Yr Adrannau Celf Creadigol yn cynnal arddangosfeydd diwedd blwyddyn
Mae’r arddangosfeydd yn Nolgellau, Parc Menai a Llandrillo-yn-Rhos yn cynrychioli penllanw blwyddyn o ymroddiad a chreadigrwydd gan fyfyrwyr dawnus y colegau
Mae arddangosfeydd Celf Creadigol diwedd blwyddyn Grŵp Llandrillo Menai yn agored i'r cyhoedd tan 14 Mehefin.
Mae'r arddangosfeydd yn digwydd yn yr adrannau Celf a Dylunio ar gampws Coleg Meirion-Dwyfor yn Nolgellau, ar gampws Coleg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos a champws Coleg Menai ym Mharc Menai.
Mae'r digwyddiadau hyn yn cynrychioli penllanw blwyddyn o ymroddiad a chreadigrwydd gan fyfyrwyr dawnus y colegau, gan arddangos eu gwaith a nodi carreg filltir bwysig yn eu taith academaidd.
Mae’r arddangosfeydd yn gyfle i weld gwaith o’r ystod o wahanol lwybrau sydd ar gael i ddysgwyr Celf a Dylunio, yn cynnwys celfyddyd gain, ffasiwn, tecstilau, print, graffeg, ffotograffiaeth, celf 3D a mwy.
Mae’r arddangosfeydd yn agored i’r cyhoedd fel a ganlyn:
- Coleg Meirion-Dwyfor, Dolgellau: 10-14 Mehefin (9.30am tan 6pm).
- Coleg Menai, Parc Menai: 10, 11 a 12 Mehefin (9.30am tan 7.30pm), 13 Mehefin (9.30am tan 3pm).
- Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos: Mehefin 10-14 (9am tan 5pm).
Lansiwyd arddangosfa Coleg Llandrillo ddydd Iau diwethaf gyda pherfformiad gan Leri-Ena Graham, myfyriwr Technoleg Cerddoriaeth, gyda dysgwyr y cwrs Celfyddydau Perfformio hefyd yn perfformio darnau o'r sioe Chicago, sydd wedi cael llawer o ganmoliaeth.
Dywedodd Liz Jones, Rheolwr Maes Rhaglen Cyfrifiadura a Diwydiannau Creadigol yng Ngholeg Llandrillo: “Mae ein rhaglen celfyddydau creadigol wastad wedi ymroi i feithrin amgylchedd anogol lle gall artistiaid archwilio eu potensial, herio eu ffiniau, ac ysbrydoli eraill trwy eu gwaith.
“Mae’r arddangosfa hon yn dyst i’w hymroddiad, eu gwaith caled a’u hangerdd. Mae’n arddangos amrywiaeth o gyfryngau ac arddulliau, gan adlewyrchu’r cyfoeth o syniadau a themâu y mae ein hartistiaid wedi’u harchwilio, a rhoi cipolwg ar eu prosesau creadigol unigryw.”
Lansiwyd arddangosfa Coleg Menai ddydd Gwener diwethaf. Fe'i hagorwyd gan yr artist a’r gemydd enwog Angela Evans. Cyn cychwyn ar ei gradd a'i gyrfa lwyddiannus, astudiodd Angela y cwrs Sylfaen Celf ym Mharc Menai.
Meddai Paul Edwards, Rheolwr y Celfyddydau Creadigol yng Ngholeg Menai: “Mae'r arddangosfa yn uchafbwynt mawr i ni, ac yn arddangos y gwaith rhagorol y mae ein dysgwyr yn ei gynhyrchu yma ym Mharc Menai, gyda chefnogaeth y staff ardderchog.
“Byddwn yn annog pawb i ymweld â’r arddangosfa yn ystod yr wythnos nesaf, i weld y safon uchel o gelf sydd yma.”
Dywedodd Martin Evans, Arweinydd y Ddiploma / Diploma Estynedig mewn Celf a Dylunio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor: “Yn Nolgellau rydyn ni'n falch o gael tîm ymroddedig o staff addysgu sy’n deall pwysigrwydd rhoi’r rhyddid i’r myfyrwyr fynegi eu hunain yn greadigol, mewn arbenigeddau megis celfyddyd gain, dylunio 3D, ffotograffiaeth a ffilm, cyfathrebu graffig, dylunio ffasiwn a’r cyfryngau. .
“Mae’r arddangosfa yn rhywbeth rydyn ni’n edrych ymlaen ato’n fawr bob blwyddyn. Mae'n arddangos amrywiaeth o dalent y myfyrwyr sydd ar y cyrsiau Galwedigaethol Lefel 2 a Lefel 3, y cyrsiau Sylfaen Lefel 3/4 a chyrsiau Safon Uwch.
“Mae ein myfyrwyr yn cael llwyddiant yn Nolgellau, ac eleni maent wedi sicrhau llefydd ar gyrsiau prifysgol yn Goldsmiths yn Llundain, Metropolitan Caerdydd, Caer, Huddersfield a Phrifysgol Salford i enwi rhai.
“Rydyn ni'n hynod falch o’n myfyrwyr a’r hyn y maent wedi gallu ei gynhyrchu ar gyfer arddangosfa anhygoel arall.”
Mae’r sector celf a dylunio yn cynnig llwybr gyrfa cyffrous a llawn posibiliadau i’r rhai sydd â diddordeb mewn creadigrwydd, mynegiant gweledol, a bod yn arbrofol. I gael rhagor o wybodaeth am gyrsiau Grŵp Llandrillo Menai, cliciwch yma.