Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Meirion-Dwyfor yn ennill Twrnamaint Pêl-Droed 'Ability Counts' gogledd Cymru

Daeth dysgwyr o'r adrannau Sgiliau Byw'n Annibynnol a chyrsiau Cyn-alwedigaethol o bob rhan o Grŵp Llandrillo Menai ynghyd i gystadlu yn y gystadleuaeth ym Mae Colwyn. Bydd y tîm buddugol o Goleg Meirion-Dwyfor, a'r tîm o Goleg Glynllifon a ddaeth yn ail, yn mynd ymlaen i’r rowndiau terfynol cenedlaethol

Mae tîm o gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau wedi dod yn fuddugol yn ail dwrnamaint pêl-droed 'Ability Counts' ColegauCymru.

Bydd y tîm yn mynd ymlaen i‘r rownd derfynol cenedlaethol yng Nghaerdydd yn y flwyddyn newydd, ynghyd â thîm o Goleg Glynllifon a ddaeth yn ail.

Roedd y twrnamaint ym Mae Colwyn, a drefnwyd gan Chwaraeon ColegauCymru gyda chefnogaeth gan Grŵp Llandrillo Menai, ar gyfer dysgwyr Sgiliau Byw'n Annibynnol a Chyn-alwedigaethol o bob rhan o ogledd Cymru.

Teithiodd timau o bob rhan o'r Grŵp i Barc Eirias ar gyfer y gystadleuaeth, gyda thua 80 o fyfyrwyr yn cymryd rhan.⁠ Roedd dau dîm o Goleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, dau o Goleg Glynllifon, dau o Goleg Menai yn Llangefni ac un o Goleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos.

Cefnogwyd y digwyddiad hefyd gan bedwar o ddysgwyr chwaraeon Coleg Llandrillo a fuodd yn dyfarnu'r gemau, a dau lysgennad lles a gynorthwyodd fel trefnwyr cystadleuaeth.

Roedd y twrnamaint yn cynnwys gemau grŵp, gêm am y drydydd safle a gêm derfynol. Tîm o Langefni enillodd y gêm am y drydydd safle yn erbyn y tîm oedd yn cynrychioli Llandrillo-yn-Rhos.

Roedd gemau anghystadleuol hefyd i sicrhau bod cymaint o ddysgwyr â phosibl yn gallu mwynhau'r profiad.

Dywedodd Rob Baynham, cydlynydd Chwaraeon ColegauCymru: “Mae pêl-droed Ability Counts yn un o uchafbwyntiau y calendr chwaraeon AB ac roedd yn wych gweld llwyddiant digwyddiad gogledd Cymru unwaith yn rhagor.

"Mae ymgysylltu â dros 80 o ddysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol mewn digwyddiad o’r math hwn yn dyst i ymrwymiad colegau AB i les eu dysgwyr.

"Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, ac i'r tîm buddugol o Goleg Meirion-Dwyfor a’r tîm o Goleg Glynllifon a ddaeth yn ail."

Ychwanegodd Aled Jones-Griffith, Prif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai: “Rydym yn hynod falch o fod wedi cynnal ail dwrnamaint pêl-droed Ability Counts gogledd Cymru mewn cydweithrediad â CholegauCymru yn dilyn llwyddiant y gystadleuaeth gyntaf y llynedd.

“Roedd y twrnamaint yn dangos pwysigrwydd cynnal digwyddiadau fel hyn ar gyfer dysgwyr o bob gallu. Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, a phob lwc i’r timau buddugol o Goleg Meirion-Dwyfor a Choleg Glynllifon wrth gystadlu yn y twrnamaint cenedlaethol yng Nghaerdydd.”

Dilynwch y dolenni am ragor o wybodaeth am gyrsiau Sgiliau Byw'n Annibynnol a Cyn-alwedigaethol ⁠yng Ngrŵp Llandrillo Menai.