Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Coleg Menai - Cartref cyntaf Accounting Club Educators yng Nghymru

Mae Guto Jones a Carwyn Jones, ill dau yn ddarlithwyr, bellach yn gymwys i gyflwyno rhaglen ddifyr, ryngweithiol gyda’r nod o wella llythrennedd ariannol pobl ifanc

Guto Jones a Carwyn Jones, sy'n ddarlithwyr yng Ngholeg Menai, ydy'r Accounting Club Educators (ACE) cyntaf Cymru.

Yn ddiweddar cymhwysodd y darlithwyr Busnes i gyflwyno Accounting Clubs in Schools - cynllun rhyngweithiol, hwyliog a hygyrch gyda'r nod o wella llythrennedd ariannol pobl ifanc.

Mae Accounting Clubs in Schools yn rhaglen 10 wythnos sy'n darparu addysg ariannol fel gweithgaredd cyfoethogi ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed. Fe'i cynhelir gan Accounting Cafe, gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr, ac mae'n defnyddio'r Colour Accounting Learning System o dan drwydded.

Mae Guto a Carwyn, sy’n dysgu ar gampws newydd Tŷ Menai ym Mangor, bellach yn gymwys i redeg 'Accounting Clubs' i fyfyrwyr ar draws amrywiol gyrsiau, yn ogystal ag ymgorffori rhai o’r dulliau yn eu haddysgu eu hunain.

Dywedodd Guto: “Dydi o ddim yn debyg i addysgu cyfrifyddu traddodiadol. Does dim rhaid i chi fod yn wych mewn mathemateg. Mae'n hwyl, mae'n ddysgu mewn ffordd ginesthetig iawn, mae'n syml ac mae 'na elfen o greadigrwydd.

“Rydym eisiau sefydlu’r Accounting Club yma, ac yn gobeithio y bydd yn datblygu. Mae'n mynd i helpu'r dysgwyr sy'n astudio cwrs gydag elfennau o gyfrifon ynddo, a gwella llythrennedd ariannol y bobl sy'n cymryd rhan.

“Mae’n beth hwyliog a allai gael pobl i feddwl am yrfa mewn cyfrifeg, ond nid dim ond hynny. Rydyn ni'n gallu defnyddio’r 'Colour Accounting Learning System' i addysgu elfennau o gyfrifeg ar gyrsiau eraill, megis Lletygarwch ac Arlwyo, Gwallt a Harddwch, a Theithio a Thwristiaeth.

“Mae gennym ni lawer o bobl sy'n mynd i fod yn fasnachwyr unigol. Yn yr ardal lle rydyn ni’n byw mae yna lawer o BBaChau (Mentrau Bach a Chanolig), a bydd yn ddefnyddiol iddyn nhw hefyd.”

Sefydlwyd Accounting Clubs in Schools yn 2021, ac ar hyn o bryd mae’n rhedeg mewn tua 20 o ysgolion a cholegau yn y Deyrnas Unedig.

Mae'n darparu dealltwriaeth sylfaenol o lythrennedd ariannol, gan gwmpasu pynciau fel cyfrifeg, cyllidebu a chynilo, buddsoddi, a chael mantais gystadleuol yn y farchnad swyddi.

Mae'n defnyddio'r Colour Accounting System, sy'n eiddo i Wealthvox, ac offer fel y bwrdd BaSIS sydd ag arddull gêm fwrdd.

Lluniau: Wealthvox

Mynychodd Guto a Carwyn gwrs hyfforddi ar sut i gyflwyno’r rhaglen, gan gynnwys sut i ddefnyddio’r Colour Accounting System, ac maent bellach yn ACEs ardystiedig.

Dywedodd Toby York, sylfaenydd Accounting Cafe: “Rydym wrth ein bodd yn gweld Guto a Carwyn yn ACEs cyntaf Cymru.

“Mae eu hymrwymiad i lythrennedd ariannol yn cyd-fynd yn berffaith â’n cenhadaeth i rymuso myfyrwyr â chraffter ariannol ymarferol. Mae hwn yn gam cyffrous yn ein nod i wneud addysg ariannol gynhwysfawr yn hygyrch i holl fyfyrwyr y Deyrnas Unedig.”

Dywedodd fod ysgolion a cholegau sy'n rhedeg y rhaglen yn adrodd bod mwy o ymgysylltiad myfyrwyr a bod presenoldeb rhagorol yn y sesiynau, gyda rhai myfyrwyr wedi'u hysbrydoli i ddilyn cwrs cyfrifeg ar lefel prifysgol.

Mae Accounting Clubs in Schools defnyddio dull 'agnostig cyfoeth' a all fod o fudd i bob myfyriwr, waeth beth fo'u cefndir economaidd neu eu dyheadau ariannol.

Dywedodd Toby: “Mae’r dull unigryw sy’n seiliedig ar fframwaith yn galluogi myfyrwyr i werthuso unrhyw sefyllfa ariannol, hyd yn oed rhai nad ydynt wedi dod ar eu traws o’r blaen. Mae’n ymwneud â meithrin perthynas iach ag arian, nid addysgu cysyniadau technegol.”

Dywedodd Catherine Skipp, Rheolwr Maes Rhaglen y Diwydiannau Gwasanaethu a Busnes yng Ngholeg Menai: “Dw i’n falch iawn bod Guto a Carwyn wedi dod yn ACEs cyntaf Cymru. Mi gawson nhw gymorth ariannol gan Goleg Menai i gyflawni eu hachrediad.

“Dw i wrth fy modd ein bod bellach yn gallu cynnig cyfleoedd cyfoethogi ychwanegol i’n dysgwyr, a fydd yn eu helpu i ddatblygu perthynas iach ag arian ac o bosibl yn eu cynorthwyo yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mi hoffwn i hefyd ddiolch i Guto a Carwyn am fynd yr ail filltir i allu cynnig y cyfle hwn i’n dysgwyr.”

I gael rhagor o wybodaeth am sut i ddod yn ACE, ewch i wefan Accounting Cafe: accountingcafe.org

Ydych chi eisiau gyrfa mewn busnes? Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am ein cwrs Astudiaethau Busnes Lefel 3.

Pagination