Coleg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logosColeg Llandrillo, Coleg Menai, Coleg Meirion-Dwyfor and Busnes@LlandrilloMenai logos

Myfyriwr Coleg Menai yn Codi Coron Codi Pwysau Cenedlaethol

Mae myfyriwr Adeiladu o Goleg Menai wedi ennill medal aur ar ôl rhagori ym Mhencampwriaethau Codi Pwysau Cymru.

Bu Cian Green, 18 oed o Nantlle, ger Penygroes – sy’n fyfyriwr Weldio a Ffabrigo Lefel 3 ar gampws y coleg yn Llangefni – yn cystadlu yng nghystadleuaeth y tîm dan 20 gan godi 100kg ‘Snatch’ a 130kg ‘Clean and Jerk’.

Dechreuodd Cian godi pwysau er mwyn cryfhau i chwarae rygbi, ond erbyn hyn mae’n bencampwr y tîm dan 20 ac yn dal record Cymru!

Cynhaliwyd y gystadleuaeth genedlaethol yn ddiweddar yng Nghanolfan Brailsford, Prifysgol Bangor, a daeth y gystadleuaeth genedlaethol â chodwyr ifanc ac iau o bob rhan o Gymru ynghyd i gystadlu yng nghystadlaethau codi pwysau cyntaf Cymru yn 2022.

Dywedodd Cian: “Rwy’n falch iawn gyda fy mherfformiad ym Mhencampwriaethau Cymru. Rydw i wedi bod yn hyfforddi 4 gwaith yr wythnos i baratoi, ac wedi gorfod trefnu fy hyfforddiant o amgylch fy ngwaith coleg. Fedra’ i ddim aros i weld sut mae’r flwyddyn hon yn dod yn ei blaen, ac rydw i’n gobeithio un diwrnod cynrychioli Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad.”

18-year-old Cian Green from Nantlle, near Penygroes - who is a Level 3 Welding & Fabrication student at the college’s Llangefni campus - competed in the U20s’ competition and lifted 100kg Snatch and 130kg Clean and Jerk.

Cian only started weightlifting to get stronger for rugby, and now he is the U20s’ champion and Welsh record holder!

Held recently at Brailsford Centre, Bangor University, the national competition brought together youth and junior lifters from all round Wales to compete at the first Welsh weightlifting competitions of 2022.

Cian said: “I’m really pleased with my performance at the Welsh Championships. I’ve been training 4 times a week in preparation, and have had to schedule my training around my college work. I can’t wait to see how this year progresses, and I am hoping one day to represent Wales at the Commonwealth Games.”