Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Bryn, darlithydd yng Ngholeg Menai, yn Lyon ar gyfer WorldSkills 2024

Penodwyd Bryn yn rheolwr hyfforddi gan WorldSkills UK er mwyn paratoi'r cystadleuwyr ar gyfer y 'Gemau Olympaidd ar gyfer Sgiliau' yn Lyon

Mae Bryn Jones, darlithydd peirianneg Coleg Menai, yn Lyon ar hyn o bryd, gyda charfan y Deyrnas Unedig ar gyfer WorldSkills 2024.

Mae mwy na 1,500 o bobl ifanc o 65 o wledydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am fedalau mewn ystod o ddisgyblaethau yn WorldSkills, gan arwain at iddynt gael eu hadnabod fel y 'Gemau Olympaidd ar gyfer Sgiliau'.

Mae cystadlaethau mewn seiberddiogelwch, ynni adnewyddadwy, adeiladu digidol, coginio, trin gwallt, paentio ac addurno a llawer mwy.

Penodwyd Bryn gan WorldSkills UK yn rheolwr hyfforddi gweithgynhyrchu ychwanegion ar gyfer y gystadleuaeth eleni. Mae wedi bod yn gyfrifol am hyfforddi Sgwad a Thîm y Deyrnas Unedig, gan eu paratoi i gystadlu ar safon ryngwladol yn WorldSkills Lyon. Yn ystod y gystadleuaeth, mae Bryn wedi cymryd rôl Arbenigwr, sy'n gyfrifol am oruchwylio rhedeg a marcio'r gystadleuaeth.

Mae wedi bod yn mentora Oscar McNaughton, a gafodd ei ddewis i gynrychioli’r Deyrnas Unedig yn y categori.

Mae Oscar, sy’n astudio ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn cystadlu yn erbyn eraill o bob rhan o’r byd dros bum niwrnod yr wythnos hon, mewn tasgau sy’n ymwneud â dylunio â chymorth cyfrifiadur, argraffu 3D a sganio 3D.

O dan adain Bryn, mae Oscar wedi cael defnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf ar gampws Coleg Menai yn Llangefni i hyfforddi, yn ogystal â chynnal sesiynau gyda chwmni technoleg Autodesk yn Birmingham. Mae Iwan Roberts, cyn-ddarlithydd yng Ngholeg Menai, sydd bellach yn rheolwr addysg gydag Autodesk, hefyd allan yn Lyon.

Meddai Bryn: “Mae wedi bod yn brofiad anhygoel bod yma yn Lyon, yn gweld yr holl arbenigwyr 'ma sydd ar frig eu maes.

“Mae’n anodd iawn gwybod sut fydd Oscar yn gwneud oherwydd mae yna gystadleuwyr cryf iawn yma o bob man ar draws y byd.

“Ond mae wedi bod yn hyfforddi’n dda iawn ac mae’n unigolyn galluog iawn, felly mi fydda i'n croesi 'mysedd.”

Mae WorldSkills UK wedi dewis tîm o 31 o fyfyrwyr a phrentisiaid i gystadlu yn Ffrainc.

Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Bydd cymryd rhan yn y 'Gemau Olympaidd ar gyfer Sgiliau' yn golygu ein bod yn cael profiadau hanfodol i sicrhau y gallwn ddatblygu ein rhaglenni prentisiaeth a'n hyfforddiant, a sicrhau eu bod o safon fyd-eang.

“Allwn i ddim bod yn fwy balch o’r bobl ifanc eithriadol sydd yn y tîm. Maen nhw’n fodelau rôl gwych.”

Ym mis Tachwedd bydd wyth o ddysgwyr Grŵp Llandrillo Menai yn cystadlu yn rowndiau terfynol WorldSkills UK ym Manceinion.

Byddant yn cael cyfle i gystadlu am le yn Nhîm y Deyrnas Unedig yn y dyfodol, gyda chystadleuaeth nesaf WorldSkills yn cael ei chynnal yn Shanghai yn 2026.

Yr wyth dysgwr yw: Evan Klimaszewski (Electroneg Ddiwydiannol), Lucas Jackson (Melino CNC), Sion Elias a Peter Jenkins (Roboteg Ddiwydiannol), Heather Wynne (Trin Gwallt), Clare Sharples, Carwyn Littlewood a Lauren Harrap-Tyson (Technegydd Cyfrifeg).

Pagination