Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Llandrillo yn cynnal twrnamaint pêl-droed yr Urdd i ysgolion cynradd

Roedd y gystadleuaeth yn gyfle i blant, staff y coleg a myfyrwyr ddatblygu eu defnydd o’r Gymraeg, gydag Ysgol Craig y Don yn fuddugol ac yn sicrhau lle yn rownd derfynol genedlaethol 2025

Cynhaliodd Coleg Llandrillo dwrnamaint pêl-droed ysgolion cynradd blynyddol Urdd Conwy, gan groesawu 30 o dimau a bron i 400 o blant o bob rhan o'r sir.

Cafodd disgyblion blwyddyn 5 a 6 gyfle i ddatblygu eu sgiliau iaith wrth fwynhau cystadleuaeth bêl-droed gynhwysol, gyda merched a bechgyn yn cystadlu mewn timau cymysg saith bob ochr.

Tîm o Ysgol Craig y Don, Llandudno, ddaeth i'r brig yn y twrnamaint a drefnwyd gan Urdd Gobaith Cymru, wedi iddynt guro Ysgol Bod Alaw, Bae Colwyn, 4-0 yn y rownd derfynol.

Bydd Ysgol Craig y Don yn mynd ymlaen i gystadlu yn y rowndiau terfynol cenedlaethol yn Aberystwyth ar Fai 10 ac 11 y flwyddyn nesaf.

Meddai Huw Llewelyn Jones, athro Blwyddyn 5 a 6 yn Ysgol Craig y Don: “Roedd y twrnamaint yma heddiw yn wych – wedi’i drefnu yn dda iawn, fel arfer.

“Mae’r bechgyn wrth eu bodd eu bod wedi ennill. Mi fuon ni yma'r llynedd, ac mi gawson nhw eu siomi wrth gael eu trechu, felly mae'n braf bod ar yr ochr fuddugol. Ond mae eu profiad y llynedd hefyd wedi rhoi ymdeimlad o empathi tuag at y tîm arall iddyn nhw, felly yn y cyflwyniad roedden nhw’n eu cymeradwyo nhw hefyd.”

Ychwanegodd: “Mae wedi bod yn wych cael dysgwyr Coleg Llandrillo yn cymryd rhan hefyd. Maen nhw wedi bod yn brydlon, maen nhw wedi bod yn dda gyda’r rheolau, ac maen nhw wedi bod yn hwyl o fewn y rheolau i’r plant hefyd, sy’n wych i’w weld.”

Rhannwyd y 30 tîm o 25 o wahanol ysgolion yn chwe chynghrair fach, gan olygu bod pob tîm yn sicr o gael nifer penodol o gemau. Yna roedd enillwyr y chwe grŵp a'r ddau a ddaeth yn ail orau yn mynd ymlaen i'r rowndiau dileu, a oedd yn cynnwys rownd yr wyth olaf, rownd gynderfynol a'r rownd derfynol.

Roedd y twrnamaint hefyd yn gyfle i staff a myfyrwyr y coleg ymarfer defnyddio’r Gymraeg, beth bynnag oedd lefel eu rhuglder.

Roedd myfyrwyr o Ddiploma Estynedig Lefel 3 mewn Chwaraeon (Perfformiad a Rhagoriaeth) yn ymwneud â Gareth Bicknell2024-10-01T08:38:06dyfarnu, cadw amser a threfnu'r timau, gyda'r Urdd wedi talu i ddysgwyr ddilyn cwrs dyfarnu Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’r 18 myfyriwr i gyd yn aelodau o academïau pêl-droed a rygbi’r coleg ac yn chwarae ar lefel uchaf chwaraeon ieuenctid, felly roedd y twrnamaint yn gyfle iddynt brofi chwaraeon o safbwynt trefnu a gweinyddu.

Yn eu plith roedd Ianto Price Jones, sydd eisoes yn ddyfarnwr cymwys ac a gymerodd yr awenau mewn sawl gêm, gan gynnwys y rownd derfynol.

Dywedodd: “Roedd yn ddiwrnod cystadleuol a phleserus iawn i’r holl blant, ac yn brofiad gwych i bawb a gymerodd ran.”

Dywedodd Guto Williams, Hwylusydd y Gymraeg yng Ngholeg Llandrillo: “Wrth weithio mewn partneriaeth â’r Urdd, mae'n gyfle gwych i’n myfyrwyr gael profiad ymarferol, bod yn barod ar gyfer byd gwaith a hefyd datblygu eu sgiliau iaith.

“Rydym wedi gweithio’n galed iawn dros y flwyddyn academaidd ddiwethaf i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn yr adran chwaraeon yma yng Ngholeg Llandrillo. Hyfryd oedd clywed cymaint o Gymraeg yn cael ei siarad ar y diwrnod, gan y plant a’u hathrawon, a hefyd gan ein staff a’n myfyrwyr ni.

“Mae gennym ni fwy o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg eleni, ac mae’n wych eu gweld yn defnyddio eu sgiliau.”

Mynegodd Amy Thomson, Rheolwr Maes Rhaglen Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, ei brwdfrydedd dros y bartneriaeth barhaus gyda’r Urdd, gyda Twrnamaint cymysg Blwyddyn 3 a 4 a thwrnamaint merched Blwyddyn 5 a 6 eto i ddod yn y coleg ar Hydref 24.

Dywedodd: “Fe ddangosodd ein myfyrwyr chwaraeon berfformiad eithriadol yn y twrnamaint, yn enwedig o ystyried mai dim ond ers pedair wythnos maen nhw wedi bod yn astudio gyda ni.

“Roedd cymryd rhan yn y dyfarnu nid yn unig yn gwella eu hyder a’u sgiliau cyfathrebu ond hefyd yn gyfle i fod yn fodelau rôl cadarnhaol i gyfranogwyr iau.

“Ar ben hynny, mae’r cydweithio hwn yn cynnig amgylchedd delfrydol i hyrwyddo dwyieithrwydd o fewn yr adran Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n parhau i fod yn un o’n blaenoriaethau allweddol.

"Rydym yn edrych ymlaen at ddigwyddiadau yn Llandrillo-yn-Rhos yn y dyfodol, yn enwedig twrnamaint pêl-droed merched ysgolion cynradd Conwy a drefnwyd ar gyfer yn ddiweddarach y mis hwn."

Dywedodd Marc Thomas, Swyddog Digwyddiadau Chwaraeon y Gogledd Ddwyrain Urdd Gobaith Cymru: “Roedd yn wych croesawu 30 o dimau a bron i 400 o blant i’r coleg ar gyfer cystadleuaeth Pêl-droed Agored yr Urdd.

“Roedd cael y diwrnod yn rhedeg drwy gyfrwng y Gymraeg, a chael clywed cymaint o blant yn defnyddio’r iaith mor dda, yn deimlad gwych. Dwi’n edrych ymlaen yn barod at yr un nesaf yn y coleg ar Hydref 24, pan fyddwn ni’n croesawu timau cymysg Blwyddyn 3 a 4, a merched Blwyddyn 5 a 6 ar gyfer eu twrnameintiau.

“Diolch yn fawr iawn i'r holl blant ysgol, y staff, y rhieni, y swyddogion cymorth cyntaf a’r coleg am ddiwrnod gwych llawn hwyl. Pob lwc i Ysgol Craig y Don lawr yn Aberystwyth, lle byddan nhw'n cystadlu yn erbyn yr enillwyr eraill o bob rhan o Gymru. Ymlaen a ni i'r gystadleuaeth nesaf!”

Bydd Coleg Llandrillo yn cynnal twrnamaint cymysg Blwyddyn 3 a 4 a thwrnamaint merched Blwyddyn 5 a 6 ar gampws Llandrillo-yn-Rhos ar Hydref 24. Mae myfyrwyr blwyddyn 1 cwrs Lefel 3 Gwyddor Chwaraeon ar hyn o bryd yn cynllunio i drefnu’r digwyddiad fel rhan o’u Gwobrau Arweinwyr Chwaraeon Cymunedol a Bagloriaeth Cymru.

Dydi hi ddim yn rhy hwyr i wneud cais i'r coleg! Mae llefydd ar gael o hyd ar gyrsiau llawn amser. Ewch i gllm.ac.uk/cy/courses ⁠i gael rhagor o wybodaeth