Gweithdy peirianneg i ddysgwyr Chweched Dosbarth yn cael ei gynnal yng Ngholeg Menai
Bu myfyrwyr o'r coleg ac ysgolion lleol yn creu eu prototeipiau eu hunain wrth fynd i'r afael â heriau go iawn a osodwyd gan gwmnïau peirianneg
Yn ddiweddar, croesawodd Coleg Menai y cam diweddaraf ym mhrosiect blynyddol Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) ar gyfer darpar beirianwyr sydd yn y chweched dosbarth yng ngogledd-orllewin Cymru.
Bob blwyddyn, mae’r Cynllun hwn yn gwahodd ysgolion a cholegau i gymryd rhan yn y prosiect, gyda dysgwyr 16-18 oed yn mynd i’r afael â phroblemau peirianneg go iawn.
Mae'r prosiect chwe mis yn dechrau ym mis Hydref, pan fydd myfyrwyr yn cael eu rhoi mewn timau, gyda phob un ohonynt yn cael eu paru â pheiriannydd o’r diwydiant. Mae'r peiriannydd cyswllt hwn yn briffio'r tîm ar broblem sy'n wynebu eu cwmni, problem y mae'r myfyrwyr yn ymchwilio iddi er mwyn dod o hyd i ateb.
Ar ôl datblygu eu syniadau, gwahoddir y timau wedyn i weithdy, a gynhaliwyd eleni yn y Ganolfan Ynni ar gampws Coleg Menai yn Llangefni. Yn y gweithdy, dyluniodd a chreodd y myfyrwyr eu prototeip yn barod ar gyfer y diwrnod asesu yn y gwanwyn.
Daeth myfyrwyr o Goleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor ac Ysgol Friars ym Mangor i'r gweithdy. Bydd pob tîm yn creu adroddiad ar y prosiect, gan gynnwys eu syniadau, datblygiad y dyluniad, y datrysiad arfaethedig a dadansoddiad o’r gost. Byddant hefyd yn rhoi cyflwyniad i'w cwmni cyswllt cyn y diwrnod asesu, a chyn i'w cyflawniadau gael eu cydnabod mewn digwyddiad gwobrwyo yn y gwanwyn.
Trwy gymryd rhan yn y prosiect, mae myfyrwyr yn dyfnhau eu dealltwriaeth o beirianneg, yn magu hyder ac yn gwella eu sgiliau datrys problemau, gwaith tîm, ysgrifennu adroddiadau a chyflwyno. Mae hefyd yn gwella eu CVs a'u ceisiadau UCAS, a gallant wneud cais am Wobr Aur Crest, sy'n cydnabod cyfraniadau i faes astudio STEM.
Y cwmnïau cyswllt sy'n ymwneud â'r prosiect eleni yw:
- Ore Catapult
- TATA Steel Shotton
- First Hydro
- Dylunio Cynnyrch Prifysgol Bangor
- CK Tools
- Network Rail
- Toyota
- Ifor Williams
- JCB Transmissions
- Dylunio Cynnyrch Prifysgol Wrecsam
- Mott MacDonald
- Cyngor Gwynedd
- Prifysgol Aberystwyth
Dywedodd Dawn Wilde, cydlynydd prosiect Chweched Dosbarth EESW yng Ngogledd Cymru: “Y syniad yw rhoi sgiliau byd go iawn i’r myfyrwyr. Mae'r dysgwyr yn cyfarfod â'u mentoriaid o’r diwydiant, ac erbyn y Nadolig maen nhw wedi dewis un syniad, ac wedyn yn gwneud prototeipiau o'u syniad.
“Mae o fudd i’r myfyrwyr, ac mae o fudd i’r diwydiant hefyd oherwydd mae pobl ifanc yn aml yn gallu meddwl y tu allan i’r bocs ac maen nhw’n dod o hyd i atebion i heriau go iawn. Mae'n fyd cystadleuol iawn allan yna, a phan fydd y dysgwyr yn mynd am gyfweliadau ar gyfer prentisiaethau, swydd neu gwrs prifysgol, bydd rhai o'r profiadau hyn yn rhoi mantais iddyn nhw.
“Maen nhw’n dysgu sgiliau meddal – gweithio mewn timau, sut i helpu ei gilydd a sut i ddefnyddio cryfderau unigol i gael y canlyniad terfynol.”
Roedd Shaun Holdsworth, Pennaeth y Gyfadran Dylunio a Thechnoleg a TGCh yn Ysgol Friars, yng Ngholeg Menai ar gyfer y gweithdy.
Meddai am y prosiect: “Mae’n rhoi goleuni pellach i’r myfyrwyr ar fod yn greadigol ac arloesol, gan weithio mewn cyd-destunau byd go iawn. Maen nhw'n gweithio ar brosiect byw, yn cyflwyno'r prosiect hwnnw, yn ysgrifennu adroddiad academaidd, ac mae'n rhoi sgiliau hanfodol i'r dysgwyr hynny.
“Mae’r myfyrwyr yn ei fwynhau, ac maen nhw’n gwerthfawrogi bod ganddyn nhw’r sgiliau sydd eu hangen. Maen nhw’n sylweddoli ‘ydw, rydw i’n gallu cyflwyno, rydw i’n gwybod mwy nag ydw i’n fod i'w wybod, ac rydw i’n aelod hanfodol o'r tîm'."
Canmolodd Shaun gyfleusterau peirianneg y Ganolfan Ynni, gan ddweud: “Mae gennym ni gyfleusterau da yn ein hysgol ni, ond dydyn nhw ddim yn cymharu â’r hyn sydd i’w gael yma. Mae gennym ni ein hargraffwyr 3D a'n turnau ond mae'r cyfleusterau yn y coleg yn wych. Mae’n eang, yn agored a glân, a chyda digonedd o le. Mae’n cyfan yn ardderchog.”
Hoffech chi ddysgu rhagor am fyd cyffrous peirianneg gyda Grŵp Llandrillo Menai? I gael rhagor o wybodaeth am ein cyrsiau, cliciwch yma.