Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Tîm pêl-droed Academi Llandrillo yn ennill y gynghrair

Cipiodd y myfyrwyr y teitl ar ôl ennill naw gêm yn olynol, a sgorio 74 gôl mewn 10 gêm yn ystod y tymor

Ar ôl tymor hynod lwyddiannus, Academi Pêl-droed Coleg Llandrillo yw pencampwyr y gynghrair.

Cipiodd Coleg Llandrillo’r teitl ar ôl curo Coleg Wigan a Leigh o 5 gôl i 0 a hynny er bod ganddynt ddwy gêm yn weddill yng nghyngrair Pêl-droed Dynion Rhanbarth Gogledd Orllewin (De) yr ECFA.

Hon oedd eu nawfed buddugoliaeth o’r bron, gyda’r tîm yn sgorio cyfanswm syfrdanol o 74 gôl mewn 10 gêm y tymor hwn.

Mewn buddugoliaeth gref ar gae 3G Coleg Llandrillo, sgoriodd Hugh Holland dair gwaith, a chafwyd gôl bob un gan Owen Herbert a Cian Evans hefyd.

Mae'r tîm, sydd heb golli'r un pwynt ers eu gêm agoriadol yn yr ail gategori, yn gobeithio cystadlu yn y categori cyntaf y tymor nesaf.

Byddai hynny'n gyfle i gystadlu yn erbyn timau gorau colegau Cymru, gan gynnwys TNS, Cei Connah a thîm cyfunol Grŵp Llandrillo Menai o Goleg Menai a Choleg Meirion-Dwyfor.

Meddai Matthew Williams, y prif hyfforddwr a'r darlithydd chwaraeon: “Mae hyn yn wych, mae'r hogiau wedi gwneud yn arbennig.

“Y tymor nesaf, oherwydd y llwyddiant rydyn ni wedi’i gael eleni, rydyn ni wedi gwneud cais i chwarae yn y categori cyntaf. Byddai hynny'n golygu chwarae ar y safon uchaf o bêl-droed colegol yn erbyn timau fel TNS a Chei Connah.

“Mae gennym ni lawer o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf yn y grŵp, sy'n ein rhoi ni mewn lle da i gystadlu yng Nghategori 1.”

Mae myfyrwyr yr Academi Bêl-droed yn cael gwersi rhwng 9am a 2.30pm ar y tri diwrnod maen nhw’n cael eu rhyddhau ar gyfer sesiynau hyfforddi. Maent yn elwa ar gyfleusterau campfa a chanolfan chwaraeon o’r radd flaenaf ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, yn ogystal â festiau GPS, camerâu Veo ac ati.

Yn ôl Matthew mae’r cyfuniad o astudio a hyfforddi yn helpu i ysgogi’r myfyrwyr i lwyddo’n academaidd yn ogystal â llwyddo ar y cae pêl-droed.

Meddai: “Mae amserlen yr Academi wedi’i phlethu â’r gwaith academaidd, a dwi’n meddwl fod hyn yn rhoi'r cymhelliant ychwanegol yna i gwblhau’r gwaith academaidd. Yn amlwg mae eu llwyddiant fel myfyriwr yn dod cyn eu llwyddiant fel athletwr, felly os nad yw'r gwaith wedi ei gwblhau, fyddan nhw ddim yn cael eu dewis i chwarae ddydd Mercher a fyddan nhw ddim yn cael cymryd rhan yn y sesiynau ar ddydd Llun, dydd Mawrth neu ddydd Iau.

“O ran y ddarpariaeth pêl-droed, maen nhw’n cael tair sesiwn yr wythnos, gan gynnwys cryfder a chyflyru, llawer o GPS, a llawer o ddadansoddi. Mae gennym ni gamera Veo i ddadansoddi eu perfformiad, sy'n wych oherwydd gallant ei gysylltu â'r gwaith dosbarth. Felly os ydyn nhw’n gwneud uned ar berfformiad chwaraeon er enghraifft, gallant ddefnyddio eu hunain fel astudiaethau achos.

“Felly mae'r rhaglen yn un gref iawn. Mae'n gweithio'n dda iawn o ran cyfoethogi, ac o ran meithrin perthynas rhwng tiwtoriaid a myfyrwyr.

Ychwanegodd Matthew: “Mae’n waith caled ac mae gennym ni lawer o staff. Sam Downey yw’r hyfforddwr cryfder a chyflyru, Tudur Morris sy'n cyflwyno’r rhaglen gyda fi, ac mae Matt Morris a Rhodri Davies hefyd yn cyfrannu.

“Mae hi’n ymdrech ar y cyd, ac yn gallu bod yn her ar ddydd Mercher pan fyddwch chi’n teithio’r wlad. Ond mae'r cyfan yn werth chweil.”

Y gobaith rŵan yw parhau’n ddiguro yn y ddwy gêm olaf, gan nad ydynt wedi colli'r un pwynt ers eu gêm agoriadol gyfartal yn erbyn Coleg Reaseheath.

Mae eu rhediad ers hynny wedi cynnwys rhai buddugoliaethau enfawr, yn enwedig ar y cae 3G ar gampws Llandrillo-yn-Rhos, lle maent wedi curo Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy o 12 gôl i 0, Wirral Met o 9 gôl i 0, a Choleg Riverside/Cronton o 9 gôl i 2.

Maen nhw wedi bod yr un mor llwyddiannus oddi cartref, gan ennill o 7 gôl i 0 yn erbyn Coleg Cambria Iâl, 7 gôl i 1 yn erbyn Coleg Cambria Glannau Dyfrdwy, a 9 gôl i 2 yng Ngholeg Riverside/Cronton.

Mae gan Goleg Llandrillo ddwy gêm ar ôl, sef gêm gartref yn erbyn Coleg Cambria Iâl, a gêm oddi cartref yn erbyn Coleg Wigan a Leigh.

Ydych chi eisiau gweithio ym maes chwaraeon? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Chwaraeon ac Gweithgareddau Awyr Agored yng Ngrŵp Llandrillo Menai.