Grŵp Llandrillo Menai yn Ennill Contract i Ddarparu Hyfforddiant ym maes ‘Ymarfer Gofal Iechyd’ Ledled Cymru
Mae Addysg Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) wedi dyfarnu contractau i Grŵp Llandrillo Menai i gyflwyno Tystysgrif Lefel 4 mewn ‘Ymarfer Gofal Iechyd’ ym mhob cwr o Gymru dros y saith mlynedd nesaf.
Mae'r Dystysgrif Lefel 4 mewn Ymarfer Gofal Iechyd yn paratoi Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd ar gyfer swyddi uwch, gan eu cynorthwyo i symud ymlaen i raddau Nyrsio mewn prifysgolion.
Trwy fynd i’r afael â bylchau sgiliau ac ehangu mynediad i addysg uwch, mae’r rhaglen unigryw yn grymuso dysgwyr i wella eu gyrfaoedd a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol wrth barhau mewn cyflogaeth.
Disgwylir i tua 200 o Weithwyr Cymorth Gofal Iechyd gofrestru ar y rhaglen bob blwyddyn, a fydd ar gael yn genedlaethol, gyda dulliau dysgu wyneb yn wyneb, cyfunol ac ar-lein.
Mae'r rhaglen yn adeiladu ar ymrwymiad parhaus y Grŵp i ddiwallu anghenion cyflogwyr lleol yn ei gyrsiau Addysg Uwch mewn ffordd sy'n gydnaws â blaenoriaethau rhanbarthol a galwadau'r economi.
Meddai Paul Flanagan, Cyfarwyddwr Addysg Uwch yng Nghrŵp Llandrillo Menai,
“Rydym wedi ymrwymo i lwyddiant myfyrwyr, ac ers 2020 mae dros 450 o ddysgwyr wedi astudio’r rhaglen hon gyda chyfradd llwyddiant ryfeddol o 95%.
Trwy weithio'n strategol a darparu cyrsiau arloesol, mae'r coleg yn parhau i lunio gweithlu'r dyfodol gan ysgogi twf economaidd a ffyniant yn y rhanbarth.”
Mae mwy o wybodaeth ar y Tystysgrif Lefel 4 mewn ‘Ymarfer Gofal Iechyd’ ar gael yma.