Coleg Menai yn cynnal digwyddiad i ddewis sgwad ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills 2024 yn Lyon
Mae saith peiriannydd ifanc yn cystadlu i gynrychioli'r Deyrnas Unedig yn rownd derfynol y byd eleni – ac yn eu plith mae Eva Voma o’r coleg
Yn ddiweddar fe gynhaliodd Coleg Menai'r digwyddiad cyntaf mewn cyfres i ddewis sgwad Gweithgynhyrchu Haen-ar-haen ar gyfer rownd derfynol WorldSkills 2024 yn Lyon.
Daeth y saith a gyrhaeddodd rownd derfynol cystadleuaeth WorldSkills UK y llynedd i Ganolfan Ynni’r coleg yn Llangefni, lle rhoddodd y darlithwyr Bryn Jones ac Iwan Roberts eu sgiliau peirianneg ar brawf.
Yn ddiweddar penodwyd Iwan a Bryn yn rheolwyr hyfforddi WorldSkills UK ar gyfer y categori gweithgynhyrchu haen-ar-haen. Byddant yn goruchwylio sawl digwyddiad a fydd yn y pen draw yn gweld un cystadleuydd yn cael ei ddewis i gynrychioli’r DU yn y rownd derfynol fyd-eang fis Medi.
Dros ddau ddiwrnod yn Llangefni, fe wnaethon nhw roi 12 o dasgau dylunio gyda chyfrifiadur i’r cystadleuwyr, gan gynnwys profion cyflymder ac ôl beiriannu, gan ddefnyddio meddalwedd Fusion 360 Autodesk. Bu staff WorldSkills UK hefyd yn monitro sgiliau meddal y cystadleuwyr megis canolbwyntio, rheoli amser, cynllunio a'r gallu i addasu.
Ymhlith y rhai sy'n gobeithio cyrraedd Ffrainc mae Eva Voma, a fu gynt yn fyfyrwraig yng Ngholeg Menai ac sydd bellach yn ddarlithydd peirianneg ar gampws Llangefni.
Dywedodd Eva, a enillodd wobr efydd yn rownd derfynol gweithgynhyrchu haen-ar-haen y llynedd: “Roedd y tasgau yn bendant yn gam i fyny o’r lefel flaenorol ac yn ein herio ni. Dangosodd lle rydw i'n gryf a lle rydw i angen gwella.
“Mae Bryn, Iwan a chyfleusterau’r coleg wedi bod yn gefnogaeth wych. Roedden ni’n bendant yn cael ein paratoi ar gyfer sut beth yw cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol – roedd hyd yn oed y sŵn a’r bwrlwm wedi’u hail-greu ar ein cyfer ni yn ystod y gystadleuaeth!”
Ymunodd pedwar cystadleuydd o UTC Sheffield ag Eva yn y digwyddiad, un o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac un o Midlands Technical College.
Roedd y myfyrwyr UTC Sheffield yng nghwmni eu hathro peirianneg drydanol Mark Rigby.
Dywedodd: “Mae’r myfyrwyr wedi ei chael hi’n heriol ac yn sialens, fel y dylai fod, ond mae ganddyn nhw gefnogaeth WorldSkills UK, UTC Sheffield a Bryn ac Iwan yma yn y coleg, ac mae’n gyfle gwych iddyn nhw
“Mae’r cyfle i gynrychioli’r DU yn rownd derfynol WorldSkills yn gyfle unwaith-mewn-oes a allai drawsnewid bywyd.”
Pan ofynnwyd beth oedd ei farn am Ganolfan Ynni Coleg Menai, sy'n gartref i argraffwr 3D gwerth 1 miliwn a gyfrannwyd gan Autodesk, meddai Mark: “Mae’r cyfleusterau yma yn hollol wych. Maent yn paratoi'r myfyrwyr ar gyfer eu gyrfaoedd a'r cam nesaf yn eu bywydau."
Tra bod Iwan a Bryn yn profi sgiliau technegol y cystadleuwyr, roedd y garfan hefyd yn cael ei monitro gan Chris Herron, Rheolwr Datblygu Rhyngwladol WorldSkills UK, a Lyle Kirkham, seicolegydd perfformiad gyda thîm perfformiad a lles WorldSkills UK.
Dywedodd Lyle: “Pan fyddwch chi'n camu ymlaen ar lwyfan y byd, mae bron fel Gemau Olympaidd lle mae gennych chi'r talentau gorau yn cyflwyno eu sgiliau.
“Rhai o’r nodweddion rydyn ni’n edrych arnyn nhw yw canolbwyntio, rheoli amser, trefniadaeth, cynllunio, y gallu i addasu ac ymateb i wahanol sefyllfaoedd. Mae cymaint yn gallu digwydd, mae'n rhaid i'r cystadleuwyr fod yn barod i anghofio’r cyfan am eu cynllun ar ôl y pum munud cyntaf.
"Ein rôl ni yn WorldSkills UK ydi eu cefnogi nhw, eu harwain nhw, a gwrando arnyn nhw hefyd. Mae'n rhaid i ni ddeall pa ofynion y maen nhw'n eu hwynebu a gallu rhoi'r gefnogaeth a'r sgiliau angenrheidiol iddyn nhw reoli hynny hefyd.”
Dywedodd Chris: “WorldSkills yw’r gystadleuaeth sgiliau galwedigaethol fwyaf yn y byd, ac mae’n denu tua 200,000 o ymwelwyr. Bydd dros 1,300 o gystadleuwyr o fwy na 80 o wledydd, yn cystadlu ar draws mwy na 50 o sgiliau.
“Pwrpas y digwyddiad hwn yw i ni ddewis ein tri neu bedwar cystadleuydd cryfaf a fydd yn symud ymlaen i’r cam nesaf, lle byddant yn derbyn hyfforddiant pellach gan WorldSkills UK, gyda'r bwriad o gael eu dewis i gynrychioli Tîm y DU yn WorldSkills 2024 yn Lyon."
Ychwanegodd: “Mae pawb i'w weld wedi ymroi ac yn canolbwyntio. Mae'r coleg wedi bod yn agored a chroesawgar iawn, ac mae wedi bod yn wych cwrdd â phawb.
“Dyma’r tro cyntaf i mi fod yma fy hun, ac rydyn ni wedi’n plesio’n fawr gan y cyfleusterau rhagorol ac yn ddiolchgar am y gefnogaeth rydyn ni’n ei chael gan y coleg.”
I gael rhagor o wybodaeth am WorldSkills UK, ewch i worldskillsuk.org
Eisiau dysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, cliciwch yma.