Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo a Betsi Cadwaladr yn dathlu dysgwyr Ymarfer Gofal Iechyd

Cynhaliwyd y digwyddiad yn Venue Cymru yn ddiweddar i ddathlu cyflawniadau academaidd dros 80 o weithwyr cymorth gofal iechyd sy'n gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Cynhaliodd Coleg Llandrillo a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddigwyddiad dathlu yn ddiweddar i'w dysgwyr Addysg Uwch Ymarfer Gofal Iechyd.

Roedd y digwyddiad yn Venue Cymru yn nodi cyflawniadau academaidd mwy nag 80 o weithwyr cymorth gofal iechyd sydd wedi cwblhau'r ⁠Tystysgrif Addysg Uwch Lefel 4 mewn Ymarfer Gofal Iechyd.

Mae’r rhaglen yn deillio o bartneriaeth strategol gryf ac ymroddedig rhwng Coleg Llandrillo, Betsi Cadwaladr a Phrifysgol Bangor ac mae wedi’i chomisiynu a’i chefnogi gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.

Mae'r rhaglen yn datblygu gwybodaeth a sgiliau'r dysgwyr i lefel uwch, gan alluogi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd cyflogedig i gyflawni dyletswyddau lefel uwch yn eu swyddi a'u grymuso i wneud cais am ystod ehangach o rolau sy'n ymestyn eu cyfrifoldebau.

Mae llawer o bobl yn dilyn gyrfa yn y byd nyrsio, ac mae'r rhaglen yn rhoi'r potensial iddynt symud ymlaen yn uniongyrchol i ail flwyddyn y radd Baglor mewn Nyrsio (BN) ym mhob sefydliad addysg uwch yng Nghymru a thu hwnt.

Mae'r dysgwyr yn mynychu campws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos am ddiwrnod yr wythnos am gyfnod o flwyddyn. Mae’r cwrs dwys yn cyfuno profiad seiliedig ar waith ac astudiaeth lefel uwch, sy’n cynnwys asesiad academaidd yn y coleg ac asesiad o fewn y gweithle gan staff GIG sydd â chymwysterau clinigol.

Mae’r rhaglen wedi tyfu’n sylweddol ers 2013 pan ddechreuodd gydag un garfan o wyth myfyriwr. Mae Addysg a Gwella Iechyd Cymru bellach yn comisiynu Grŵp Llandrillo Menai i gyflwyno'r rhaglen i fwy na 180 o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy'n gweithio yn y maes iechyd, mewn gofal sylfaenol ac mewn gofal cymdeithasol yng ngogledd Cymru a ledled Cymru drwy ddysgu o bell.

Ymhlith y siaradwyr yn nigwyddiad Venue Cymru oedd:

  • Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo
  • Dyfed Edwards, Cadeirydd BIPBC
  • Sandra Roberts, darlithydd ym Mhrifysgol Bangor ac ymarferydd nyrsio brys ac arweinydd practis gweithiwr cymorth gofal iechyd
  • Martin Riley, Dirprwy Gyfarwyddwr Addysg, Comisiynu ac Ansawdd ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Strategaeth Addysg a Thrawsnewid, Addysg a Gwella Iechyd Cymru
  • Rhiannon Jones a Dr Carolyn Middleton MBE, Arweinydd Prosiect Band 4 (Nyrsio) ar gyfer Swyddfa’r Prif Swyddog Nyrsio, Llywodraeth Cymru
  • Hayley Lloyd, Arweinydd y Rhaglen Ymarfer Gofal Iechyd Coleg Llandrillo
  • Cyn-fyfyrwyr Addysg Uwch Ymarfer Gofal Iechyd Daniel Baird-Clarke, Kelly Duff a Sandra Roberts

Dywedodd Paul Flanagan, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Mae’r cyflawniad rhagorol hwn yn amlygu pŵer cydweithio ac effaith drawsnewidiol dysgu gydol oes.

“Mae llwyddiant dros 90% o’r garfan hon, y mae llawer ohonynt bellach wedi symud ymlaen o rolau galwedigaethol i gymwysterau lefel uwch, yn dyst i’w penderfyniad, cefnogaeth ddiwyro eu mentoriaid yn y gweithle, ac ymroddiad ein partneriaid ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Prifysgol Bangor, ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).

“Gyda’n gilydd, rydym yn arfogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol â’r sgiliau a’r hyder i ragori yn eu rolau, gan gael effaith gadarnhaol ar ansawdd gofal trwy addysg a phartneriaeth wrth baratoi llwybrau at ddilyniant pellach a dyheadau gyrfa.”

Meddai Martin Riley: “Roedd yn ysbrydoledig gweld y dysgwyr yn graddio a chlywed hanesion eu siwrne addysg.

“Mae’r unigolion hyn wedi’u gwreiddio yn y gymuned leol ac yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn y gwasanaethau y maent yn gweithio ynddynt. Maent yn llawn cymhelliant ac yn arloesol ac yn gwella gofal diogel ac o safon i gleifion. Mae AaGIC yn edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth gyda Grŵp Llandrillo Menai a BIPBC i gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i ddatblygu ein gweithlu Gweithwyr Cymorth Iechyd gwerthfawr.”

Cafwyd canmoliaeth i'r cwrs gan ymgeiswyr llwyddiannus eleni, a dywedodd Katie Williams: “Mae’r cwrs yn magu hyder, yn cefnogi datblygiad ysgrifennu academaidd, yn datblygu sgiliau newydd, ac yn adeiladu ar wybodaeth sy’n helpu i wella ymarfer a datblygiad proffesiynol o ddydd i ddydd.”

Ychwanegodd Michelle Cooper, “Rydw i wedi magu hyder ac wedi mwynhau'r cwrs yn fawr iawn,” a disgrifiodd Annwen Williams y cwrs fel un “gwirioneddol ysbrydoledig”.

Dywedodd Beth Williams: “Fe wnaeth y cwrs hwn fy helpu i gymhwyso theori i ymarfer a datblygu fy sgiliau academaidd.”

Roedd y rhai oedd yn bresennol yn y digwyddiad yn cynnwys ymgeiswyr llwyddiannus eleni, eu gwesteion a'u mentoriaid yn y gweithle, uwch gynrychiolwyr o BIPBC, Llywodraeth Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru, cydweithwyr o Brifysgol Bangor a Wrecsam, a staff y Coleg sy'n gysylltiedig â'r rhaglen.

Gwnaeth derbynwyr y gwobrau fwynhau cyfleoedd rhwydweithio a chinio bwffe blasus wedi’i weini gan staff Venue Cymru hefyd.

I ddysgu rhagor am Dystysgrif Addysg Uwch Grŵp Llandrillo Menai mewn Ymarfer Gofal Iechyd, cliciwch yma.

Cysylltu â ni

Nid ydym ar-lein ar hyn o bryd. Gadewch neges ac mi gysylltwn â chi.

Request date