Coleg Llandrillo a Betsi Cadwaladr yn dathlu dysgwyr Ymarfer Gofal Iechyd
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Venue Cymru yn ddiweddar i ddathlu cyflawniadau academaidd dros 100 o weithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Cynhaliodd Coleg Llandrillo a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddigwyddiad dathlu yn ddiweddar i'w dysgwyr Addysg Uwch Ymarfer Gofal Iechyd.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Venue Cymru, yn dathlu cyflawniadau academaidd dros 100 o weithwyr cymorth gofal iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Cwblhaodd y gweithwyr cymorth gofal iechyd Dystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Gofal Iechyd ar ôl blwyddyn o ddod i Goleg Llandrillo un diwrnod yr wythnos, gyda chefnogaeth eu cyflogwr gofal iechyd. Astudiodd yr holl raddedigion llwyddiannus mewn lleoliadau gofal iechyd yn ystod y pwysau heb ei ail yn dilyn y pandemig, gan wneud eu cyflawniadau hyd yn oed yn fwy trawiadol.
Mae'r rhaglen yn datblygu lefelau gwybodaeth a sgiliau sy'n golygu y gall gweithwyr cefnogi gofal iechyd wneud cais am lu o swyddi amrywiol sy'n ychwanegu at eu cyfrifoldebau. Mae hefyd yn golygu y gallant gyflawni dyletswyddau lefel uwch yn eu swyddi ac ymateb i anghenion y bwrdd iechyd o ran gweithlu. Mae'r cwrs dwys yn cynnwys asesiad academaidd yn y coleg ac asesiad yn y gweithle gan staff clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Datblygodd y rhaglen drwy bartneriaeth strategol cryf ac ymrwymedig rhwng Coleg Llandrillo, Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor. Mae'n darparu'r potensial ar gyfer dilyniant yn uniongyrchol i ail flwyddyn y rhaglenni Bagloriaeth Nyrsio (BN) gan brifysgolion yn ardal Gogledd Cymru a thu hwnt. Mae’r rhaglen wedi tyfu’n sylweddol ers 2013 pan ddechreuodd gydag un garfan o wyth myfyriwr. Mae’r niferoedd wedi cynyddu’n flynyddol ers hynny. O fis Medi 2023, mae Grŵp Llandrillo Menai yn cael ei gomisiynu gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru i ddarparu’r rhaglen i 220 o weithwyr cymorth gofal iechyd ar secondiad o'r sectorau iechyd, gofal sylfaenol a gofal cymdeithasol yn ystod blwyddyn academaidd 2023-24.
Y siaradwyr yn y digwyddiad yn Venue Cymru oedd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai; Chris Lynes, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo:; Martin Riley, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyfarwyddiaeth Addysg, Comisiynu a Nyrsio Addysg a Gwella Iechyd Cymru; Paul Flanagan, Cyfarwyddwr Addysg Uwch Grŵp Llandrillo Menai a Stephanie Williams a Kelly Duff fel dysgwyr a gwblhaodd y cwrs yn llwyddiannus.
Dywedodd Chris Lynes: "Roedd yn anrhydedd i fynychu a dathlu'r diwrnod gyda'r myfyrwyr a'u gwesteion. Roedd y diwrnod yn cofnodi cwblhau siwrne o waith caled ac ymrwymiad gan y myfyrwyr y ogystal â'r bartneriaeth lwyddiannus rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a'r Bwrdd Iechyd.
"Roeddwn yn falch iawn i gyd-gyflwyno'r tystysgrifau i'r dysgwyr llwyddiannus a hoffwn ddymuno i'r gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd yrfa ym maes gofal iechyd sy'n rhoi pleser a boddhad iddynt."
Derbyniodd y rhaglen gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru (drwy Addysg a Gwella Iechyd Cymru) ac oherwydd hynny mae modd i'r rhai sy'n cwblhau'r rhaglen yn llwyddiannus wneud cais i ddilyn cyrsiau Bagloriaeth Nyrsio rhan-amser, i astudio i ddod yn ymarferwyr Nyrsio wedi eu cymhwyso'n llawn. Maent yn cadw eu swydd cymorth gofal iechyd yn y bwrdd iechyd ar yr un pryd. Canlyniad hyn i gyd yw bod llwybr gyrfa gwirioneddol ar gael yng Ngogledd Cymru ar gyfer y rhai sydd eisiau symud ymlaen o waith cymorth gofal iechyd i gymwyster clinigol llawn mewn Nyrsio.
Dywedodd Martin Riley, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cyfarwyddiaeth Addysg, Comisiynu a Nyrsio, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC): “Roedd yn ysbrydoledig gweld y dysgwyr yn graddio a chlywed hanesion eu siwrne addysg.
“Mae’r unigolion hyn wedi’u gwreiddio yn y gymuned leol ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn y gwasanaethau maen nhw’n gweithio ynddynt. Maen nhw’n llawn cymhelliant ac yn arloesol ac yn gwella gofal diogel ac o safon i gleifion. Mae AaGIC yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â Grŵp Llandrillo Menai a’r Bwrdd Iechyd i gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddatblygu ein gweithlu Gweithwyr Cymorth gwerthfawr.”
Dywedodd Dafydd Evans, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: "Bu llongyfarch cynifer o ymarferwyr mor llawn cymhelliant a phroffesiynol a chydnabod eu cyflawniadau yn bleser pur. Mae eu llwyddiant yn destament i'r cydweithio agos rhwng tîm academaidd Coleg Llandrillo a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae eu llwyddiant yn adlewyrchiad o bartneriaethau cydweithredol sydd yn graidd i'r ffordd mae Grŵp Llandrillo Menai yn gweithio gyda chyflogwyr."
Gwnaeth derbynwyr y gwobrau fwynhau cyfleoedd rhwydweithio a chinio bwffe blasus wedi’i weini gan staff Venue Cymru hefyd.
Ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y digwyddiad roedd y myfyrwyr llwyddiannus, eu gwesteion a'u mentoriaid yn y gweithle ochr yn ochr ag uwch arweinwyr yn y Bwrdd Iechyd, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, cydweithwyr o Brifysgol Bangor a Phrifysgol Wrecsam a staff y coleg sy'n gysylltiedig â'r rhaglen.
Cliciwch yma i ddysgu rhagor am gyrsiau Addysg Uwch yng Ngrŵp Llandrillo Menai.
Ewch i dudalen Facebook Coleg Llandrillo i weld rhagor o luniau o'r seremoni.