd cyntaf sydd ar gael yn fasnachol yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r AgBot wedi cael ei brynu gan AMRC Cymru, ar ôl i gwmni technoleg amaethyddol AgXeed ei ddatblygu fel tractor llai, ysgafnach a mwy effeithlon sy’n gallu rhedeg yn ddi-dor a heb oruchwyliaeth am hyd at 23 awr.
Fe'i cynlluniwyd nid yn unig i arbed amser i ffermwyr, ond hefyd i'w helpu i gynllunio'u gwaith dyddiol ymlaen llaw, i wella eu cynaliadwyedd, i ffermio'n fwy manwl ac i ddarparu data olrhain i gefnogi penderfyniadau busnes allweddol.
Mae AMRC Cymru, sy'n rhan o glwstwr arloesi AMRC Prifysgol Sheffield, yn bwriadu treialu’r tractor gwerth £380,000 yng Ngholeg Glynllifon er mwyn rhoi profiad gwerthfawr i'r myfyrwyr o ddulliau ffermio'r dyfodol.
Meddai Martin Jardine, Cyfarwyddwr Bwyd-Amaeth Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym wrth ein boddau bod yr AgBot wedi cyrraedd y safle ac yn barod i gael ei ddefnyddio ar gyfer hyfforddiant yng Ngholeg Glynllifon.
“Mae’n gyfle gwych i’r dysgwyr a’r gymuned ffermio yng Nghymru gael gweld yn uniongyrchol y manteision sy’n gysylltiedig â mabwysiadu technoleg flaengar.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddefnyddio’r AgBot i addysgu ffermwyr a rheolwyr tir y dyfodol am y manteision sy'n gysylltiedig ag awtomatiaeth a'r enillion effeithlonrwydd sydd i'w cael.”
Gan edrych i'r dyfodol, ychwanegodd Martin: “Rydyn ni yng Ngholeg Glynllifon yn gweld hyn fel dechrau gwych i'r bartneriaeth newydd rhwng y Coleg ac AMRC Cymru.
“Ar adeg pan fo cynyddu cynhyrchiant ac enillion cynaliadwyedd yn allweddol i'r sector bwyd-amaeth, rydym yn falch iawn o allu dangos yr hyn sy'n bosib.
“Mae’n gyfnod cyffrous i’r ddwy ochr wrth i ni symud ymlaen gyda’n cynlluniau i weithio ar y cyd fel rhan o Fargen Twf Gogledd Cymru i gefnogi'r rhanbarth o Hwb Economi Wledig Glynllifon.”
Meddai Harry Collins, uwch beiriannydd ymchwil gweithgynhyrchu yn AMRC Cymru: “Rydym wedi llofnodi memorandwm cyd-ddealltwriaeth gyda Choleg Glynllifon, a’n bwriad yw defnyddio’r AgBot ar y fferm.
“Bydd hynny’n ffordd wych o brofi'r tractor ac yn ein helpu i gael llawer o ddata ar ba mor llwyddiannus ydyw ar rannau amrywiol o dirwedd Cymru.”
Yn ôl Harry, mae i'r AgBot lawer o fanteision i amaethyddiaeth, gan gynnwys awtomatiaeth lwyr sy'n caniatáu iddo weithio am gyfnod hir heb griw. Mae hefyd yn pwyso llai na thractorau traddodiadol gan roi llai o bwysau ar y tir ac achosi llai o gywasgiad pridd.
“Y syniad yn syml yw bod yr AgBot yn gallu cael ei roi mewn cae i wneud tasgau sy'n cael eu rheoli dros ffôn, gliniadur neu gyfrifiadur llechen.”
“Mae gan yr AgBot system ddiogelwch fewnol soffistigedig iawn. Os oes rhwystr o'ch blaen, mae'r system yn adnabod hyn yn awtomatig a daw'r tractor i stop ar unwaith. Mae'r system ar-lein yn anfon hysbysiad atoch sy'n amlinellu'r broblem ac yn cynnig rhestr o ddewisiadau ar sut i'w datrys.
“Mae lefel uchel o iechyd a diogelwch yn nodwedd allweddol o system weithredu'r AgBot.”
Ar hyn o bryd, mae AgBot yn costio tua 75 y cant yn fwy na thractor confensiynol, ond gallai ddarparu arbedion hirdymor mewn defnydd o danwydd a chostau llafur, ac yn y dyfodol bydd modd cyfnewid y generadur disel am danwydd fel hydrogen nad yw'n ffosil ac sy'n fwy gwyrdd.
Mae ganddo'r cysylltiad tri phwynt safonol, sy'n golygu bod modd ei ddefnyddio gydag offer a chyfarpar presennol y byd amaeth. Gall ddygymod â thywydd garw a rhedeg am bron i ddiwrnod cyfan heb orfod cael ei ail-lenwi â thanwydd.
Trwy borth a map ar-lein o'r fferm a'r caeau, gall hefyd blotio'r llwybr mwyaf effeithlon gan ystyried pentiroedd a rhwystrau megis y coed sydd wedi cael eu rhagnodi.
Bydd yr AgBot wedi'i leoli yng Ngholeg Glynllifon, ond bydd hefyd yn teithio'r Deyrnas Unedig ar adegau.
Ariannwyd yr AgBot trwy grant prynu cyfalaf o £1.5m gan Lywodraeth Cymru i AMRC Cymru.
O ganolfan ymchwil gymhwysol gwerth £20m ym Mrychdyn, gogledd Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, mae AMRC Cymru yn cael ei reoli gan Brifysgol Sheffield ac mae’n aelod o’r HVM Catapult, consortiwm o ganolfannau ymchwil blaenllaw ym maes gweithgynhyrchu a phrosesu a gefnogir gan Innovate UK.