Sut wnaeth Courtney a Cameron greu anrhegion Nadolig ar gyfer 120 o blant
Mae dau o fyfyrwyr caredig o Goleg Meirion-Dwyfor wedi bod yn gweithio gyda phlant ysgol yn Nolgellau i greu ac addurno bocsys anrhegion i blant a dreuliodd gyfnod y Nadolig yn yr ysbyty
Gweithiodd y myfyrwyr o Goleg Meirion-Dwyfor gyda'r disgyblion ysgol i greu 120 o focsys anrhegion Nadolig i blant oedd yn yr ysbyty neu mewn gofal.
Mae Courtney Riches a Cameron Newman ill dau yn astudio Astudiaethau Busnes Lefel 3 ar gampws y coleg yn Nolgellau.
Yn y cyfnod cyn y Nadolig, buont yn casglu rhoddion ac yn ymweld â safleoedd ysgolion cynradd Ysgol Bro Idris, lle buont yn helpu plant i lenwi ac addurno’r bocsys anrhegion.
Yna, cyflwynodd Courtney a Cameron yr anrhegion i blant a babanod yn Ysbyty Maelor Wrecsam ac i Wasanaethau Plant Wrecsam.
Dywedodd y darlithydd busnes Carys Davies: “Mae’r myfyrwyr wedi gweithio'n galed iawn ar y fenter hon.
“Fe aethon nhw i mewn i’r ysgolion am bum wythnos, gan weithio gyda disgyblion ysgolion lleol i addurno a llenwi’r bocsys fel bod plant yn yr ysbyty ac mewn gofal yn gallu derbyn anrhegion Nadolig.
“Roedd y bocsys yn cynnwys teganau, gemau, losin, llyfrau lliwio a llawer mwy. Llenwyd pob bocs yn ofalus yn ôl rhyw ac oedran y plentyn a allai dderbyn y bocs. Yna, rhoddwyd label ar bob bocs i sicrhau eu bod yn mynd at blant hyd at 11 oed neu fabanod newydd-anedig.
“Casglodd y myfyrwyr lawer o roddion eu hunain, a bu plant safleoedd Ysgol Bro Idris hefyd yn cyfrannu rhoddion.
“Rydw i'n falch iawn o ba mor galed y mae Courtney a Cameron wedi gweithio, a pha mor ymroddedig y maent wedi bod hyd at ddiwedd y prosiect hwn.”
Meddai Jordan Edwards, o Wasanaethau Plant Wrecsam: “Cafodd y bocsys eu rhannu rhwng rhai o’r timau gofal cymdeithasol o fewn Gwasanaethau Plant Wrecsam.
“Fel y gwyddom i gyd, ychydig iawn y mae rhai o’r plant hyn yn ei gael ar gyfer y Nadolig ac roedd yr anrhegion hyn yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan y plant i gyd. Diolch i’r myfyrwyr am weithred mor arbennig o garedig.”
Hoffech chi gael gyrfa heriol ym myd busnes? Mae cwrs Astudiaethau Busnes Lefel 3 Grŵp Llandrillo Menai yn eich paratoi at yrfa mewn meysydd busnes amrywiol, yn cynnwys rheoli, cyllid, y gyfraith, manwerthu ac adnoddau dynol. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.