Dyrchafiad i Dîm Pêl-droed Coleg Llandrillo
Ar ôl sgorio cyfanswm anhygoel o 75 gôl mewn 11 gêm y tymor hwn a chyrraedd brig eu hadran, mae tîm yr Academi Bêl-droed wedi cael dyrchafiad
Mae tîm Academi Bêl-droed Coleg Llandrillo wedi cael dyrchafiad i haen uchaf pêl-droed colegol.
Yn dilyn ymgyrch gref, bydd y tîm yn chwarae yng Nghategori 1 Uwch Gynghrair Dynion yr ECFA y tymor nesaf.
Ymysg y timau fydd yn ymuno â nhw yn yr uwch gynghrair mae tîm cyfunol Grŵp Llandrillo Menai o Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor yn yr uwch gynghrair, ynghyd â thîmau’r Robbie Fowler Football Academy a’r TNS North Shropshire College.
Dyma’r tro cyntaf i dîm o Goleg Llandrillo gael eu dyrchafu i’r lefel uchaf pêl-droed colegol, ar ôl iddynt ennill naw allan o 11 gêm i hawlio teitl Categori 2 Pêl-droed Dynion Rhanbarth Gogledd Orllewin (De) yr ECFA.
Sgoriodd Llandrillo gyfanswm anhygoel o 75 gôl yn yr 11 gêm, gan ennill y gemau o gryn dipyn. Enillodd y tîm o 12 gôl i 0 yn erbyn Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy, o 9 gôl i 0 yn erbyn Wirral Met ac o 9 gôl i 2 (ddwywaith) yn erbyn Riverside/Cronton College.
Yn ôl y prif hyfforddwr a'r darlithydd chwaraeon Matthew Williams: “Mae sicrhau dyrchafiad i Gategori 1 y gynghrair pêl-droed colegol yn dyst i ymroddiad diflino ac ysbryd tîm diwyro’r myfyrwyr a’r staff.
“Mae’n benllanw'r holl waith caled a'r ymrwymiad i ragoriaeth ar y cae ac oddi arno.”
Cieran Williams, Haydn Rutter a Billy Patterson oedd yr enillwyr yng ngwobrau diwedd tymor y tîm. Pleidleisiwyd Cieran yn Chwaraewr y Flwyddyn y Chwaraewyr, enillodd Haydn wobr Chwaraewr y Flwyddyn yr Hyfforddwyr, a Billy enillodd y bleidlais i’r Chwaraewr sydd wedi Gwella Fwyaf.
Y tymor nesaf, bydd Coleg Llandrillo yn cystadlu yn erbyn tîm cyfunol Coleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor, Coleg Cambria, y Robbie Fowler Football Academy yn Lerpwl, TNS North Shropshire College, Hopwood Hall College ym Manceinion, 433 Football yn Stoke, a’r Thomas Telford School yn Telford.
Dywedodd Matthew: “Mae gennym ni lawer o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y grŵp, sy'n ein rhoi ni mewn lle da i gystadlu yng Nghategori 1.”
Mae myfyrwyr yr Academi Bêl-droed yn cael gwersi rhwng 9am a 2.30pm ar y tri diwrnod maen nhw’n cael eu rhyddhau ar gyfer sesiynau hyfforddi. Maent yn elwa ar gyfleusterau campfa a chanolfan chwaraeon o’r radd flaenaf ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, yn ogystal â festiau GPS, camerâu Veo ac ati.
Yn ôl Matthew mae’r cyfuniad o astudio a hyfforddi yn helpu i ysgogi’r myfyrwyr i lwyddo’n academaidd yn ogystal â llwyddo ar y cae pêl-droed.
Meddai: “Mae amserlen yr Academi wedi’i phlethu â’r gwaith academaidd, a dwi’n meddwl fod hyn yn rhoi'r cymhelliant ychwanegol yna i gwblhau’r gwaith academaidd. Yn amlwg mae eu llwyddiant fel myfyriwr yn dod cyn eu llwyddiant fel athletwr, felly os nad yw'r gwaith wedi ei gwblhau, fyddan nhw ddim yn cael eu dewis i chwarae ddydd Mercher a fyddan nhw ddim yn cael cymryd rhan yn y sesiynau ar ddydd Llun, dydd Mawrth neu ddydd Iau.
“O ran y ddarpariaeth pêl-droed, maen nhw’n cael tair sesiwn yr wythnos, gan gynnwys cryfder a chyflyru, llawer o GPS, a llawer o ddadansoddi. Mae gennym ni gamera Veo i ddadansoddi eu perfformiad, sy'n wych oherwydd gallant ei gysylltu â'r gwaith dosbarth. Felly os ydyn nhw’n gwneud uned ar berfformiad chwaraeon er enghraifft, gallant ddefnyddio eu hunain fel astudiaethau achos.
“Felly mae'r rhaglen yn un gref iawn. Mae'n gweithio'n dda iawn o ran cyfoethogi, ac o ran meithrin perthynas rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr."
Ydych chi eisiau gweithio ym maes chwaraeon? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Chwaraeon a Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngrŵp Llandrillo Menai. I gael rhagor o wybodaeth am Academi Bel-droed Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.