Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Dathlu llwyddiant dysgwyr yn seremoni wobrwyo flynyddol Coleg Llandrillo

Roedd Dysgwr y Flwyddyn, Rhys Morris ymhlith yr 20 a mwy o enillwyr a gafodd eu cydnabod yn y seremoni yn Venue Cymru

Roedd myfyriwr a enillodd gydnabyddiaeth genedlaethol gan y Brenin Charles, gofalwr ifanc a ffoaduriaid o Nigeria a Wcráin ymhlith yr enillwyr yn Seremoni Wobrwyo Coleg Llandrillo.

Caiff y seremoni ei chynnal yn Venue Cymru, Llandudno bob blwyddyn i ddathlu gorchestion dysgwyr addysg bellach y coleg.

Eleni cyflwynwyd tlysau i dros 20 o ddysgwyr. Mae darlithwyr o bob maes pwnc yn enwebu myfyrwyr am wobr, a Rheolwr y Maes Rhaglen sydd wedyn yn dewis yr enillydd ar gyfer y ddisgyblaeth honno.

Yna mae'r Pennaeth yn dewis y Prif Enillydd ar sail ei lwyddiant academaidd a'r hyn a gyflawnodd.

Enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddyn eleni oedd Rhys Morris sy'n dilyn cwrs lefel 3 mewn Gwasanaethau Amddiffyn sydd â Gwisg Swyddogol.

Yn gynharach eleni, enillodd Rhys wobr Addysg 'Ascential' Ymddiriedolaeth y Tywysog sy'n cydnabod pobl ifanc sydd wedi goresgyn rhwystrau ac wedi datblygu sgiliau newydd i wella eu rhagolygon ar gyfer y dyfodol trwy ailafael yn eu haddysg.

Cafodd y bachgen 16 oed o Abergele ei holi gan Ant a Dec wrth iddo dderbyn y wobr mewn seremoni yn Llundain, a chafodd gyfle hefyd i gwrdd â'r Brenin Charles mewn derbyniad arbennig ym Mhalas Buckingham.

Ar ôl ennill gwobr Dysgwr y Flwyddyn Coleg Llandrillo am 2024, dywedodd Rhys: “Mae derbyn unrhyw wobr yn braf, ond mae cael eich cydnabod gan eich coleg eich hun yn fraint arbennig iawn.

“Rydw i wedi dysgu llawer iawn ar fy nghwrs, ac wedi dod i ddeall gwahanol wasanaethau'r sector cyhoeddus yn well. Mae hyn wedi fy helpu i benderfynu pa wasanaeth yr hoffwn weithio iddo yn y dyfodol ac ymuno â Heddlu Gogledd Cymru ydi'r nod yn y pendraw.

“Dw i hefyd wedi cael cefnogaeth werthfawr gan fy nhiwtoriaid a gweddill y coleg, yn enwedig prif diwtor fy rhaglen sydd wedi bod yn help mawr ac wedi fy ngwthio i chwilio am gyfleoedd newydd fel sefyll yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru.”

Enillydd y wobr Lefel A oedd Melody Nnadozie, ceisiwr lloches o Nigeria a gafodd noddfa yn y Deyrnas Unedig ac sydd bellach yn swyddogol wedi cael statws ffoadur.

Fel siaradwr ieithoedd eraill, mae sgiliau Saesneg Melody wedi gwella o raddau D/E i raddau A/B ar ei chwrs Safon Uwch mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Mae hi wedi dal ati gyda'i hastudiaethau er gwaethaf amgylchiadau personol heriol, ac ar ôl derbyn cynigion gan y pum prifysgol y gwnaeth gais iddynt mae wedi penderfynu astudio'r Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Essex y flwyddyn nesaf.

Dywedodd Melody: “Mae hi'n fraint bod yn un o fyfyrwyr Coleg Llandrillo yn y Rhyl. Dw i'n hapus i fod yma – a chael heddwch i ganolbwyntio ar fy ngwaith ymhell o bob drama. Mae'r cyrsiau'n heriol a chyffrous.

“Mae ennill yn wobr am y gwaith caled a'r holl ymdrech i ffrwyno eich emosiynau. Mae gan y rhan fwyaf o bobl yma yn y coleg rieni i'w hannog, ond rydw i ar fy mhen fy hun. Rydw i'n falch dros ben o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni hyd yma.”

Enillodd Yuliia Batrak y wobr Lletygarwch ac Arlwyo am yr ail flwyddyn ar y tro.

Daw Yuliia o Kyiv yn Wcráin ac ym mis Tachwedd enillodd fedal aur yn y gystadleuaeth Gwasanaethau Bwyty yn rownd derfynol WorldSkills UK. Bellach mae hi'n rhan o sgwad y Deyrnas Unedig ac yn gobeithio cael ei dewis i fynd i Shanghai i gystadlu yn erbyn goreuon y byd yng nghystadleuaeth WorldSkills 2026. Ar ben hynny, enillodd fedal aur yng nghystadleuaeth Cogydd Crwst y Flwyddyn Dougie Simpson gwobrau'r Association Culinaire Francaise.

Dyma oedd gan Yuliia sy'n dilyn cwrs Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol i'w ddweud: “Rydw i wedi cael dwy flynedd wych yn astudio yng Ngholeg Llandrillo. Mae'r profiadau a'r cyfleoedd rydw i wedi'u cael wedi bod yn anhygoel. Dw i'n edrych ymlaen at barhau i gael yr un llwyddiant ar y cwrs Lefel 3 y flwyddyn nesaf.

“Dw i’n ddiolchgar iawn i fy nheulu, ac i holl aelodau staff Coleg Llandrillo am eu cefnogaeth – ond diolch yn arbennig i Mike Garner a Glenydd Hughes, y tiwtoriaid sydd wedi bod yn fy hyfforddi. Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn i mi dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”

Ymhlith yr enillwyr eraill roedd Alex Isaak (Gofal Plant) sy'n cyfuno ei hastudiaethau gyda bod yn ofalwr ifanc i’w mam a’i brawd; Arak Taktak (Iechyd a Gofal Cymdeithasol), sy'n annog agweddau cadarnhaol tuag at ferched Mwslimaidd ac a arweiniodd grŵp tiwtora ar ddiwrnod Hijab y Byd; a Hannah Jones a drefnodd gyngerdd i godi arian at PoTS UK, elusen sy'n helpu pobl â syndrom Postural orthostatic tachycardia.

Yr enillwyr ym mhob maes rhaglen oedd:

Mynediad i Addysg Uwch: Sophie Carr

Lefel A: Melody Nnadozie

Celf a Dylunio: Olivia Marshall-Wilson

Busnes: Jane Evans

Gofal Plant: Alex Isaac

Cyfrifiadura: Harvey Kendrick-Rees

Adeiladu: Ruby Hillary

Peirianneg: Jessica Flynn

Gwallt a Harddwch: Taylor Barrowclough

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Arak Taktak

Lletygarwch ac Arlwyo: Yuliia Batrak

Sgiliau Byw’n Annibynnol: Rhiannon Westwood

Cyfryngau: Nate Orr

Cerbydau Modur: Callum Pike

Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio: Hannah Jones

Gwasanaethau Cyhoeddus: Rhys Morris

Chwaraeon: Sammi-May Evans

Teithio a Thwristiaeth: Katie Crowther

Dysgwr y Flwyddyn yn y Gymuned: Tracy Hames

Myfyriwr Cymraeg y Flwyddyn: Shannon Corran

Ar y noson hefyd cafodd y myfyrwyr chwaraeon Phoebe Griffiths a Harvey Bennett eu cydnabod am gynrychioli Cymru mewn pêl-droed yn ystod y flwyddyn, ynghyd â Dylan Alford a enillodd ei gapiau cyntaf dros Gymru yng Ngŵyl Rygbi Timau o dan 18 y Chwe Gwlad.

Yn ogystal, cyflwynwyd gwobrau i dîm Academi Bêl-droed Coleg Llandrillo a gyrhaeddodd frig eu hadran ar ôl tymor hynod lwyddiannus ac a fydd yn cystadlu'r tymor nesaf ar y lefel uchaf o bêl-droed colegol.

Meddai Lawrence Wood, Pennaeth Coleg Llandrillo: “Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi ennill gwobr eleni. Cafodd y myfyrwyr hyn eu dewis am eu gwaith caled a'u hymroddiad i'w hastudiaethau, ac am eu cyflawniadau rhagorol dros y 12 mis diwethaf.

“Mae enillwyr y gwobrau yn dysteb i'n cenhadaeth o ‘Wella Dyfodol Pobl’ ac yn dysteb hefyd i gefnogaeth eu darlithwyr, eu tiwtoriaid personol a'u teuluoedd. Dyna sy'n gwneud y gwobrau hyn yn rhai arbennig iawn ac mae hi'n fraint cael eu cyflwyno. Da iawn bawb!”

Grŵp Llandrillo Menai sy’n cynnig y dewis ehangaf o brentisiaethau llawn amser, rhan-amser, a chyrsiau lefel gradd a phrifysgol yng Ngogledd Cymru. Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau a sut i wneud cais.