Coleg Menai a Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn Gweithio gyda'i gilydd i Feithrin Talentau Lleol
Mae Coleg Menai wedi ymuno â Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon (CPTC) i helpu i lansio gyrfaoedd chwaraewyr talentog lleol.
Ymunodd Aled Jones-Griffith, Pennaeth Coleg Menai, a Marc Lloyd Williams, Cydlynydd Academi Menai a darlithydd chwaraeon yn y coleg, â Barry Evans, Rheolwr Masnachol CPTC a Dave Cavanagh, Pennaeth Hyfforddi a Rheolwr Academi'r clwb ar yr Oval yng Nghaernarfon i ffurfioli'r bartneriaeth trwy lofnodi Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth.
Yn sgil y bartneriaeth arloesol hon bydd chwaraewyr Dan 16, Dan 19 a Thîm Cyntaf CPTC yn ymweld yn rheolaidd bob chwech i wyth wythnos â Chanolfan Chwaraeon Coleg Menai. Costiodd y ganolfan hon £8 miliwn i'w chodi ac mae'n llawn cyfleusterau o'r radd flaenaf.
Yn ystod yr ymweliadau hyn, bydd y chwaraewyr yn cymryd rhan mewn asesiadau ffitrwydd a sesiynau dysgu dan arweiniad darlithwyr Chwaraeon profiadol Coleg Menai.
Bydd chwaraewyr dan 16 a 19 oed Academi CPTC yn gallu manteisio hefyd ar gyngor gyrfaol gan dîm Gwasanaethau i Ddysgwyr y coleg, ac o fodloni'r gofynion academaidd ar gyfer eu dewis gwrs byddant yn cael gwarant o le yn y coleg.
Tra byddant yn astudio yn y coleg, bydd y dysgwyr yn cael cynnig y cyfle i chwarae i Academi Bêl-droed Coleg Menai, a reolir gan Marc Lloyd Williams. Trwy Academi Menai caiff y myfyrwyr gyfle i chwarae pêl droed ar lefel uchel, gan gymryd rhan mewn cystadlaethau rhyngbarthol a chenedlaethol fel Uwch Gynghrair ECFA, Pencampwriaethau Chwaraeon Colegau Cymru, a thwrnameintiau pêl-droed Ysgolion Cymru.
Yn ogystal, bydd myfyrwyr chwaraeon Coleg Menai'n cael mwynhau sesiynau hyfforddi arbenigol dan ofal hyfforddwyr ardystiedig CPTC.
Meddai Marc Lloyd Williams, Cydlynydd Academi Menai,
“Mae rhai o’n cyn-fyfyrwyr oedd yn chwarae i Academi Menai – fel Dion Donohue a Sion Bradley – wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd llwyddiannus gyda Chlwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn Uwch Gynghrair Cymru. Mae Dion hefyd wedi mwynhau cyfnod llwyddiannus yn y gêm broffesiynol yn Lloegr gyda thimau Chesterfield a Portsmouth.
“Rydyn ni’n falch iawn o fod wedi ffurfioli ein partneriaeth gyda CPTC. Y tymor hwn yn unig mae llawer o chwaraewyr CPTC ac Academi Menai wedi chwarae eu gemau cyntaf yn Uwch Gynghrair Cymru, ac ar y cyd rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i feithrin talentau pêl-droedwyr ifanc yn yr ardal.”
Esboniodd Osian Evans, sy'n fyfyriwr chwaraeon yng Ngholeg Menai ac yn chwarae i dîm cyntaf CPTC,
“Mae’r bartneriaeth newydd rhwng Coleg Menai a’r clwb pêl-droed yn ein galluogi ni fel pêl-droedwyr i wella ein sgiliau a’n ffitrwydd, diolch i gyfleusterau newydd, modern y coleg.
“Mae gallu defnyddio'r labordy yng nghanolfan chwaraeon newydd y coleg yn gyfle i ni weld beth yw lefel bresennol ein ffitrwydd a dod i adnabod ein cryfderau a'n gwendidau.”
Ychwanegodd,
“Trwy chwarae i Academi Menai, rydyn ni’n cael y cyfle hefyd i gynrychioli Cymru – sy'n glamp o anrhydedd. Rydw i'n edrych ymlaen yn fawr at allu elwa ar y bartneriaeth newydd hon rhwng y clwb pêl-droed a'r coleg.”
Meddai Dave Cavanagh, Pennaeth Hyfforddi ac Academi CPTC,
“Rydw i'n falch iawn bod Clwb Pêl-droed Tref Caernarfon yn ffurfio partneriaeth gyda Choleg Menai er mwyn helpu chwaraewyr ifanc talentog i ddatblygu eu sgiliau ym myd addysg ac mewn pêl-droed.
“Bydd y bartneriaeth hon yn creu cyfleoedd nid yn unig i chwaraewyr ein Hacademi ddefnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i fonitro eu hiechyd a'u lles, ond hefyd i wneud dewisiadau doeth o ran gyrfa ac i gael mynediad i gyfleoedd datblygu cenedlaethol rhagorol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
“Mae cael defnyddio cyfleusterau o’r radd flaenaf yn gam sylweddol ymlaen ac yn sicrhau bod yr amgylchedd safonol rydym yn ei gynnig yn cynnwys cyfleoedd addysgol.
“Un o brif amcanion Academi Caernarfon yw nid yn unig datblygu chwaraewyr gwell ond datblygu pobl well hefyd, ac mae cyfleoedd i barhau ag addysg yn allweddol i hyn. Mae bod yn bêl-droediwr proffesiynol yn dibynnu ar waith caled a gallu i ganolbwyntio ar y cae ac oddi ar y cae. Yn sicr, bydd y bartneriaeth hon yn gyfraniad mawr tuag at gynhyrchu unigolion talentog yn yr ardal.”